Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), Maint Cymru a CWVYS yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, cyfiawnder hinsawdd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu yn y byd ehangach.
Rydym yn cydweithio i gynnal Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc yn yr Eisteddfod ar 7 Gorffennaf 2022, lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a gwobr.
Gobeithio y caiff plant a phobl ifanc (rhwng 5 a 25 bl. oed) eu hysbrydoli i fod yn greadigol ac i fynegi eu syniadau am sut y gall y byd fod yn fwy heddychlon, cyfiawn a chynaliadwy ar ôl COVID19 – ar ffurf geiriau, celf neu’n ddigidol.
Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol:

  • Heddychwr Ifanc y flwyddyn
  • Awdur Heddwch Ifanc y flwyddyn
  • Artist Heddwch Ifanc y flwyddyn
  • Hyrwyddwr Hinsawdd Ifanc y flwyddyn
  • Dinesydd Byd-eang Ifanc y flwyddyn
  • Hyrwyddwr Treftadaeth Heddwch y flwyddyn
  • Heddychwr Ifanc Rhyngwladol (yn agored hefyd i bobl ifanc o’r tu allan i Gymru):

Mae hi hefyd yn dderbyniol i enwebu rhywun arall, gyda’u caniatâd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 10 Mehefin, 2022.

Medrwch weld y telerau a’r amodau am y Gwobrau ar yma, yn ogystal â’r ffurflen gais.  Anfonwch eich ceisiadau at  centre@wcia.org.uk.