Hoffwn tynnu eich sylw tuag at swydd wag am Cynorthwyydd Cyfathrebu Digidol, swydd a fydd yn cefnogi Ellie Parker, y Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer y sector Gwaith Ieuenctid.

CYNORTHWYYDD CYFATHREBU DIGIDOL (DWYIEITHOG: CYMRAEG/SAESNEG)

2021/22

 

Oriau gwaith:                                     30 yr wythnos

 

Hyd y cytundeb:                                Hydref 2021 i 31 Mawrth 2022

                                                           

Cyflog:                                               £27,041 pro-rata (£10,963 gwirioneddol)

 

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

 

Man Gweithio:                                   Gartref ac yn swyddfa CWVYS (Bae Caerdydd) fel bo’n briodol. Mae’n bosib y bydd gofyn i chi deithio ar hyd a lled Cymru hefyd.

 

Dymuna CWVYS recriwtio a lletya Cynorthwyydd Cyfathrebu Digidol, gan weithio ochr yn ochr â Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r sector gyda chyfrifoldeb am amrediad o ddyletswyddau a phrosiectau. Ariennir y swydd hon gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion marchnata a chyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru.

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk  Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am ar Medi y 29ain 2021.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch am eich diddordeb.