Efallai bydd ein aelodau yn cofio o’n Cylchlythyr Rhyngwladol mis âma (a llawer oâr rhai flaenorol ers cyhoeddi’r rhaglen), wybodaeth am Raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol Cymru. Ar hyn o bryd mae yna broses ymgynghori sy’n agored i’r sector Ieuenctid (gyfan), a gall pobl helpu lunio’r rhaglen a chodi blaenoriaethau gyda’r tĂŽm datblygu polisi.
Ar hyn o fryd dymaâr ffurflen ymgynghori; https://forms.office.com/r/dWN3vz04K0
Mae llawer o gwestiynau, ond fel y dywed ar y dudalen ymgynghori (yn Saesneg); âUnrhyw beth na allwch ei ateb, gadewch yn wag.â
Mae hefyd yn nodi ânid oes opsiwn i safio gyda’r ffurflen hon. Bydd yn cymryd tua 30 munud i’w gwblhau.â
Os ydych yn cyflwyno ymateb, byddwn yn argymell ysgrifennu eich atebion mewn dogfen eiriau neu e-bost drafft ar wahan, unrhyw beth sy’n caniatĂĄu ichi safio wrth fynd ymlaen, fel na fyddwch wedi colli’ch holl atebion os bydd unrhyw beth yn digwydd!
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb yw’r 19eg o Hydref 2021 am 5yp.
Os oes gan unrhyw un diddordeb, trafodir hyn yn y Gynhadledd Genedlaethol Waith Ieuenctid ar 14 Hydref, mae manylion ar sut i archebu’ch lle am ddim yn y gynhadledd i’w gweld ar ein gwefan yma;
Yn anffodus, ni fydd cyfieithiad Cymraeg oâr ffurflen ymgynghori ar gael tan âyr wythnos nesafâ. I’r rhai sy’n gobeithio ymateb yn Gymraeg, gallaf awgrymu eich bod yn dechrau llunio’ch atebion (yn seiliedig ar y cwestiynau Saesneg) cyn i’r ffurflen ddod ar gael os yw amser yn broblem i chi ac efallai na fyddwch yn gallu cyflwyno eich ymateb ar Ă´l yr wythnos nesaf (oherwydd staff ar wyliau er enghraifft).
Fel rhan o datblygiad y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu, mae swydd wag ar gyfer Cyfarwyddwr Gweithredol. Mae wybodaeth dwyieithog yma;
https://www.odgersberndtson.com/en-gb/opportunities#AssignDetail.aspx?guid=83750