Yma gallwch ddod o hyd i nifer o Gwestiynau Cyffredin y mae Corff Trefnu Sector Ieuenctid Taith wedi’u llunio i gynorthwyo ymgeiswyr;

 

A all mudiadau sydd wedi’u cofrestru yn Lloegr neu rywle arall yn y DU wneud cais am ariannu Taith? 
Mae’n bosib i fudiadau yn y DU sy’n gweithredu yng Nghymru ond nad ydynt wedi’u cofrestru yma wneud cais i Taith. Rhaid i’r gweithgaredd gynnwys cyfranogwyr sy’n ymwneud yn weithredol â mudiad Cymreig ac mae’n rhaid i’r cais ddangos sut y bydd y rhaglen arfaethedig o fudd i Gymru ond nid oes angen iddynt fod wedi’u cofrestru yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth gweler tudalen 34 o Ganllaw Rhaglen Taith.

 

Oes rhaid i brosiectau fod yn newydd neu a allwn ni wneud cais am ariannu Taith i redeg prosiect blaenorol/cyfredol?
Na, nid oes rhaid i brosiectau fod yn newydd, gall ymgeiswyr wneud cais i ariannu prosiectau o’r gorffennol sy’n cael eu hail-redeg. Nid yw prosiectau sydd eisoes yn cael eu hariannu yn gymwys.

 

Pa grwpiau oedran all gymryd rhan? 
Ar gyfer pobl ifanc sy’n cymryd rhan mae’r ystodau oedran yn amrywio o 11 i 25 ar gyfer gweithgareddau fel teithiau cyfnewid ieuenctid. Bydd angen i ddysgwyr sy’n dymuno cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli, cyrsiau hyfforddi ac yn y blaen fod rhwng 16 – 25. Ar gyfer staff/gweithwyr proffesiynol sy’n cymryd rhan nid oes terfyn oedran uchaf. 

 

A yw gwledydd y tu allan i Ewrop wedi’u cynnwys yn Taith?
Ydyn. Gall fudiadau ac unigolion sy’n teithio y tu allan i Gymru wneud cais i deithio i wledydd ar draws y byd. Wrth ddod o hyd i bartneriaid a chynllunio prosiectau sicrhewch eich bod yn gwirio Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU am gyngor teithio a rhestr o wledydd sydd wedi’u gwahardd oherwydd ansefydlogrwydd neu wrthdaro. Dylai ymgeiswyr ofalu eu bod yn trefnu gweithgareddau mewn gwledydd sefydlog a diogel er budd yr holl gyfranogwyr.

 

Faint o bartneriaid rhyngwladol sydd angen i ni eu cynnwys?
Rhaid i chi fod yn bartner gydag o leiaf un mudiad mewn gwlad y tu allan i’r DUOs ydych yn gwneud cais am ‘Symudedd grŵp – profiad teithio rhagarweiniol’ fel rhan o’ch cais, gallwch bartneru â mudiadau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ond rhaid i’r prosiect hefyd gynnwys partner o’r tu allan i’r DU ar gyfer elfen ryngwladol y prosiect.

 

A oes angen i ni gynnwys partner penodol yn ein cais?
Nid oes angen i chi gael partner(iaid) yn eu lle ar yr adeg o wneud cais. Os oes gennych chi bartneriaid yn barod, rhowch gymaint o fanylion â phosibl yn y cais ond os nad ydych wedi dod o hyd i bartner, y cyfan sydd angen i chi wneud yw nodi pa fath o bartner yr ydych am weithio gydag ef a pham.  Gorau po fwyaf o fanylion y gallwch eu darparu ar hyn, i ddangos bod y prosiect arfaethedig wedi’i ystyried yn drylwyr a bod cynlluniau priodol ar waith i’w wneud yn llwyddiant. Os ydych wedi nodi partner yn eich cais a bod y cynlluniau hyn yn newid yn ddiweddarach, mae hynny’n iawn, y cwbl byddai angen i chi wneud yw dangos bod gennych sail resymegol glir dros y newid ac na fydd yn effeithio ar nodau ac amcanion cyffredinol y prosiect. 

 

A fydd ein partneriaid rhyngwladol yn cael eu holl gostau prosiect i deithio i Gymru?
Na.  Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cyfleoedd symudedd i ddysgwyr Cymreig deithio y tu allan i Gymru. Gall ariannu prosiect ar gyfer symudiadau mewnol i gyfranogwyr ddod i Gymru gyfrif am hyd at 30% o gyllideb eich prosiect ar gyfer symudedd allanol.

 

A yw cyflogau/amser staff wedi’u cynnwys yng nghostau’r prosiect?
Yr ateb yw na ar gyfer Llwybr 1, ond gall fudiadau ddefnyddio cyllideb cymorth sefydliadol i dalu rhai o’r costau hyn os yw’n ymarferol.

 

Os byddwn yn llwyddiannus, a fydd ein holl ariannu yn cael ei ddyfarnu ymlaen llaw?
Na fydd ond bydd taliad ymlaen llaw sylweddol yn cael ei drosglwyddo unwaith y bydd y cytundeb grant wedi’i lofnodi, gyda thaliadau pellach yn cael eu gwneud ar ôl cwblhau cerrig milltir y prosiect megis cyflwyno adroddiadau interim neu derfynol.

 

A fyddwn ni’n gallu gweithio gyda sectorau heblaw Ieuenctid? 
Byddwch, ond byddai’n rhaid i geisiadau fynd i un sector o hyd, nid y ddau. Felly pe bai ysgol a grŵp ieuenctid yn cydweithio ar gais dylent benderfynu pa fudiad fyddai’n berthnasol i ba faes, naill ai Ieuenctid neu Ysgolion ac ati. 

 

A yw holl gostau’r prosiect wedi’u cynnwys?
Mae ariannu’n cael ei gyfrifo ar sail ‘costau uned’ sy’n cwmpasu pethau fel teithio, cynhaliaeth a chymorth sefydliadol. Mae’r model ariannu wedi’i gynllunio i sicrhau bod mudiadau’n gallu talu holl gostau’r prosiect ond mae hyn yn dibynnu ar reolaeth yr ariannu a mudiadau’n cadw at y costau uned rhagosodedig. Ceir rhagor o wybodaeth am y cyfraddau grant a’r hyn a gwmpesir ar dudalennau 121 – 125 o Ganllaw Rhaglen Taith.

 

Faint o geisiadau y gall ein mudiad eu cyflwyno fesul galwad ariannu?
Dim ond un cais y gall pob mudiad ymgeisio ei gyflwyno fesul galwad ariannu. Fodd bynnag, gallwch gynnwys cynifer o weithgareddau yn y cais ag y dymunwch – nid oes uchafswm. Gallwch wneud cais am unrhyw un neu bob un o’r gweithgareddau pobl ifanc a staff, a gallwch hefyd wneud cais am lu o’r un gweithgareddau – e.e. symudedd grŵp i Ffrainc a symudedd grŵp i Dde Affrica.

 

Faint o alwadau ariannu sydd bob blwyddyn?
Ar hyn o bryd mae un galwad ariannu wedi’i chynllunio fesul blwyddyn fesul sector – y dyddiad cau ar gyfer galwadau ar hyn o bryd yw 12 Mai. Mae posibilrwydd y bydd galwad ariannu ychwanegol yn cael ei hagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn dibynnu ar lefel y ceisiadau. Os a phryd y penderfynir ar hyn, bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ar wefan Taith ac yn uniongyrchol i fudiadau sydd â diddordeb. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd o alwad am ariannu ychwanegol felly mae Taith yn eich annog i gyflwyno cais cyn dyddiad cau’r alwad ariannu sef 12 Mai os oes gennych brosiect mewn golwg.

 

A fydd yn rhaid i mi dalu costau fisa i ddysgwyr?
Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â theithio (fel fisâu, pasbortau a brechiadau) yn cael eu talu ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig – gweler tudalen 118 o Ganllaw Rhaglen Taith am y diffiniad ar gyfer Ieuenctid. Nid yw costau fisa ar gyfer cyfranogwyr eraill yn cael eu talu a bydd angen i’r cyfranogwyr unigol eu talu, er y gellir defnyddio ariannu grant ar gyfer cymorth sefydliadol ar gyfer hyn lle bo’n ymarferol.

 

A fydd Llywodraeth Cymru yn noddi ceisiadau fisa ar gyfer cyfranogwyr sy’n teithio i Gymru?
Mae tîm Taith yn gweithio ar hyn ar hyn o bryd a bydd yn cyhoeddi arweiniad pellach maes o law.

 

A oes ariannu ychwanegol ar gael i ddysgwyr difreintiedig neu’r rhai ag anghenion ychwanegol?
Oes, mae ariannu ychwanegol ar gyfer dysgwyr difreintiedig a’r rhai ag anghenion ychwanegol – gweler tudalen 124 o Ganllaw Rhaglen Taith am ragor o fanylion.

 

A allwn wneud cais am ariannu ar gyfer prosiectau i weithio gyda phartneriaid Erasmus+? Lle maent er enghraifft yn gwneud cais i raglen Erasmus+ yn eu gwledydd i dalu eu costau ac rydym yn gwneud cais i Taith i dalu ein rhai ni?
Gallwch, mae hyn yn cael ei ganiatáu o dan reolau ariannu Taith ac mae’n rhywbeth i’w annog. Byddai Taith yn eich annog i grybwyll unrhyw weithgareddau prosiect sy’n gysylltiedig ag Erasmus+ er mwyn tryloywder yn unig a byddai’n disgwyl i weithgareddau prosiect Taith ddangos gweithgaredd newydd.

 

Ble mae hyfforddiant i gyfranogwyr yn eistedd yn y gyllideb? (E.e. Hyfforddiant cyn gadael, hyfforddiant wrth gyrraedd ac ati.…)
Ar hyn o bryd nid oes ariannu wedi’i ddyrannu ar gyfer hyn a byddai’n rhaid i unrhyw gostau ar gyfer y mathau hyn o hyfforddiant ddod o’r costau sefydliadol.

 

Ar gyfer gweithgareddau prosiectau datblygu systemau, a yw’n cwmpasu gweithgareddau allgymorth sefydliadol yn unig neu a all gynnwys gweithgareddau a arweinir gan bobl ifanc?
Os yw’r gweithgareddau a arweinir gan bobl ifanc yn cael eu datblygu a’u trefnu trwy symudedd staff, gallwch yn bendant.  Fodd bynnag, dim ond symudedd staff a gaiff ei ariannu. Os oeddech chi eisiau cyd-ddatblygu’r gweithgareddau hyn gyda phobl ifanc yna gallai hwn fod yn weithgaredd prosiect symudedd person ifanc sydd wedi’i gynnwys yn eich cais ar y cyd â gweithgaredd prosiect symudedd staff.

 

Beth yw hyblygrwydd Taith o ran newidiadau i weithgareddau prosiect neu fethu â chyrraedd targedau bwriadedig ar ôl dyfarnu grant?
Os bydd mudiad yn methu â chyrraedd ei holl dargedau bwriadedig yn ei gais yna bydd angen iddo ad-dalu unrhyw gyllideb nas defnyddiwyd. Os yw mudiad yn llawer mwy llwyddiannus ac yn cyflawni y tu hwnt i’w targedau, yn anffodus ni allant wneud cais am ariannu pellach tan yr alwad ariannu nesaf.

Mae Taith yn annog pob mudiad cymwys sy’n ymgeisio i fod yn uchelgeisiol gyda’u targedau a’u gweithgareddau cyn belled ag y gallant eu cyfiawnhau a’u bod yn realistig ar gyfer y mudiad hwnnw.

Mae Taith yn deall y gall fod angen newidiadau i weithgareddau’r prosiect o ganlyniad i heriau gyda phartneriaid, gwlad y gyrchfan a/neu newidiadau i amgylchiadau. Os mai dyma’r achos gyda’ch mudiad, bydd angen i chi gysylltu â thîm Taith i roi gwybod iddynt beth rydych yn bwriadu ei newid a pham, ac i egluro sut y bydd y gweithgareddau newydd yn bodloni’r nodau a’r amcanion a nodir yn eich cais.

 

A yw Taith yn darparu cyllideb ar gyfer gwrthbwyso carbon ar gyfer teithio?
Ar hyn o bryd na. Fodd bynnag, mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn un o themâu trawsbynciol Taith ac mae’r tîm yn edrych ar ffyrdd o ymgorffori hyn yn well yn y rhaglen.  Byddai tîm Taith yn croesawu unrhyw syniadau sydd gennych, felly cysylltwch â nhw i drafod.

Mae cwestiwn ar gynaliadwyedd yn y ffurflen gais lle gallwch fanylu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud i sicrhau bod y prosiect mor gynaliadwy â phosibl. Gallwch hefyd ddefnyddio’r adran hon i fanylu ar benderfyniadau ynghylch gwledydd cyrchfan os yw ystyriaethau amgylcheddol wedi dylanwadu ar y rhain.

 

Gallwch ddod o hyd i ragor o gefnogaeth ar ein tudalen Adnoddau Taith; https://www.cwvys.org.uk/adnoddau-taith/?lang=cy

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Helen Jones, Swyddog Cyfathrebu CWVYS, drwy Helen@cwvys.org.uk