Category: Uncategorized
TAITH – Gwestiynau Cyffredin
Yma gallwch ddod o hyd i nifer o Gwestiynau Cyffredin y mae Corff Trefnu Sector Ieuenctid Taith wedi’u llunio i gynorthwyo ymgeiswyr;
A all mudiadau sydd wedi’u cofrestru yn Lloegr neu rywle arall yn y DU wneud cais am ariannu Taith?
Mae’n bosib i fudiadau yn y DU sy’n gweithredu yng Nghymru ond nad ydynt wedi’u cofrestru yma wneud cais i Taith. Rhaid i’r gweithgaredd gynnwys cyfranogwyr sy’n ymwneud yn weithredol â mudiad Cymreig ac mae’n rhaid i’r cais ddangos sut y bydd y rhaglen arfaethedig o fudd i Gymru ond nid oes angen iddynt fod wedi’u cofrestru yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth gweler tudalen 34 o Ganllaw Rhaglen Taith.
Oes rhaid i brosiectau fod yn newydd neu a allwn ni wneud cais am ariannu Taith i redeg prosiect blaenorol/cyfredol?
Na, nid oes rhaid i brosiectau fod yn newydd, gall ymgeiswyr wneud cais i ariannu prosiectau o’r gorffennol sy’n cael eu hail-redeg. Nid yw prosiectau sydd eisoes yn cael eu hariannu yn gymwys.
Pa grwpiau oedran all gymryd rhan?
Ar gyfer pobl ifanc sy’n cymryd rhan mae’r ystodau oedran yn amrywio o 11 i 25 ar gyfer gweithgareddau fel teithiau cyfnewid ieuenctid. Bydd angen i ddysgwyr sy’n dymuno cymryd rhan mewn cyfleoedd gwirfoddoli, cyrsiau hyfforddi ac yn y blaen fod rhwng 16 – 25. Ar gyfer staff/gweithwyr proffesiynol sy’n cymryd rhan nid oes terfyn oedran uchaf.
A yw gwledydd y tu allan i Ewrop wedi’u cynnwys yn Taith?
Ydyn. Gall fudiadau ac unigolion sy’n teithio y tu allan i Gymru wneud cais i deithio i wledydd ar draws y byd. Wrth ddod o hyd i bartneriaid a chynllunio prosiectau sicrhewch eich bod yn gwirio Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU am gyngor teithio a rhestr o wledydd sydd wedi’u gwahardd oherwydd ansefydlogrwydd neu wrthdaro. Dylai ymgeiswyr ofalu eu bod yn trefnu gweithgareddau mewn gwledydd sefydlog a diogel er budd yr holl gyfranogwyr.
Faint o bartneriaid rhyngwladol sydd angen i ni eu cynnwys?
Rhaid i chi fod yn bartner gydag o leiaf un mudiad mewn gwlad y tu allan i’r DU. Os ydych yn gwneud cais am ‘Symudedd grŵp – profiad teithio rhagarweiniol’ fel rhan o’ch cais, gallwch bartneru â mudiadau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ond rhaid i’r prosiect hefyd gynnwys partner o’r tu allan i’r DU ar gyfer elfen ryngwladol y prosiect.
A oes angen i ni gynnwys partner penodol yn ein cais?
Nid oes angen i chi gael partner(iaid) yn eu lle ar yr adeg o wneud cais. Os oes gennych chi bartneriaid yn barod, rhowch gymaint o fanylion â phosibl yn y cais ond os nad ydych wedi dod o hyd i bartner, y cyfan sydd angen i chi wneud yw nodi pa fath o bartner yr ydych am weithio gydag ef a pham. Gorau po fwyaf o fanylion y gallwch eu darparu ar hyn, i ddangos bod y prosiect arfaethedig wedi’i ystyried yn drylwyr a bod cynlluniau priodol ar waith i’w wneud yn llwyddiant. Os ydych wedi nodi partner yn eich cais a bod y cynlluniau hyn yn newid yn ddiweddarach, mae hynny’n iawn, y cwbl byddai angen i chi wneud yw dangos bod gennych sail resymegol glir dros y newid ac na fydd yn effeithio ar nodau ac amcanion cyffredinol y prosiect.
A fydd ein partneriaid rhyngwladol yn cael eu holl gostau prosiect i deithio i Gymru?
Na. Mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cyfleoedd symudedd i ddysgwyr Cymreig deithio y tu allan i Gymru. Gall ariannu prosiect ar gyfer symudiadau mewnol i gyfranogwyr ddod i Gymru gyfrif am hyd at 30% o gyllideb eich prosiect ar gyfer symudedd allanol.
A yw cyflogau/amser staff wedi’u cynnwys yng nghostau’r prosiect?
Yr ateb yw na ar gyfer Llwybr 1, ond gall fudiadau ddefnyddio cyllideb cymorth sefydliadol i dalu rhai o’r costau hyn os yw’n ymarferol.
Os byddwn yn llwyddiannus, a fydd ein holl ariannu yn cael ei ddyfarnu ymlaen llaw?
Na fydd ond bydd taliad ymlaen llaw sylweddol yn cael ei drosglwyddo unwaith y bydd y cytundeb grant wedi’i lofnodi, gyda thaliadau pellach yn cael eu gwneud ar ôl cwblhau cerrig milltir y prosiect megis cyflwyno adroddiadau interim neu derfynol.
A fyddwn ni’n gallu gweithio gyda sectorau heblaw Ieuenctid?
Byddwch, ond byddai’n rhaid i geisiadau fynd i un sector o hyd, nid y ddau. Felly pe bai ysgol a grŵp ieuenctid yn cydweithio ar gais dylent benderfynu pa fudiad fyddai’n berthnasol i ba faes, naill ai Ieuenctid neu Ysgolion ac ati.
A yw holl gostau’r prosiect wedi’u cynnwys?
Mae ariannu’n cael ei gyfrifo ar sail ‘costau uned’ sy’n cwmpasu pethau fel teithio, cynhaliaeth a chymorth sefydliadol. Mae’r model ariannu wedi’i gynllunio i sicrhau bod mudiadau’n gallu talu holl gostau’r prosiect ond mae hyn yn dibynnu ar reolaeth yr ariannu a mudiadau’n cadw at y costau uned rhagosodedig. Ceir rhagor o wybodaeth am y cyfraddau grant a’r hyn a gwmpesir ar dudalennau 121 – 125 o Ganllaw Rhaglen Taith.
Faint o geisiadau y gall ein mudiad eu cyflwyno fesul galwad ariannu?
Dim ond un cais y gall pob mudiad ymgeisio ei gyflwyno fesul galwad ariannu. Fodd bynnag, gallwch gynnwys cynifer o weithgareddau yn y cais ag y dymunwch – nid oes uchafswm. Gallwch wneud cais am unrhyw un neu bob un o’r gweithgareddau pobl ifanc a staff, a gallwch hefyd wneud cais am lu o’r un gweithgareddau – e.e. symudedd grŵp i Ffrainc a symudedd grŵp i Dde Affrica.
Faint o alwadau ariannu sydd bob blwyddyn?
Ar hyn o bryd mae un galwad ariannu wedi’i chynllunio fesul blwyddyn fesul sector – y dyddiad cau ar gyfer galwadau ar hyn o bryd yw 12 Mai. Mae posibilrwydd y bydd galwad ariannu ychwanegol yn cael ei hagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn dibynnu ar lefel y ceisiadau. Os a phryd y penderfynir ar hyn, bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu ar wefan Taith ac yn uniongyrchol i fudiadau sydd â diddordeb. Fodd bynnag, nid oes unrhyw sicrwydd o alwad am ariannu ychwanegol felly mae Taith yn eich annog i gyflwyno cais cyn dyddiad cau’r alwad ariannu sef 12 Mai os oes gennych brosiect mewn golwg.
A fydd yn rhaid i mi dalu costau fisa i ddysgwyr?
Mae costau eithriadol sy’n gysylltiedig â theithio (fel fisâu, pasbortau a brechiadau) yn cael eu talu ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig – gweler tudalen 118 o Ganllaw Rhaglen Taith am y diffiniad ar gyfer Ieuenctid. Nid yw costau fisa ar gyfer cyfranogwyr eraill yn cael eu talu a bydd angen i’r cyfranogwyr unigol eu talu, er y gellir defnyddio ariannu grant ar gyfer cymorth sefydliadol ar gyfer hyn lle bo’n ymarferol.
A fydd Llywodraeth Cymru yn noddi ceisiadau fisa ar gyfer cyfranogwyr sy’n teithio i Gymru?
Mae tîm Taith yn gweithio ar hyn ar hyn o bryd a bydd yn cyhoeddi arweiniad pellach maes o law.
A oes ariannu ychwanegol ar gael i ddysgwyr difreintiedig neu’r rhai ag anghenion ychwanegol?
Oes, mae ariannu ychwanegol ar gyfer dysgwyr difreintiedig a’r rhai ag anghenion ychwanegol – gweler tudalen 124 o Ganllaw Rhaglen Taith am ragor o fanylion.
A allwn wneud cais am ariannu ar gyfer prosiectau i weithio gyda phartneriaid Erasmus+? Lle maent er enghraifft yn gwneud cais i raglen Erasmus+ yn eu gwledydd i dalu eu costau ac rydym yn gwneud cais i Taith i dalu ein rhai ni?
Gallwch, mae hyn yn cael ei ganiatáu o dan reolau ariannu Taith ac mae’n rhywbeth i’w annog. Byddai Taith yn eich annog i grybwyll unrhyw weithgareddau prosiect sy’n gysylltiedig ag Erasmus+ er mwyn tryloywder yn unig a byddai’n disgwyl i weithgareddau prosiect Taith ddangos gweithgaredd newydd.
Ble mae hyfforddiant i gyfranogwyr yn eistedd yn y gyllideb? (E.e. Hyfforddiant cyn gadael, hyfforddiant wrth gyrraedd ac ati.…)
Ar hyn o bryd nid oes ariannu wedi’i ddyrannu ar gyfer hyn a byddai’n rhaid i unrhyw gostau ar gyfer y mathau hyn o hyfforddiant ddod o’r costau sefydliadol.
Ar gyfer gweithgareddau prosiectau datblygu systemau, a yw’n cwmpasu gweithgareddau allgymorth sefydliadol yn unig neu a all gynnwys gweithgareddau a arweinir gan bobl ifanc?
Os yw’r gweithgareddau a arweinir gan bobl ifanc yn cael eu datblygu a’u trefnu trwy symudedd staff, gallwch yn bendant. Fodd bynnag, dim ond symudedd staff a gaiff ei ariannu. Os oeddech chi eisiau cyd-ddatblygu’r gweithgareddau hyn gyda phobl ifanc yna gallai hwn fod yn weithgaredd prosiect symudedd person ifanc sydd wedi’i gynnwys yn eich cais ar y cyd â gweithgaredd prosiect symudedd staff.
Beth yw hyblygrwydd Taith o ran newidiadau i weithgareddau prosiect neu fethu â chyrraedd targedau bwriadedig ar ôl dyfarnu grant?
Os bydd mudiad yn methu â chyrraedd ei holl dargedau bwriadedig yn ei gais yna bydd angen iddo ad-dalu unrhyw gyllideb nas defnyddiwyd. Os yw mudiad yn llawer mwy llwyddiannus ac yn cyflawni y tu hwnt i’w targedau, yn anffodus ni allant wneud cais am ariannu pellach tan yr alwad ariannu nesaf.
Mae Taith yn annog pob mudiad cymwys sy’n ymgeisio i fod yn uchelgeisiol gyda’u targedau a’u gweithgareddau cyn belled ag y gallant eu cyfiawnhau a’u bod yn realistig ar gyfer y mudiad hwnnw.
Mae Taith yn deall y gall fod angen newidiadau i weithgareddau’r prosiect o ganlyniad i heriau gyda phartneriaid, gwlad y gyrchfan a/neu newidiadau i amgylchiadau. Os mai dyma’r achos gyda’ch mudiad, bydd angen i chi gysylltu â thîm Taith i roi gwybod iddynt beth rydych yn bwriadu ei newid a pham, ac i egluro sut y bydd y gweithgareddau newydd yn bodloni’r nodau a’r amcanion a nodir yn eich cais.
A yw Taith yn darparu cyllideb ar gyfer gwrthbwyso carbon ar gyfer teithio?
Ar hyn o bryd na. Fodd bynnag, mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn un o themâu trawsbynciol Taith ac mae’r tîm yn edrych ar ffyrdd o ymgorffori hyn yn well yn y rhaglen. Byddai tîm Taith yn croesawu unrhyw syniadau sydd gennych, felly cysylltwch â nhw i drafod.
Mae cwestiwn ar gynaliadwyedd yn y ffurflen gais lle gallwch fanylu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud i sicrhau bod y prosiect mor gynaliadwy â phosibl. Gallwch hefyd ddefnyddio’r adran hon i fanylu ar benderfyniadau ynghylch gwledydd cyrchfan os yw ystyriaethau amgylcheddol wedi dylanwadu ar y rhain.
Gallwch ddod o hyd i ragor o gefnogaeth ar ein tudalen Adnoddau Taith; https://www.cwvys.org.uk/adnoddau-taith/?lang=cy
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Helen Jones, Swyddog Cyfathrebu CWVYS, drwy Helen@cwvys.org.uk
Adnoddau Taith

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd Cymru. |
Hoffech chi wybod mwy am sut i wneud cais i Rhaglen Taith a beth sydd ar gael i’r sector Ieuenctid?
Bydd Taith yn cynnig cyllid a chefnogaeth i fudiadau ieuenctid ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd heb unrhyw brofiad neu brofiad cyfyngedig o symudedd rhyngwladol.
- Dyma dogfen gyda cymorth ar sut i fynd at y cwestiynnau ansoddol yn y ffurflen cais; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/03/Qualitative-questions-Youth-Welsh-V1-04Mar2022.pdf
- Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau cam-wrth-gam yma; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/03/2022-Taith-Step-by-step-application-guide-WELSH.pdf
- Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen gais ei hun yma; https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/welsh-youth-ffurflen-gais-ar-gyfer-llwybr-1-symudedd-ar-youth
- Dyma’r Offeryn Cyfrifio Cyllid; Taith-Grant-Calculator-Youth-Cymraeg-Fersiwn-3-a-ryddhawyd-ar-27.04.2022
- Ar gyfer y rhai sy’n hoff o fideos gallwch ddod o hyd i’r fideo lansio Taith yma; https://youtu.be/47v9g6-FWDM
- Fideo ffeithlun o’r enw “Beth yw Taith”; https://youtu.be/lGa0gDWUBYw
- Mae yna hefyd fideo ffeithlun newydd fel canllaw cam wrth gam i’r broses ymgeisio: https://youtu.be/oGJglIFqrPs
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau cymwys, hyd a chyfraddau grant, gweler Canllawiau Rhaglen Taith
Gallwch ddod o hyd i restr o Gwestiynau Cyffredin yma; https://www.cwvys.org.uk/taith-gwestiynau-cyffredin/?lang=cy
Os oes gennych cwestiynnau, mae croeso i chi cysylltu a Helen Jones, Swyddog Cyfathrebu CWVYS drwy helen@cwvys.org.uk
Ymgyrch newydd Chwarae Cymru; “Pan o’n i dy oed di”

Mis ‘ma mae Chwarae Cymru wedi lansio Pan o’n i dy oed di…, ymgyrch newydd sydd wedi ei dylunio i herio’r rhagdybiaethau am arddegwyr a chwarae trwy ysbrydoli nostalgia ac atgoffa oedolion sut beth ydi bod yn ifanc.
Er bod chwarae, neu ‘gymdeithasu’, yn edrych yn wahanol heddiw efallai diolch i gyflwyniad technoleg a newid mewn arferion cymdeithasol, rydym am annog arddegwyr a’u rhieni, gwarchodwyr neu eu teidiau a’u neiniau i gymharu eu profiadau o chwarae a sylwi ar y tebygrwydd rhyngddyn nhw – boed hynny’n ddysgu dawns oddi wrth TikTok, neu oedolion yn chwarae ‘Snake’ ar eu Nokia 3310 ychydig flynyddoedd yn ôl!
Mae arddegwyr o bob cwr o Gymru wedi bod yn rhoi llais i’r ymgyrch, gan rannu eu profiadau o chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau, ac annog oedolion i feddwl am y tebygrwydd rhyngddyn nhw er mwyn annog pobl i fod yn fwy goddefgar o’u presenoldeb mewn mannau cyhoeddus.
Dyma ble rydym angen eich cymorth chi a’ch sefydliad!
Rydym angen eich help i rannu neges bwysig #PanOnIDyOedDi gyda chymaint â phosibl o arddegwyr ac oedolion yn rhannu eu profiadau.
Isod mae pecyn cymorth (yn Gymraeg a Saesneg) gyda mwy o wybodaeth am yr ymgyrch, a sut y gallwch ymuno yn y gwaith hyrwyddo trwy rannu ac annog y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Defnyddiwch y pecyn cymorth i ddysgu mwy am yr ymgyrch, a chael hyd i esiampl o destun i’w gynnwys mewn e-gylchlythyrau ac ar wefannau
- Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol a rhannu cynnwys #PanOnIDyOedDi
- Annog eich rhwydweithiau, eich cydweithwyr, eich ffrindiau a’ch teulu i gymryd rhan
- Lawrlwythwch a rhannwch ein hasedau – https://www.dropbox.com/scl/fo/nkwcuxk4wp9uc3uxdatv2/h?dl=0&rlkey=85hkcr31cst0ywz7dj9sxvtju
Gŵyl Triban (2 – 4 Mehefin) – AM DDIM!

Aduniad mwya’r ganrif!
Am y tro cyntaf erioed ac fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Urdd Gobaith Cymru, bydd gŵyl o fewn gŵyl ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych eleni. Mae Gŵyl Triban yn gyfle i ddathlu’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru gydag “aduniad mwyaf y Ganrif”. Mae croeso cynnes i holl aelodau, cyn-aelodau a ffrindiau’r Urdd, hen a newydd ymuno.
Beth gallwch ei ddisgwyl? Gwledd o fwyd a diod, gan gynnwys bar, a chyfle i hel atgofion wrth fwynhau perfformiadau byw gan Eden, Gwilym, Eädyth, Tara Bandito, N’Famady Kouyaté a llawer mwy. Yn syml; Cwmni. Cofio. Cymdeithasu. Gwybodaeth bellach ar www.urdd.cymru/triban
Cost? Am ddim! Mi fydd mynediad i Triban (2 – 4 Mehefin) yn rhad ac am ddim ac yn gynwysedig yn y tocyn am ddim i faes yr Eisteddfod.
Tocyn? Oes! Er ei fod am ddim, mae’n rhaid archebu tocyn! Gellir gwneud hyn nawr ar www.urdd.cymru/tocynnau
Gwybodaeth bellach?
www.urdd.cymru/Triban
eisteddfod@urdd.org
*Linc i’r trailer fideo yma: https://twitter.com/i/status/1497179574181908486
Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022
Yr Argyfwng Hinsawdd.
Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da canmlwyddiant yr Urdd yn ffocysu ar yr argyfwng hinsawdd. Mae’n alwad-i-weithredu gan blant a phobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd, i ddefnyddio pwysigrwydd a phŵer ei llais i erfyn ar lywodraethau a chorfforaethau mawr i weithredu ar frys er mwyn achub ein planed. Mae’n amser deffro!
18 o Fai 2022 – Diwrnod Neges Heddwch ac Ewyllys Da
Rhowch 18 o Fai yn eich dyddiaduron, er mwyn ymuno gyda’r Urdd, Prifysgol Aberystwyth a phlant a phobl ifanc Cymru, wrth i ni rannu Neges Heddwch ac Ewyllys Da ein canmlwyddiant. Dilynwch @Urdd ar Twitter, ac Urdd Gobaith Cymru ar Facebook, a @UrddGobaithCymru ar Instagram wrth ddefnyddio #Heddwch100, er mwyn rhannu’r neges ar y diwrnod. Cadwch olwg allan ar gyfer pecyn ymgysylltu bydd ar gael i’w lawrlwytho yn agosach i’r amser.
Gallwch ddod o hyd i’r neges eu hunan yn nifer o ieithoedd yma;
https://www.urdd.cymru/cy/neges-heddwch-eleni/
Fforwm agored CWVYS ar Gofrestru Gweithwyr Ieuenctid ar y 5ed o Fai
Mae cyfarfod ‘Rhanbarthol’ arbennig CWVYS wedi’i drefnu i edrych ar yr ymgynghoriad ar ymestyn cofrestriad ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid.
Bydd yn fforwm agored CWVYS ar y 5ed o Fai 2022, yn ddechrau am 10yb.
Hoffai ein Cydlynydd Rhanbarthol Catrin James eich gwahodd i’r cyfarfod, i drafod yr ymgynghoriad diweddaraf yn ymwneud ag ymestyn categorïau cofrestru’r gweithlu yn y sector Gwaith Ieuenctid.
Gallwch ddod o hyd i’r ymgynghoriad yma; https://llyw.cymru/categoriau-cofrestru-newydd-ar-gyfer-cyngor-y-gweithlu-addysg
Yn y cyfarfod bydd swyddog o Llywodraeth Cymru yn ymuno â’r Aelodau a fydd yn rhoi trosolwg o’r ymgynghoriad.
Cewch gyfle gyda’ch cyd-aelodau i drafod y cwestiynau yn yr ymgynghoriad.
Dylai’r rhai sydd â diddordeb i fynychu rhoi wybod i Catrin@CWVYS.org.uk
Staff newydd yn CWVYS
Bydd dau aelod newydd o staff yn ymuno â thîm CWVYS ar 1 Ebrill:
Branwen fel Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu (rhan amser), yn gweithio ochr yn ochr ag Ellie Parker: branwen@cwvys.org.uk
Kath fel Cydlynydd Sector Ieuenctid Taith (llawn amser) ar ran Consortiwm Sector Ieuenctid Taith: kathryn@cwvys.org.uk
Tra byddant wedi’u lleoli yn CWVYS, bydd y ddwy rôl yn cefnogi’r sector gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru.
Ni’n gwybod byddwch yn ymuno â ni i groesawu Branwen a Kath.
Gwobrau Heddychwyr Ifanc

Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), Maint Cymru a CWVYS yn gweithio gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i ddathlu plant a phobl ifanc sydd wedi cyfrannu at heddwch, cyfiawnder hinsawdd a chydraddoldeb yn eu hysgol, grŵp ieuenctid, cymuned leol neu yn y byd ehangach.
Rydym yn cydweithio i gynnal Seremoni Wobrwyo Heddychwyr Ifanc yn yr Eisteddfod ar 7 Gorffennaf 2022, lle bydd pobl ifanc yn derbyn tystysgrif a gwobr.
Gobeithio y caiff plant a phobl ifanc (rhwng 5 a 25 bl. oed) eu hysbrydoli i fod yn greadigol ac i fynegi eu syniadau am sut y gall y byd fod yn fwy heddychlon, cyfiawn a chynaliadwy ar ôl COVID19 – ar ffurf geiriau, celf neu’n ddigidol.
Gall pobl ifanc unigol neu grwpiau gyflwyno ceisiadau o dan y categorïau canlynol:
- Heddychwr Ifanc y flwyddyn
- Awdur Heddwch Ifanc y flwyddyn
- Artist Heddwch Ifanc y flwyddyn
- Hyrwyddwr Hinsawdd Ifanc y flwyddyn
- Dinesydd Byd-eang Ifanc y flwyddyn
- Hyrwyddwr Treftadaeth Heddwch y flwyddyn
- Heddychwr Ifanc Rhyngwladol (yn agored hefyd i bobl ifanc o’r tu allan i Gymru):
Mae hi hefyd yn dderbyniol i enwebu rhywun arall, gyda’u caniatâd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau eleni yw 10 Mehefin, 2022.
Medrwch weld y telerau a’r amodau am y Gwobrau ar yma, yn ogystal â’r ffurflen gais. Anfonwch eich ceisiadau at centre@wcia.org.uk.
Taith – gweminar ar y ffurflen cais ar gyfer Ieuenctid

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd Cymru. |
Hoffech chi wybod mwy am Raglen Taith a beth sydd ar gael i’r sector Ieuenctid?
Mae gan y tîm Taith y digwyddiad i chi; https://www.taith.cymru/digwyddiadau/#application-support-youth
Beth am ymuno â’r weminar sydd yn edrych ar y ffurflen gais yn fanwl, cynnig cymorth ymgeisio i fudiadau ieuenctid a mynd i’r afael â chwestiynau ansoddol.
Dydd Iau nesaf, 24ain Mawrth 2022 am 3pm
Bydd Taith yn cynnig cyllid a chefnogaeth i fudiadau ieuenctid ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd heb unrhyw brofiad neu brofiad cyfyngedig o symudedd rhyngwladol.
Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno yn Saesneg, ond rhowch wybod i’r tîm ymlaen llaw os hoffech ofyn cwestiynau yn Gymraeg ac fe fyddan nhw’n trefnu cyfieithu ar y pryd.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a Taith cysylltwch a ymholiadautaith@caerdydd.ac.uk
Bydd yn ddigwyddiad rhithwir ar blatfform Teams, gallwch gofrestru yma.
Os na allwch fynychu, bydd y sesiynau’n cael eu recordio.
- Yn y cyfamser, dyma dogfen gyda cymorth ar sut i fynd at y cwestiynnau ansoddol yn y ffurflen cais; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/03/Qualitative-questions-Youth-Welsh-V1-04Mar2022.pdf
- Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau cam-wrth-gam yma; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/03/2022-Taith-Step-by-step-application-guide-WELSH.pdf
- Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen gais ei hun yma; https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/welsh-youth-ffurflen-gais-ar-gyfer-llwybr-1-symudedd-ar-youth
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau cymwys, hyd a chyfraddau grant, gweler Canllawiau Rhaglen Taith
Digwyddiadau Taith

Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd Cymru. |
Hoffech chi wybod mwy am Raglen Taith a beth sydd ar gael i’r sector Ieuenctid?
Mae gan y tîm Taith y digwyddiad i chi; https://www.taith.cymru/digwyddiadau/#intro-in-youth
Beth am fynd i “Cyflwyniad i Taith mewn Ieuenctid” ar Dydd Mercher y 16fed of Fawrth 2022 am 2pm
Mae’r gweminar hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau Ieuenctid Cymru i ddysgu mwy am y cyfleoedd a ariennir o dan Taith.
Bydd Taith yn cynnig cyllid a chefnogaeth i fudiadau ieuenctid ledled Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd heb unrhyw brofiad neu brofiad cyfyngedig o symudedd rhyngwladol.
Bydd y sesiwn yn cael ei chyflwyno yn Saesneg, ond rhowch wybod i’r tîm ymlaen llaw os hoffech ofyn cwestiynau yn Gymraeg ac fe fyddan nhw’n trefnu cyfieithu ar y pryd.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a Taith cysylltwch a ymholiadautaith@caerdydd.ac.uk
Bydd yn ddigwyddiad rhithwir ar blatfform Teams, gallwch gofrestru yma.
Os na allwch fynychu, bydd y sesiynau’n cael eu recordio.
- Yn y cyfamser, dyma dogfen gyda cymorth ar sut i fynd at y cwestiynnau ansoddol yn y ffurflen cais; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/03/Qualitative-questions-Youth-Welsh-V1-04Mar2022.pdf
Bydd digwyddiad arall yn ystod yr wythnosau nesaf yn edrych ar y ffurflen ei hun yn fanwl.
- Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau cam-wrth-gam yma; https://www.taith.wales/wp-content/uploads/2022/03/2022-Taith-Step-by-step-application-guide-WELSH.pdf
- Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen gais ei hun yma; https://cardiff.onlinesurveys.ac.uk/welsh-youth-ffurflen-gais-ar-gyfer-llwybr-1-symudedd-ar-youth
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau cymwys, hyd a chyfraddau grant, gweler Canllawiau Rhaglen Taith
Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu SWYDD WAG
Oriau gwaith: 24 yr wythnos
Hyd y cytundeb: 1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023
Cyflog: £26,511 (£17,196 gwirioneddol)
Yn atebol i: Prif Weithredwr CWVYS
Man Gweithio: Gweithio gartref (Mae swyddfa CWVYS ym Mae Caerdydd)
Dymuna CWVYS recriwtio Cynorthwyydd Marchnata a Chyfathrebu, gan weithio ochr yn ochr â, ac yn gefnogaeth, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu’r sector gyda chyfrifoldeb am amrediad o ddyletswyddau a phrosiectau. Ariennir y swydd hon gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion marchnata a chyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid cyfan yng Nghymru.
Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.
Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.
Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 2pm ar 11 Mawrth 2022.
Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.
Diolch am eich diddordeb.
