Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu eich barn ar ganllawiau drafft ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru.

‘O fis Medi 2023, mae pob ysgol yng Nghymru yn addysgu o fewn Cwricwlwm i Gymru ym mhob grŵp blwyddyn hyd at Flwyddyn 8. Bydd y cwricwlwm wedyn yn cael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn hŷn hyd nes y bydd pob dysgwr 3 i 16 oed yn dilyn Cwricwlwm i Gymru o fis Medi 2026. Dyhead Cwricwlwm i Gymru yw bod pob dysgwr yn gadael addysg yn 16 oed gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo, ac wedi datblygu’r galluoedd, yr ymagweddau a’r nodweddion a ddisgrifir yn y pedwar diben; mae hyn yn cynrychioli’r cam cyntaf o ran cefnogi pobl ifanc i ffynnu fel dysgwyr gydol oes. Rydym am i gyflawniadau a chynnydd pob dysgwr gael eu cydnabod a’u cefnogi wrth iddynt symud i gam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.’

Am fwy o wybodaeth am sut i gyflwyno eich barn, ewch i – Dysgu 14 i 16 o dan Gwricwlwm i Gymru [HTML] | LLYW.CYMRU