Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar agor i dderbyn ceisiadau gan Grwpiau LLEOL am gyllid.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm drwy gytundeb rhwng Stadiwm y Mileniwm a Chomisiwn y Mileniwm a chaiff ei hincwm ei gynhyrchu drwy ardoll ar bob tocyn gaiff ei brynu gan bobl sy’n mynychu digwyddiadau cyhoeddus yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i gyfoethogi ansawdd bywyd mewn cymunedau yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn prosiectau ysbrydoledig chwaraeon, celfyddydol, amgylcheddol ac wedi’u seilio yn y gymuned a fydd yn cael effaith hirdymor ar y bobl sy’n buddio.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni hyn trwy ddosbarthu grantiau i sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ledled Cymru.

Y dyddiad cau i dderbyn Ceisiadau Lleol yw canol dydd ar y 10.01.2020.  Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yr wythnos yn cychwyn y 19.03.2020

Gall ymgeiswyr wneud cais am grant i fyny at £2,500.00 ble fydd cylch gorchwyl y prosiect yn gwasanaethu’u cymuned neu dref leol.

Ewch i’r wefan am fanylion ac i lawrlwytho ffurflen gais: http://www.millenniumstadiumtrust.co.uk

Am ymholiadau yn ymwneud â’r rownd hon cysylltwch â Sarah Fox yn FoxSE Consultancy trwy ffonio 029 20 022 143 neu e-bostio sarah@foxseconsultancy.co.uk neu msct@foxseconsultancy.co.uk