Dewch yn Gydymaith – Ceisiadau ar agor

Ymrwymiad yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw sicrhau bod Cymru’n lle gwych i arweinwyr addysgol ac y byddwn, trwy ledaenu sgiliau arwain rhagorol ledled y system addysg, yn gwireddu uchelgais feiddgar ein cenedl ar gyfer dysgwyr.

Rydym yn chwilio am uwch arweinwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â’r garfan nesaf o Gymdeithion. Ar gyfer y rownd nesaf hon o Gymdeithion, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn penodi uwch arweinwyr o amrywiol leoliadau addysgol ledled Cymru gan gynnwys:

  • Penaethiaid Cynorthwyol
  • Dirprwy Benaethiaid
  • Penaethiaid
  • Uwch arweinwyr o’r sector gwaith ieuenctid
  • Uwch arweinwyr o Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (gan gynnwys addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned a dysgu seiliedig ar waith).

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn ceisio penodi Cymdeithion o blith grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli gan gynnwys pobl Ddu a Mwyafrif Byd-eang ym mhob sector.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 10 Mai.

Darganfyddwch fwy ar y wefan.

Lawrlwythwch y canllaw cais

Lawrlwythwch y ffurflen gais