Heddiw, cyhoeddwyd fersiwn neydd o’r llyfryn ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’.

Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau gwaith ieuenctid, gwleidyddion, aelodau etholedig a swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid.

Mae hefyd wedi’i ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, y rhai sydd eisoes yn ymwneud â sefydliadau gwaith ieuenctid yn ogystal â’r rhai sy’n dymuno darganfod mwy am y mathau o brofiad y gall sefydliadau gwaith ieuenctid ei ddarparu.

Mae ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ wedi’i gynhyrchu ar y cyd gan gynrychiolwyr o’r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.

I unrhyw un sydd ar fin derbyn copi caled yn y post, a fyddech cystal ag ystyried rhannu ffoto ar y gyfryngau cymdeithasol a’n tagio, post a awgrymir yw:

“Yn falch iawn i dderbyn copi newydd ffres o #GwaithIeuenctidYngNghymruEgwyddorionADibenion”

Os hoffech gael mynediad at gopi neu er hwylustod i’w rhannu, gallwch ddod o hyd i’r dogfen Cymraeg yma: https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2022/10/YOUTH-WORK-IN-WALES-2022-CYMRAEG.pdf

Peidiwch ag anghofio’r hashnod (hir!) #GwaithIeuenctidYngNghymruEgwyddorionADibenion

Gallwch ddod o hyd i copi dwyieithog yma: YOUTH WORK IN WALES PRINCIPLE AND PURPOSES – GWAITH IEUENCTID YNG NGHYMRU EGWYDDORION A DIBENION 2022