Diweddariad gan Gadeirydd Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Sharon Lovell MBE

Helo Pawb,

Gobeithio eich bod popeth yn dda gyda chi yn ystod y tywydd poeth iawn hwn ac eich bod yn cadw’n ddiogel. Ro’n i am roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am yr hyn sy’n digwydd o ran gwaith y Grwpiau Cyfranogiad Strategaeth (GCS) wrth i ni bontio i’r Bwrdd Gweithredu newydd.

Fel dwi’n siŵr y mae’r rhan fwyaf ohonoch yn gwybod, ym mis Mehefin cynhaliodd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ei gyfarfod olaf. Rhoddodd hwn gyfle inni fyfyrio ar y llwyddiannau ry’n ni, fel sector, wedi’u cyflawni. Ry’n ni mor falch o’r hyn sydd wedi’i gyflawni gyda’n gilydd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at daro mlaen â’n gwaith ymhellach i sicrhau bod gwaith ieuenctid Cymru yn gynaliadwy. Roedd hwn hefyd yn ein galluogi i drafod yr angen am newid ffocws o siarad am yr hyn sydd angen ei wneud i weithredu!

Mae hyn wedi dechrau gyda phenodiad y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, a dwi wrth fy modd y bydda i yn cadeirio’r Bwrdd newydd. Rydw i eisoes yn gweithio ar recriwtio gweddill aelodau’r Bwrdd i Weinidog y Gymraeg Addysg gymeradwyo. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi mynegi diddordeb yn swyddi newydd y Bwrdd, ac rwy’n hyderus y bydd gyda ni Fwrdd cryf yn ei le yn fuan a gobeithiwn allu cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Medi.

Gan fod gofod bach bellach cyn cynnal y cyfarfod cyntaf, roeddwn am roi diweddariad byr o’r hyn sydd fy nharo i am waith y GCSau, a hefyd i ddiolch i chi i gyd am y cyfraniad gwerthfawr rydych chi wedi’i wneud i’n helpu i gyrraedd pwynt o allu symud ymlaen gyda gweithredu argymhellion y Bwrdd blaenorol.

Yr hyn sy’n amlwg i mi yw bod angen inni sicrhau ein bod yn parhau i weithio mewn ffordd gydweithredol ac effeithiol, er mwyn inni barhau i symud ymlaen gyda’n gilydd fel sector, gan rannu gwybodaeth a sgiliau ar hyd y ffordd. Mae’r adborth a ddarparwyd yn y cyfarfod GCS ar y cyd ar 2 Mawrth eleni yn awgrymu eich bod i gyd wedi croesawu’r ymagwedd gyfranogol ac yn gallu gweld manteision hyn wrth symud ymlaen. Roedd cydnabyddiaeth y gallai fod angen ailffocysu gwaith y GCSau yn unol â’r argymhellion, efallai y bydd angen ailenwi’r grwpiau, a rhaid nawr ystyried cylch gorchwyl ac aelodaeth y grwpiau hyn. Mae rhagor o enghreifftiau o’ch adborth o’r cyfarfod ynghlwm.

Rydw i felly wedi gwneud y penderfyniad, yn dilyn trafodaethau gyda Chadeiryddion presennol y GCSau, y bydd y rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o’r gwaith yr oeddent yn ei wneud yn oedi hyd nes y bydd y Bwrdd newydd wedi cyfarfod ac wedi ystyried y camau nesaf ar gyfer y GCSau ac ar gyfer ein cynllun gwaith ni. Mae rhai gweithgareddau’n parhau, sef yn bennaf lle bydd gweithredu cynnar yn ddefnyddiol i drafodaethau cychwynnol y Bwrdd newydd, ac wrth gwrs ar gyfer gwaith mwy hir hirdymor yn gysylltiedig â marchnata a chyfathrebu. Bydd y modd y bydd y GCSau yn gweithredu i’r dyfodol yn flaenoriaeth i’r Bwrdd newydd yn ei gyfarfodydd cychwynnol a byddaf yn ysgrifennu atoch cyn gynted â phosibl yn dilyn y trafodaethau i amlinellu ein bwriadau, ac i geisio aelodaeth ar gyfer y grwpiau hyn.

Bydd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i ni fod yn glir ynglŷn â beth fydd rôl arweiniol y Bwrdd newydd ar gyfer y grwpiau hyn. Dwi’n arbennig o awyddus i ddeall be allai hynny ei olygu o ran sicrhau ein bod ni’n ystyried anghenion holl bobl ifanc Cymru i sicrhau mynediad cyfartal i bawb.

Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi’n parhau i fod â diddordeb ac yn angerddol am ein helpu ni i daro mlaen â’r gwaith hwn dros y blynyddoedd nesaf, ac unwaith eto fedra i ond dweud pa mor ddiolchgar ydw i am yr holl waith ry’ch chi wedi’i wneud hyd yma. Rwy’n gobeithio y gallwn adeiladu ar hyn i sicrhau bod gyda ni fodel gwaith ieuenctid yng Nghymru y gallwn i gyd ddweud ein bod wedi helpu i’w ddatblygu ac ein bod ni’n ymfalchïo ynddo ar gyfer pob person ifanc.

 

Cofion gorau

Sharon

 

Adborth o gyfarfod rhwydwaith Grwp Cyfranogi y Strategaeth (GCS) Ar y Cyd 2 Mawrth 2022

Cwestiwn o’r sesiwn grŵp – adolygu a gwerthuso gwaith y GCSau. Beth sydd wedi mynd yn dda, beth ellid ei wella a beth sydd nesaf?

 

Yn gyffredinol, mae’r GCSau wedi darparu cyfleoedd rhwydweithio gwych drwy gydol oes y GCSau. Rydym wedi gallu rhannu a chysylltu, cael y wybodaeth ddiweddaraf, yn enwedig ynghylch y materion sy’n ymwneud â’r pandemig.

  • Roedd y cynlluniau gwaith yn gyfle i ddatblygu modelau ar gyfer y dyfodol, gan gydweithio
  • Bu llawer o drafod ynghylch capasiti unigolion a sefydliadau i ymgysylltu â’r gwaith a’r cynlluniau gwaith pan roeddent wrthi yn cael eu datblygu. Roedd awgrym bod angen cefnogaeth uwch arweinwyr o fewn sefydliadau i sicrhau bod eu gweithwyr yn cael amser i gymryd rhan yng ngwaith y grwpiau.
  • Mae’n wirioneddol bwysig sicrhau bod y bobl iawn yn cymryd rhan yn y grwpiau, a rhaid i’r grwpiau gael ffocws a chyfeiriad.
  • Mae angen parhau â pheth o’r gwaith wrth i’r gwaith o weithredu’r argymhellion fynd rhagddo. Fodd bynnag, mae angen ystyried newid yr enwau i adlewyrchu’r symudiad i gyfnod gwahanol o’r gwaith.
  • Cydnabod yr angen am sefydlogrwydd mewn aelodaeth – yr aelodaeth gywir sy’n gallu cefnogi’r gwaith, ond hefyd i wahodd eraill yn ôl yr angen ar gyfer lefelau penodol o arbenigedd a sgiliau.
  • Croesawyd y cyfle i gyfarfod ar-lein a oedd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd o bob cwr o Gymru, ac i fynychu’n weddol reolaidd gan y gall blethu â gwaith arall drwy gydol y dydd.
  • Maent yn rhoi cyfle i weithio’n agos gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru a chroesawyd hynny.
  • Mae angen ystyried ymhellach gynlluniau gwaith a gorgyffwrdd rhwng rhai o’r grwpiau.
  • Er bod grwpiau’n awyddus i recriwtio pobl ifanc i gymryd rhan yn y grwpiau, ar y cyfan nid oedd hyn yn gweithio’n dda ac roedd yn anghyson ar draws y GCS. Mae angen gwneud gwaith pellach i ystyried sut mae llais pobl ifanc yn cael ei glywed ac ymateb iddo.
  • Mae angen sicrhau ymagwedd gyfranogol barhaus mewn gweithgorau yn y dyfodol, ac mae angen i’r grwpiau gael adnoddau priodol gan gynnwys cefnogi cyfranogiad pobl ifanc.
  • Mae angen brand gwaith ieuenctid clir i helpu i fod yn sylfaen i bopeth, sy’n rhan annatod o’r strategaeth hirdymor gysylltiedig, a gall helpu pobl ifanc i nodi eu bod yn mynychu gwasanaethau gwaith ieuenctid/denu at wasanaethau, a hefyd i ddenu gweithwyr proffesiynol i weithio yn y sector.