Mae’r ymateb i’n harolwg wedi dangos bod y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru wedi derbyn ac ymateb i her Covid-19 yn sydyn ac yn dda dros ben, gyda llai na 8% o’r Aelodau a arolygwyd yn nodi unrhyw newid gweithredol.

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma: Adroddiad CWVYS ar effaith Covid-19 ar Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru. Dylai lawrlwytho’n awtomatig a dylai’r rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgrin allu cyrchu disgrifiadau testun o’r graffiau a’r siartiau.

Tra bod hi’n glir bod gan y sector bryderon mawr am y dyfodol ar ôl y cyfyngiadau symud, mae nifer wedi addasu eu gwasanaethau neu ailbwrpasu adnoddau’n sydyn ac wedi parhau i gefnogi’r cymunedau maen nhw’n gweithio ynddynt.

Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i’n harolwg, gan ystyried y galw ar sylw pobl a’r cynnydd yn straen ac ansicrwydd dros yr ychydig fisoedd diwethaf, nid ydym yn cymryd y ffaith bod ein Aelodau wedi cymryd yr amser i ymateb yn ganiataol. Diolch i’r Aelodau hynny a ddarparodd cyfoeth o wybodaeth i ni, gobeithiwn fod yr adroddiad hwn wedi bod yn ddefnyddiol i holl aelodau CWVYS a’r sector ehangach.

Anelwn at gynnal yr arolwg hwn unwaith y chwarter yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Os yw’r materion yn yr adroddiad hwn yn canu cloch yn eich mudiad, neu os ydych yn gweld cyfleoedd am ymgysylltiad a chefnogaeth ar draws y sector, gallwch weld rhestr o Aelodau CWVYS ar ein gwefan: https://www.cwvys.org.uk/cy/members/

Rydym yn sicr y byddai Aelodau’n croesawu’r cyswllt. Daw gwerth y sector o’i Haelodau a sut rydych yn cefnogi eich gilydd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau e-bostiwch helen@cwvys.org.uk