Cwblhewch yr Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant!

Mae’r amser wedi dod i gwblhau’r Arolwg Sgiliau a Hyfforddiant. Fel rhan o’r gwaith parhaus i ystyried, datblygu a gweithredu’r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn eu hadroddiad terfynol ‘Amser i gyflawni ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru’, rydym yn cydnabod yr angen i ddeall yn well y sgiliau a’r hyfforddiant sydd gan y gweithlu gwaith ieuenctid ar hyn o bryd a lle mae angen gwneud rhagor o waith i helpu’r gweithlu i ddatblygu. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gennym weithlu medrus iawn sy’n gallu diwallu anghenion cynyddol gymhleth a newidiol pobl ifanc ledled Cymru.

Os ydych chi’n Ymarferydd Gwaith Ieuenctid, cwblhewch yr arolwg hwn a fydd yn ein galluogi i sefydlu beth sydd ei angen arnoch i ddatblygu eich sgiliau i ddiwallu anghenion pobl ifanc: Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant y Gweithlu Gwaith Ieuenctid – Unigol (data.cymru)

Os ydych chi’n Arweinydd Sefydliad Gwaith Ieuenctid ac yn gyfrifol am reoli Gwaith Ieuenctid, cwblhewch yr arolwg hwn a fydd yn amlinellu’r anghenion yn eich sefydliad: Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant y Gweithlu Ieuenctid – Cyflogwr (data.cymru)

CWBLHEWCH ERBYN: 15th Ebrill 2024

Drwy gymryd rhan yn yr Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant hwn, byddwch yn darparu gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr i gefnogi dyluniad a gweithrediad rhaglen hyfforddi i helpu i fynd i’r afael ag anghenion hyfforddi yng Nghymru, gan flaenoriaethu’r themâu mwyaf cyffredin a nodwyd.