Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

Yn flynyddol ers 1922, mae pobl ifanc Cymru wedi rhannu neges o heddwch i’w cyfoedion dros y byd. Hyd heddiw, dyma’r unig neges o’i fath yn y byd ac mae’n draddodiad gwerthfawr sy’n pweru ieuenctid Cymru i ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol yn rhyngwladol.

Bydd neges eleni yn cael ei rannu ar gyfrynagu cymdeithasol yr Urdd ar 17/05/2024 | 7:30am BST ar ffurf ffilm fer.

Thema Neges 2024:

Bwriad y Neges eleni yw dathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru a arwyddwyd gan 390,296 o fenywod Cymru yn 1923-1924. Canrif yn ddiweddarach, dyma ddatgan bod merched ifanc Cymru yn parhau i weithredu dros heddwch. Mae’r neges yn ein hysbrydoli i weithredu dros heddwch. Mae’n pwysleisio nad rhyfel a thrais yw’r ateb, ac yn ein hannog i arwain a chydweithredu dros ddyfodol gwell i bawb.

Mae’r Urdd yn gofyn am eich cefnogaeth drwy rannu’r neges fideo ar 17 Mai.

Heddiw – Nodwch yr 17eg o Fai yn eich calendr, a dilynwch yr Urdd ar:

Facebook, Twitter, LinkedIn, Instagram, TikTok.

I wybod mwy:

Gofynnwn yn garedig i chi ebostio Luned Hunter (Swyddog Rhyngwladol yr Urdd) – lunedhunter@urdd.org – yn cadarnhau eich bod yn hapus i rannu’r neges ar eich cyfrynagu cymdeithasol ar 17 Mai, a bydd Luned yn anfon lincs i’r posts i chi ar fore’r 17eg o Fai.

Gyda’n gilydd galw’n am heddwch ar 17 Mai 2024.

Diolch am eich cefngoaeth.