Rydych chi wedi’ch gwahodd: parti lansio ar gyfer pecyn cymorth ‘Gweithredu dros yr Hinsawdd a Heddwch’!

Ymunwch â ni ddydd Sul 22 Tachwedd, rhwng 11am ac 1pm, yn Portland House ym Mae Caerdydd i ddathlu lansiad ein pecyn cymorth newydd, ‘Gweithredu dros yr Hinsawdd a Heddwch’ – pecyn a grëwyd gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl ifanc, gwirfoddolwyr a phartneriaid o Gymru a ledled y byd wedi helpu i greu canllaw ymarferol i ddeall y materion, datblygu eich sgiliau a chymryd camau gweithredu ym maes yr hinsawdd a heddwch. Dewch draw am ‘brunch’ am ddim a cherddoriaeth fyw, cwrdd â phobl ifanc eraill sy’n ysgogi newid, a chael cipolwg cyntaf ar y pecyn cymorth. Mae wedi’i lunio ar gyfer pobl ifanc, arweinwyr ieuenctid a sefydliadau ieuenctid; bydd y 50 person cyntaf i gofrestru yn derbyn llyfr nodiadau ‘Gweithredu dros yr Hinsawdd a Heddwch’ am ddim.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch nawr; https://actionnetwork.org/events/launch-event-climate-peace-action-toolkit
Ariennir y prosiect hwn gan Taith, rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol Cymru.