Arolwg Erasmus+ InterCom

Mae cydweithwyr o InterCom wedi gofyn i ni rannu arolwg maent yn ei gynnal ynglŷn ag Erasmus+.

Am yr arolwg

Mae wedi’i anelu at bobl ifanc (hyd at 30 oed), ac rydym yn gwybod y bydd hyn yn cynnwys rhai aelodau o staff gwaith ieuenctid ac arweinwyr ifanc hefyd. Felly, mae croeso i chi ei gwblhau os yw’n berthnasol i chi. Gobeithiwn y bydd yr ymatebion yn cyfrannu at y ffordd y caiff y rhaglen ei llunio a’i gweithredu ar ôl 2027; yn y cyfamser, gallai roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar y Cyngor Prydeinig i deilwra’r negeseuon a’r gefnogaeth a ddarperir i chi.

Gallwch ddod o hyd i’r ddolen yma: https://bit.ly/eplusyouthcymru

Mae InterCom hefyd yn gobeithio cynnal gweithdy ar gyfer hyd at 20 o bobl ifanc ar yr 2il o Ragfyr ym Mae Caerdydd. Mae arian ar gael i gefnogi costau teithio i’r rhai na fyddent yn gallu fforddio hynny fel arfer.

Rhowch wybod i ni os hoffech gefnogi hyn, a gobeithio y gallwn wneud i hyn ddigwydd i chi 😊

Erasmus@cwvys.org.uk

Cyfleoedd Hyfforddi Erasmus Plus rhad ac am ddim i Weithwyr Ieuenctid

KA1

Mae’r Cyngor Prydeinig, yn ei rôl fel yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer E+ y DU, yn talu costau cyfranogwyr llwyddiannus o’r DU i fynychu’r cwrs hyfforddi hwn ym mis Ionawr; https://www.salto-youth.net/tools/european-training-calendar/training/tic-tac-training-course-partnership-building-activity-mobility-of-youth-workers.15443/

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw’r 25ain o Dachwedd.

Mae’r cwrs wedi’i anelu at bobl sy’n ystyried gwneud cais am gyllid Erasmus+. Mae’n canolbwyntio ar KA1 sy’n flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod (2027).

Mae’r cwrs hwn yn fersiwn o’r un cwrs gaeth ein Swyddog Cyfathrebu, Helen Jones y cyfle i’w fynychu yn Lithwania ym mis Ebrill 2016. Fel y disgrifir, yn ystod yr wythnos bydd cyfranogwyr yn dysgu’r broses gam wrth gam o greu prosiect, yr holl themâu a thargedau allweddol y mae angen eu cyrraedd, syniadau ac enghreifftiau ar gyfer gweithgareddau ymarferol; ac wrth gwrs, mae’n cynnig cyfle amhrisiadwy i gwrdd â phartneriaid posibl wyneb yn wyneb. A bydd yn cael ei gynnal yn Rhufain!

 

KA2

I’r rhai ohonoch sy’n ystyried cyflwyno cais o dan y llinyn KA2, mae cwrs arall a allai fod o ddiddordeb i chi. Mae’n rhad ac am ddim ac ar-lein, felly nid oes angen teithio; fodd bynnag, mae angen i chi fod ar gael ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle:

  • 14 Rhagfyr 2026, 10:00-16:00 CET – sesiwn ddysgu ar-lein gyntaf
  • 14 Ionawr 2027, 10:00-16:00 CET – ail sesiwn ddysgu ar-lein
  • 27 Ionawr 2027, 13:00-15:00 CET – cyfarfod cyflwyno prosiect (Project Pitch) ar-lein

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw’r 26ain o Dachwedd, a gallwch ddod o hyd i’r manylion yma; https://www.salto-youth.net/tools/european-training-calendar/training/online-challenge-develop-your-quality-ka2-small-scale-partnership-project-focused-on-youth-participation.15452/

Cysylltwch â Helen@cwvys.org.uk

Rhowch wybod i ni os ydych yn ymgeisio neu yn ystyried wneud gais i Erasmus+  😊

Dweud diolch Wythnos yr Ymddiriedolwyr ‘ma

Yr wythnos hon yw Wythnos yr Ymddiriedolwyr ! Hoffem ni yn CWVYS dweud diolch o’r galon i’n bwrdd o Ymddiriedolwyr gwych. Eu hymroddiad a’u cefnogaeth, flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n ein cadw ar y trywydd iawn; fyddem ni ddim yr un peth hebddynt.

Os ydych chi’n fusnes, mae gennym gyfle gwych i aelodau o’ch staff sy’n anelu at fod yn arweinwyr yn y dyfodol. Gallant ddatblygu eu rhinweddau unigryw drwy ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr un o’n sefydliadau aelod.

Fel rhan o’n prosiect ‘Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd’, rydym yn cefnogi unigolion brwdfrydig a thalentog – sydd â diddordeb yn y sector ieuenctid gwirfoddol – i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau drwy wirfoddoli fel Ymddiriedolwr.

Mae cymorth un-i-un ar gael, ac mae nifer o grwpiau ieuenctid ledled Cymru yn awyddus i groesawu pobl newydd i’w Byrddau.

Mwy o wybodaeth yma; https://www.cwvys.org.uk/ymddiriedolwyr-ar-bwrdd/?lang=cy

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’n Cydlynydd Ymgynghorol Gwirfoddolwyr Busnes, Eifion Williams, trwy Eifion@cwvys.org.uk

NEWYDDION; HWB SECTOR IEUENCTID ERASMUS PLUS CYMRU!!

Mae’r Cyngor Prydeinig (British Council) wedi comisiynu CWVYS i redeg Canolfan Sector Ieuenctid Erasmus Plus ar gyfer Cymru, o 2 Tachwedd 2026 tan ddiwedd mis Mawrth 2027.

Bydd hyn yn golygu y byddwn yn cynnig cymorth gwell i’r sector ar gyfer darpar ymgeiswyr Erasmus+ (Sector Ieuenctid) yng Nghymru.

Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion gyda chi yn rheolaidd – cadwch lygad am ein negeseuon!

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, rhowch wybod i ni trwy Erasmus@cwvys.org.uk

Edrychwch ar ein tudalen Hwb yma; https://www.cwvys.org.uk/erasmus-plus/index.html?lang=cy

Cadwch y dyddiad
9.00am–2.00pm ar 2 Rhagfyr yn eich dyddiaduron.

Cynhelir digwyddiad wyneb yn wyneb, a drefnir gan dîm Sector Ieuenctid y Cyngor Prydeinig (gyda CWVYS), yn swyddfeydd Urdd Gobaith Cymru ym Mae Caerdydd. Bydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn annerch y digwyddiad.

Rhagor o wybodaeth yma; https://www.erasmusplus.org.uk/cy/digwyddiadau/diwrnod-gwybodaeth-erasmus-ieuenctid-cymru

Digwyddiad lansio pecyn cymorth Cymru Global

Rydych chi wedi’ch gwahodd: parti lansio ar gyfer pecyn cymorth ‘Gweithredu dros yr Hinsawdd a Heddwch’!

Ymunwch â ni ddydd Sul 22 Tachwedd, rhwng 11am ac 1pm, yn Portland House ym Mae Caerdydd i ddathlu lansiad ein pecyn cymorth newydd, ‘Gweithredu dros yr Hinsawdd a Heddwch’ – pecyn a grëwyd gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl ifanc, gwirfoddolwyr a phartneriaid o Gymru a ledled y byd wedi helpu i greu canllaw ymarferol i ddeall y materion, datblygu eich sgiliau a chymryd camau gweithredu ym maes yr hinsawdd a heddwch. Dewch draw am ‘brunch’ am ddim a cherddoriaeth fyw, cwrdd â phobl ifanc eraill sy’n ysgogi newid, a chael cipolwg cyntaf ar y pecyn cymorth. Mae wedi’i lunio ar gyfer pobl ifanc, arweinwyr ieuenctid a sefydliadau ieuenctid; bydd y 50 person cyntaf i gofrestru yn derbyn llyfr nodiadau ‘Gweithredu dros yr Hinsawdd a Heddwch’ am ddim.

Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch nawr; https://actionnetwork.org/events/launch-event-climate-peace-action-toolkit

Ariennir y prosiect hwn gan Taith, rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru.

Diweddariad ar Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid

Cynhaliwyd cyfarfod o Fwrdd Cyflawni’r Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid ddoe. Yn sgil y cyfarfod, mae gennym ychydig o ddiweddariadau i’w rhannu gyda’r sector;

  • Mae gweinidogion yn parhau i gefnogi mewn egwyddor sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, tra’n cydnabod y cyd-destun ariannol a’r angen i adnabod dull sy’n ymarferol, yn gynaliadwy ac yn cynnig gwerth am arian.
  • Mae model lle byddai sefydliad presennol yn gweithredu fel cartref i’r corff cenedlaethol yn un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried. Nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud ynghylch a ddylid mabwysiadu’r model hwn. Fel Bwrdd Cyflenwi, rydym yn parhau i weithio gyda swyddogion i archwilio’r gwahanol opsiynau a’r oblygiadau ymarferol sy’n deillio o’r rhain. Mae hyn yn cynnwys ystyried beth allai modelau gwahanol eu cynnig, yr heriau neu’r risgiau sy’n deillio ohonynt, a beth fyddai ei angen i wneud iddynt weithio’n effeithiol.
  • Mae model lle byddai sefydliad presennol yn cael ei ofyn i weithredu fel cartref i’r corff cenedlaethol yn un o’r opsiynau posibl sy’n cael eu harchwilio, ond mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud mai dyma’r dull a ffefrir. Mae trafodaethau’r Bwrdd Cyflenwi yn helpu i ddeall beth allai dull o’r fath ei gynnig, yn ogystal â’i heriau a’i risgiau posibl, fel rhan o ystyried yr opsiynau posib.
  • Mae’n bwysig bod unrhyw benderfyniadau ynghylch corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yn adlewyrchu anghenion y sector gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru. Byddai angen i unrhyw gynigion ystyried sut y gallai’r corff gefnogi’r sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir, sefydlu hunaniaeth a phwrpas clir, a bod ganddo hyder yn ei allu i gyflawni gan y sector gyfan.

 

Mae Prif Weithredwr CWVYS, Paul Glaze, yn aelod o’r Bwrdd Cyflawni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu syniadau yr hoffech eu rhannu, cysylltwch â Paul@cwvys.org.uk

Cyfarfod Nesaf Grŵp Democratiaeth Cymru

Dim ond 6 mis sydd ar ôl tan yr etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, ac mae Electoral Reform Society Cymru eisiau nodi dyddiad ar gyfer cyfarfod nesaf Grŵp Democratiaeth Cymru.

Bydd hwn yn sesiwn friffio ar y cynlluniau ar gyfer etholiadau’r cynghorau, a fydd yn ymdrin â newidiadau sylweddol, gan gynnwys Cofrestru Etholwyr yn Awtomatig. Mae ERS wedi cadarnhau siaradwyr o Lywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol a Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar y 25ain o Dachwedd, am 2yp ar Teams.
Cysylltwch â cymru@electoral-reform.org.uk os hoffech ymuno â’r grŵp.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Democracy Group Cymru yma; https://electoral-reform.org.uk/ymgyrchoedd/grwp-democratiaeth-cymru/?lang=cy

Gweminarau Erasmus+ Mis Tachwedd

Y Cyngor Prydeinig yw Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Rhaglen Erasmus+, y bydd y DU yn gallu cymryd rhan ynddi eto pan fydd y galwad am gyllid yn agor yn ddiweddarach eleni.

Gan fod y DU wedi bod allan o’r rhaglen ers nifer o flynyddoedd, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnal cyfres o weminarau eglurhaol i gyflwyno (neu ailgyflwyno) y Sector Ieuenctid i’r posibiliadau y gall cyllid Erasmus+ eu cynnig i unigolion a sefydliadau.

Isod gallwch weld rhestr o’r gweminarau sydd ar ddod. Sylwch y byddant yn cael eu recordio a’u rhoi ar-lein ar gyfer unrhyw un na all fod yn bresennol yn fyw.

Os na allwch fod yn bresennol, byddwch yn gallu gweld recordiadau o’r gweminarau yma maes o law; https://www.youtube.com/@ErasmusPlus-UK Mae’n werth tanysgrifio i gael hysbysiadau

Sesiwn Ieuenctid Erasmus+: Symudedd Gweithwyr Ieuenctid

Dyddiad: 12 Tachwedd, 10:00 – 11:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Thema Ieuenctid Erasmus+: Prif Weithred 2 (Cydweithredu)

Dydd Gwener 13 Tachwedd, 10:00 – 11:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Ieuenctid Erasmus+: Cyfnewidiadau Ieuenctid

Dydd Llun 16 Tachwedd, 10:00 – 11:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Dechrau gyda Ieuenctid Erasmus+

17 Tachwedd, 12:00 – 13:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Ieuenctid Erasmus+: Cynhwysiant DiscoverEU

Dydd Mercher 18 Tachwedd, 12:00 – 13:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn cyfranogiad Ieuenctid Erasmus+

20 Tachwedd, 12:00 – 13:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Seminar ar Erasmus+ ar gyfer Ieuenctid Gwledig

26 Tachwedd, 13:00 – 17:00 GMT

Cofrestrwch yma

Cofrestrwch erbyn y 22ail o Dachwedd

 

Gwnewch yn siwr fod chi’n tanysgrifio i’r cylchlythr E+ y DU hefyd;https://www.erasmusplus.org.uk/cy/cylchlythyr