Mae Tîm Cymuned Ieuenctid a Gwaith Chwarae Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales yn recriwtio ar gyfer Tiwtoriaid Cysylltiol Rhan Amser i ddysgu ar Gymwysterau Gweithiwr Cymorth Ieuenctid. Maent yn darparu’r cymwysterau hyn i weithwyr ieuenctid ledled Cymru. Mae llawer o ddiddordeb yn eu cyrsiau ac felly rydym angen ehangu eu cronfa o diwtoriaid rhan amser.

I wneud cais bydd angen i chi fod yn Weithiwr Ieuenctid gyda Chymhwyster Proffesiynol hyd Lefel 6 a bod â Chymhwyster Addysgu ar Lefel 3 o leiaf. Ar gyfartaledd, mae eu tiwtoriaid yn dysgu 1 cwrs y tymor yn ychwanegol at eu prif swydd mewn gwaith ieuenctid. Mae mwy o gyfleoedd dysgu yn opsiwn hefyd.

Mae holl ddeunyddiau’r cwrs wedi’u hysgrifennu a’u cymeradwyo. Bydd angen i chi gynllunio’ch darpariaeth ac asesu’r dysgu. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn ymuno â Thîm Tiwtoriaid y Gymuned Ieuenctid a Gwaith Chwarae ynghyd a thiwtoriaid Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales. Cewch gefnogaeth i fynychu cyfarfodydd tiwtor Cymuned Ieuenctid a Gwaith Chwarae tymhorol a chyfleoedd hyfforddi ychwanegol.

Os oes gennych ddiddordeb, cwblhewch y pecyn cais hwn. Neu os hoffech drafod hyn ymhellach, cysylltwch â recruitment@adultlearning.wales