Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd

Mae’r Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau a fydd o gymorth i ddeall Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026. Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau | LLYW.CYMRU

Pwrpas y canllawiau yw codi ymwybyddiaeth o’r newidiadau sydd ar ddod yn sgil y Gorchymyn, a helpu darparwyr a rhanddeiliaid i ddeall beth y gallai’r newidiadau ei olygu i wahanol fathau o ddarpariaeth. Y bwriad yw cefnogi darparwyr yn y sectorau cofrestredig ac anghofrestredig i ystyried sut y gallai’r newidiadau effeithio ar eu darpariaeth, ac a allai fod yn ofynnol iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Dyma rai o’r newidiadau allweddol a gyflwynir gan Orchymyn 2026:

  • Eglurder ynghylch pryd mae gwarchodwyr plant sy’n gofalu am blant sy’n perthyn iddynt wedi’u heithrio rhag y gofyniad i gofrestru
  • Adolygu’r terfynau oedran ac amser presennol a chyflwyno trothwyon newydd ar gyfer rhai eithriadau, yn enwedig ar gyfer gweithgareddau coetsio a dysgu
  • Cryfhau’r trefniadau goruchwylio a sicrhau ansawdd ar gyfer darpariaeth i blant dwy oed ac iau
  • Cysoni’r eithriadau ar gyfer nanis, au pairs a charcwyr
  • Galluogi plant 10 oed i fanteisio ar wasanaethau ieuenctid wrth bontio
  • Rhwystro darparwyr sydd wedi’u hatal rhag gweithredu o dan eithriadau penodol.

Mae’r canllawiau hefyd yn darparu rhagor o wybodaeth am y cyfnod pontio, cyn i’r Gorchymyn ddod yn orfodol.

Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth mae croeso i chi rannu’r wybodaeth yma, ac wrth gwrs gallech rhannu postiadau’r Llywodraeth Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol wrth iddynt gael eu cyhoeddi. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod darparwyr, sefydliadau a rhanddeiliaid ehangach yn ymwybodol o’r newidiadau sy’n dod, yn gwybod lle i ddod o hyd i’r canllawiau, ac yn deall lle i fynd am ragor o wybodaeth.

Gweminar Wythnos Croeso i dy Bleidlais

Mae Wythnos Croeso i dy Bleidlais yn wythnos ymwybyddiaeth flynyddol a drefnir gan y Comisiwn Etholiadol ar gyfer addysg ddemocrataidd.

Nod yr wythnos yw helpu pobl ifanc i ddysgu am ddemocratiaeth, pleidleisio ac etholiadau, a theimlo’n fwy hyderus wrth gymryd rhan.

Gallwch weld rhai enghreifftiau o sut y cefnogodd sefydliadau’r wythnos yn 2026 yma – Wythnos Croeso i dy Bleidlais | Y Comisiwn Etholiadol

Cynhelir Wythnos Croeso i dy Bleidlais 2027 rhwng dydd Llun 8 Mawrth a dydd Sul 14 Mawrth. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ymgyrch y flwyddyn nesaf, rwy’n eich annog i gofrestru ar gyfer y gweminar ar 24 Tachwedd i gael gwybod mwy; https://www.eventbrite.co.uk/e/be-part-of-welcome-to-your-vote-week-2027-wales-tickets-2003504840912?aff=oddtdtcreator

📣 Gweminarau Erasmus+

Y Cyngor Prydeinig yw Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Rhaglen Erasmus+, y bydd y DU yn gallu cymryd rhan ynddi eto pan fydd y galwad am gyllid yn agor yn ddiweddarach eleni.

Gan fod y DU wedi bod allan o’r rhaglen ers nifer o flynyddoedd, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnal cyfres o weminarau eglurhaol i gyflwyno (neu ailgyflwyno) y Sector Ieuenctid i’r posibiliadau y gall cyllid Erasmus+ eu cynnig i unigolion a sefydliadau.

Isod gallwch weld rhestr o’r gweminarau sydd ar ddod. Sylwch y byddant yn cael eu recordio a’u rhoi ar-lein ar gyfer unrhyw un na all fod yn bresennol yn fyw.

Os na allwch fod yn bresennol, byddwch yn gallu gweld recordiadau o’r gweminarau yma maes o law; https://www.youtube.com/@ErasmusPlus-UK Mae’n werth tanysgrifio i gael hysbysiadau 🙂

 

Sesiwn Wybodaeth Erasmus+ Ieuenctid: Dechrau gyda Erasmus+ Ieuenctid

Dyddiad: Dydd Gwener 16 Hydref, 12:00 – 13:00 BST

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Thema Erasmus+ Ieuenctid: Cyfnewidiadau ieuenctid

Dyddiad: Dydd Llun 19 Hydref, 10:00 – 11:00 BST

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Thema Erasmus+ Ieuenctid: Symudedd gweithwyr ieuenctid

Dyddiad: Dydd Mawrth 20 Hydref, 10:00 – 11:00 BST

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Thema Erasmus+ Ieuenctid: DiscoverEU ar gyfer Cynhwysiant

Dyddiad: Dydd Mercher 21 Hydref, 12:00 – 13:00 BST

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Thema Erasmus+ Ieuenctid: Cyfranogiad ieuenctid

Dyddiad: Dydd Iau 22 Hydref, 12:00 – 13:00 BST

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Thema Erasmus+ Ieuenctid: Prif Weithrediad 2 (KA2)

Dyddiad: 26 Hydref, 10:00 – 11:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Gweminar Dod o Hyd i Bartneriaid Pan-Nordig (Y Ffindir, Denmarc, Sweden, Norwy) gyda’r DU

Dyddiad: 3 Tachwedd, 14:00 – 15:00 GMT

Dysgwch fwy a chofrestrwch yma

Gwnewch yn siwr fod chi’n tanysgrifio i’r cylchlythr E+ y DU hefyd; https://www.erasmusplus.org.uk/cy/cylchlythyr

Datganiad Gweinidogol ar Ddiogelu ar gyfer Cymru Fwy Diogel

Cyhoeddodd Delyth Jewell AS, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod, ddatganiad yn ddiweddar ar ddiogelu.

Mae ‘Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel’ yn ymateb i ganfyddiadau’r Adolygiad Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu, a arweiniwyd gan Jan Pickles OBE. Nododd yr Adolygiad fod angen goruchwyliaeth genedlaethol gryfach, atebolrwydd cliriach a threfniadau mwy cyson ar gyfer casglu a rhannu gwybodaeth a gwersi ym maes diogelu, a gweithredu ar eu sail. Mae rhaglen ‘Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel’ yn cyflwyno ein hymateb i’r canfyddiadau hyn ac yn cryfhau trefniadau diogelu ar gyfer y dyfodol.

Dysgwch ragor yma: https://www.llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diogelu-cryfach-ar-gyfer-cymru-fwy-diogel

Gwahoddiad: Digwyddiadau Paru Partneriaid Ieuenctid Erasmus+ 2027

Mae’n debyg eich bod eisoes yn ymwybodol y bydd y DU yn ailymuno â Rhaglen Erasmus+ pan fydd y rownd nesaf yn agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach y gaeaf hwn neu yn y flwyddyn newydd.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais ac sy’n chwilio am sefydliadau partner i gydweithio â nhw, fe welwch wahoddiad isod i sesiwn paru partneriaid ar gyfer ‘Key Action 1’ a ‘Key Action 2’ ym maes Ieuenctid.

Cynhelir y ddwy sesiwn ym mis Tachwedd: dydd Iau y 19eg a dydd Gwener yr 20fed.

Edrychwch isod os oes gennych ddiddordeb, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cais erbyn y 6ed o Dachwedd.

Gwahoddiad: Digwyddiadau Paru Partneriaid Ieuenctid Erasmus+ 2027

Rydym yn eich gwahodd i ddigwyddiadau Paru Partneriaid Ieuenctid Erasmus+ 2027; dau ddigwyddiad ar-lein am ddim ar gyfer sefydliadau yn y DU a gwledydd eraill yn Ewrop sy’n gweithio ym maes ieuenctid. Bydd y digwyddiadau yn eich helpu i ddod o hyd i bartneriaid sy’n gweithio ar bynciau tebyg ac i drafod syniadau prosiect ar gyfer Galwad 2027.

  •  KA1 Ieuenctid (KA152, KA153, KA154, KA155): Dydd Iau, 19 Tachwedd 2026, 16:00–19:00 CET (15:00–18:00 amser y DU).
  • KA2 Ieuenctid (KA210-YOU, KA220-YOU): Dydd Gwener, 20 Tachwedd 2026, 16:00–19:00 CET (15:00–18:00 amser y DU).

Cynhelir y ddau ddigwyddiad ar Zoom, gyda stafelloedd trafod thematig ar gyfer paru partneriaid a chyflwyno syniadau prosiect. Gallwch gofrestru ar gyfer un neu’r ddau ddigwyddiad gan ddefnyddio’r ddolen https://forms.gle/xZ3WiCEkxnHtiV88A erbyn 6 Tachwedd 2026 am 23:59 CET (22:59 amser y DU).

Byddwn yn adolygu pob cofrestriad ac yn anfon cadarnhad drwy e-bost gyda’r ddolen Zoom o fewn 10 diwrnod. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhad ac am ddim ac yn cael eu trefnu’n annibynnol gan SUMA; nid ydynt yn ddigwyddiadau swyddogol gan y Comisiwn Ewropeaidd na’r Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+.

Cofion gorau,
Leo Fel, Is-lywydd
SUMA – Cymdeithas ar gyfer Datblygu Cynaliadwy
info@udrugasuma.hr

Lleisiau dros Effaith; £125 ar gael i’r grŵp gyda’r nifer fwyaf o ymatebion.

Mae llawer ohonoch eisoes yn ymwybodol o waith ein Swyddog Cymorth Busnes a Phrosiectau Mandi, gyda Bytes, ond fel nodyn atgoffa: mae Lleisiau dros Effaith yn blatfform digidol ac yn offeryn arolwg sydd wedi’i gynllunio i gasglu ac ymhelaethu ar safbwyntiau plant a phobl ifanc rhwng 9 a 25 oed ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae gan Mandi daleb Amazon gwerth £125 i’w rhoi i’r sefydliad sydd wedi cyflwyno’r nifer mwyaf o ymatebion i’r arolwg gan bobl ifanc. 😃

Os gallai £125 eich helpu i gael gafael ar ddeunyddiau crefft gwych, darn o dechnoleg neu hyd yn oed fyrbrydau ar gyfer eich sefydliadau, pam na wnewch chi gynnal sesiynau gyda’r bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw a chael cyfle i ennill?

Dim ond ychydig funudau y mae arolygon yn eu cymryd ac maent yn ymdrin â materion pwysig gan gynnwys:

Cymdeithas Decach

Mynediad Digidol

Iechyd a Lles Da

Dysgu, Sgiliau a Gwaith

Mae pob arolwg wedi’i gwblhau yn helpu i adeiladu sylfaen dystiolaeth gryfach ac yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn penderfyniadau yn y dyfodol. Gall y rhai sydd â diddordeb glicio ar bob categori i weld canlyniadau’r ymatebion sydd eisoes wedi’u cyflwyno; mae’n rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar farn pobl ifanc ar ystod eang o bynciau sy’n effeithio arnynt, ac ar gymdeithas yn ehangach.

👉 Cofrestrwch eich sefydliad yma: https://voicesforimpact.ai/submit-your-group/

Eisoes wedi cofrestru? Mewngofnodwch a dechreuwch annog pobl ifanc i gymryd rhan heddiw.

Yma gallwch ddod o hyd i becyn gwybodaeth i gefnogi hwyluso sesiwn yn eich grŵp;

Welsh version – VfI Workshop facilitation pack (Sept 2026) 1