Datblygu Gweithwyr Ieuenctid medrus iawn ar gyfer pobl ifanc Cymru

15 Ebrill 2024, 1-3pm

​Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Datblygu’r Gweithlu, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

​Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu argymhellion adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ‘Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru’, rydym ni, fel GCG, yn cydnabod yr angen i ddeall yn well pan fydd angen gwaith pellach i helpu ddatblygu’r gweithlu. Mae hyn yn hanfodol i greu gweithlu medrus iawn sydd yn gallu bodloni anghenion cymhleth a chyfnewidiol cynyddol pobl ifanc ledled Cymru.

​Fel sydd yn wir i’r mwyafrif o broffesiynau, mae Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran recriwtio a chadw Gweithwyr Ieuenctid. Mae aelodau’r GCG yn ymdrechu i ddatblygu strategaethau sydd yn mynd i’r adael â’r materion yma. Yn y gweminar yma, cewch glywed am y cynlluniau sydd ar y gweill a chewch gyfle i ofyn cwestiynau a chynnig syniadau.

​Bydd y gweminar yn cynnwys:

​· Cipolwg ar waith yr GCG

​· Sesiynau ymgysylltu cynulleidfa ar:

– Ydy’r model cyflenwi gweithlu presennol yn addas i’w ddiben?

– Ble gellir dyrannu cyllid datblygu’r gweithlu?

– Sut gallwn ni hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel opsiwn gyrfa?

 

​Gobeithio y gallech ymuno â am sgwrs ddifyr dros gyfnod o ddwy awr gydag aelodau’r GCG – os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi holi o flaen llaw wrth i chi gadw eich lle.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:

​Jo Sims, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent – Cadeirydd GCG Datblygu’r Gweithlu

Steve Drowley, Cadeirydd ETS Cymru Wales

Emma Chivers, Ymgynghorydd Gwaith Ieuenctid

Darryl White, Swyddog Datblygu’r Gweithlu

Donna Robins, Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru

 

​Mae croeso i bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma.

Cofrestrwch am ddim heddiw – https://lu.ma/lmkr04fv

​Bydd cyfieithu ar y pryd o Gymraeg i Saesneg a BSL ar gael.