Plant Y Cymoedd yn lansio eu Hadroddiad Effaith 2020-2022

“MAE’R GALW WEDI BOD YN YSGUBOL AC YN OSTYNGEDIG”

Mae Plant Y Cymoedd newydd lansio eu Hadroddiad Effaith, sy’n cwmpasu y ddwy flynedd eithriadol ddiweddarach yn eu hanes.
Mae’r adroddiad yn cydnabod gwaith caled eu staff cyflogedig a gwirfoddol yn ystod pandemig Covid-19, ac yn arddangos sut y gwnaethant helpu eu cymunedau yn ystod yr amseroedd anghyffredin hyn.

 

Mae’r ddogfen yn gwahaniaethu’r angen y gymuned a’r ymateb gan Plant y Cymoedd, gan amlygu hanfodion datblygiad cymunedol seiliedig ar le, fel y dangosir gan eu gwaith a gyflwynir drwy eu Hybiau Cymunedol a Theuluol.

Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad trwy’r ddolen hon https://heyzine.com/flip-book/46a805a587.html
Am ragor o wybodaeth ar Plant y Cymoedd, ewch i www.valleyskids.org

Wythnos Ymddiriedolwyr

Mae’n Wythnos Ymddiriedolwyr! Bob blwyddyn rhwng y 7fed a’r 11eg o Dachwedd mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn digwydd. Mae’n amser i sefydliadau fyfyrio ar bwysigrwydd eu Hymddiriedolwyr, dathlu eu hymroddiad a diolch iddynt am eu holl waith caled a’u cefnogaeth.

Thema’r wythnos eleni yw “gwneud gwahaniaeth mewn amser o newid”.

I’r rhai ohonom yn y Sector Ieuenctid Gwirfoddol rydym wedi profi llawer o newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Un peth sy’n parhau’n gyson yw’r rhan hanfodol y mae Ymddiriedolwyr yn ei chwarae wrth gadw’r sector i fynd, a’r Wythnos Ymddiriedolwyr hon hoffai CWVYS ddiolch yn fawr iawn i’n Hymddiriedolwyr gwych, ac i’r holl Ymddiriedolwyr sy’n gweithio’n galed ar draws y sector.

Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

Lansio strategaeth YHA yn y Senedd

Dydd Mawrth 29 Tachwedd 2022
12:00 – 1:30pm
Y Pierhead, Senedd Cymru, Ffordd y Môr, Bae Caerdydd CF10 4PZ

Mae YHA wedi datblygu strategaeth ar ei newydd wedd ar gyfer Cymru i wneud yn siŵr y gallant gefnogi pobl a chymunedau yng Nghymru yn well.

Ymunwch ar y diwrnod i ddysgu mwy am flaenoriaethau’r YHA yng Nghymru a’u hymrwymiad i bobl a chymunedau Cymru. Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u datblygu mewn ymateb i ymgynghoriad a sgyrsiau a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Bydd cinio a chyfle i rwydweithio, i archwilio cyfleoedd cydweithredol i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd yn well i gael mynediad i antur.

Noddir y digwyddiad gan Huw Irranca Davies MS

RSVP i walesstrategy@yha.org.uk erbyn 12 Tachwedd 2022.

Digwyddiadau Taith Mis Tachwedd

Dros yr wythnosau nesaf bydd mwy o weminarau ar Taith Llwybr 2, a gynhelir gan dîm Taith.

Bydd y rownd hon o ddigwyddiadau ar ffurf sesiwn holi ac ateb gyda’r tîm:https://www.taith.cymru/event/llwybr-2-holi-ac-ateb/

 

 

4 yp Dydd Iau y 10fed o Dachwedd (Cymraeg)

4 yp Dydd Gwener yr 11eg o Dachwedd (Saesneg)

12 yp Dydd Mawrth y 15fed o Dachwedd (Saesneg)

Ar gyfer gweminarau yn Saesneg sylwer, byddant yn cael eu cyflwyno yn Saesneg ond fe’ch anogir a’ch bod yn gallu cyflwyno cwestiynau a sylwadau, yn y Gymraeg.

Mae’n debygol na fydd gweminarau’n para mwy nag 1 awr.

Os hoffech gyflwyno cwestiynau ac ymholiadau i’r cyflwynwyr ymlaen llaw, gallwch wneud hynny drwy: ymholiadautaith@taith.cymru

Mae’r tîm mor gefnogol ac rwy’n eich annog i gysylltu â nhw (neu ni os nad ydych yn siŵr) gan y byddant yn onest yn gwneud yr hyn a allant i’ch helpu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Llwybr 2 ar wefan Taith: https://www.taith.cymru/pathway_2/ieuenctid/trosolwg/

Llwyddiant Taith Llwybr 1 a digwyddiadau

Heddiw mae’r tîm Taith wedi cyhoeddi canlyniadau rownd gyntaf cyllid rhaglen Llwybr 1, a agorodd ym mis Mawrth 2022 ac a gaeodd i geisiadau ym mis Mai 2022.

Erbyn hyn mae’r holl ymgeiswyr llwyddiannus wedi eu cael wybod ac mae rhai hyd yn oed wedi dechrau ar eu prosiectau.

Roeddem wrth ein bodd i weld cymaint o ymgeiswyr llwyddiannus o’r sector Ieuenctid ac yn gobeithio, wrth i’r rhaglen barhau, y bydd y llwyddiant yn tyfu. Mae’r profiadau dysgu rhyngwladol hyn i bobl ifanc yng Nghymru mor bwysig a gobeithiwn y byddant yn cyfoethogi gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc fel ei gilydd.

Gallwch ddod o hyd i ddatganiad i’r wasg yma ac am ragor o wybodaeth mae’n werth ei ddilyn ar gyfryngau cymdeithasol:

https://www.linkedin.com/company/taithwales

https://twitter.com/TaithWales

https://www.facebook.com/Taith-101485822453103

https://www.youtube.com/channel/UC7P1JDk8WMOnBOok3qeFxFg

 

 

Nodyn atgoffa olaf; yfory a dydd Gwener gallwch ymuno â thîm Taith yn eu gweminarau ar Llwybr 2:

4 yp Dydd Iau y 27ain o Hydref (yn Gymraeg)

12 yp Dydd Gwener yr 28ain o Hydref (yn Saesneg)

https://www.taith.cymru/event/llwybr-2-offeryn-cyfrifo-a-ffurflen-gais/

 

Os hoffech gyflwyno cwestiynau ac ymholiadau i’r cyflwynwyr ymlaen llaw, gallwch wneud hynny drwy: ymholiadautaith@taith.cymru

Cyhoeddi Aelodau Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Yn dilyn proses penodiadau cyhoeddus, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi heddiw aelodaeth y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Gellir gweld datganiad y Gweinidog yma.

Nododd Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru “mae aelodau’r Bwrdd yn dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd a fydd yn amhrisiadwy wrth i ni symud at adeiladu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â youthworkboard@llyw.cymru.

Ystadegau Gwaith Ieuenctid y Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei data ystadegol blynyddol ar Waith Ieuenctid yng Nghymru yng nghyd-destun awdurdodau lleol

Cyhoeddwyd y gyfres diweddaraf o ystadegau blynyddol ar Waith Ieuenctid yng Nghymru (awdurdodau lleol yn unig) yr wythnos hon.

Mae’r ystadegau hyn yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2021-22 a gallwch weld yr ystadegau hyn yma:

https://llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ebrill-2021-i-fawrth-2022

Digwyddiadau Taith

Wythnos nesaf bydd Gweminarau amdano Taith Llwybr 2, yn benodol cyflwyniad i’r Offeryn Cyfrifio a’r Ffurflen Gais.

4 yp Dydd Mawrth y 25ain o Hydref (yn Saesneg)

4 yp Dydd Iau y 27ain o Hydref (yn Gymraeg)

12 yp Dydd Gwener yr 28ain o Hydref (yn Saesneg)

Ar gyfer gweminarau yn Saesneg sylwer, byddant yn cael eu cyflwyno yn Saesneg ond fe’ch anogir a’ch bod yn gallu cyflwyno cwestiynau a sylwadau, yn y Gymraeg.

Mae’n debygol na fydd gweminarau’n para mwy nag 1 awr.

Os hoffech gyflwyno cwestiynau ac ymholiadau i’r cyflwynwyr ymlaen llaw, gallwch wneud hynny drwy: ymholiadautaith@taith.cymru

Mae’r tîm mor gefnogol ac rwy’n eich annog i gysylltu â nhw (neu ni os nad ydych yn siŵr) gan y byddant yn onest yn gwneud yr hyn a allant i’ch helpu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a Llwybr 2 ar wefan Taith:
https://www.taith.cymru/pathway_2/ieuenctid/digwyddiadau/

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion

Heddiw, cyhoeddwyd fersiwn neydd o’r llyfryn ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’.

Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr sefydliadau gwaith ieuenctid, gwleidyddion, aelodau etholedig a swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid.

Mae hefyd wedi’i ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, y rhai sydd eisoes yn ymwneud â sefydliadau gwaith ieuenctid yn ogystal â’r rhai sy’n dymuno darganfod mwy am y mathau o brofiad y gall sefydliadau gwaith ieuenctid ei ddarparu.

Mae ‘Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ wedi’i gynhyrchu ar y cyd gan gynrychiolwyr o’r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru a Chyngor y Gweithlu Addysg.

I unrhyw un sydd ar fin derbyn copi caled yn y post, a fyddech cystal ag ystyried rhannu ffoto ar y gyfryngau cymdeithasol a’n tagio, post a awgrymir yw:

“Yn falch iawn i dderbyn copi newydd ffres o #GwaithIeuenctidYngNghymruEgwyddorionADibenion”

Os hoffech gael mynediad at gopi neu er hwylustod i’w rhannu, gallwch ddod o hyd i’r dogfen Cymraeg yma: https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2022/10/YOUTH-WORK-IN-WALES-2022-CYMRAEG.pdf

Peidiwch ag anghofio’r hashnod (hir!) #GwaithIeuenctidYngNghymruEgwyddorionADibenion

Gallwch ddod o hyd i copi dwyieithog yma: YOUTH WORK IN WALES PRINCIPLE AND PURPOSES – GWAITH IEUENCTID YNG NGHYMRU EGWYDDORION A DIBENION 2022

 

Digwyddiadau Taith wythnos yma

Erbyn hyn, mae’n debyg y bydd llawer wedi clywed bod Taith Llwybr 2 wedi’i lansio, ond a oeddech chi’n gwybod am y digwyddiadau gwybodaeth a gynhelir yr wythnos hon?

Mae Llwybr 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau rhyngwladol sy’n gweithio tuag at fynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n unigryw i’n sectorau ac mae tair sesiwn 60 munud yn cael eu cynnal yr wythnos hon.

Cyflwyniad i Llwybr 2:

11 Hydref am 4yp (yn Saesneg)

13 Hydref am 4yp (yn Gymraeg)

14 Hydref am 12yp (yn Saesneg)

 

Mwy o wybodaeth a dolen cofrestru yma; https://www.taith.cymru/event/llwybr-2-cyflwyniad/

 

Datganiad Gweinidogol ar gofrestru gyda’r Chyngor Gweithlu Addysg

Rhannodd Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru y neges hon gyda ni;

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni ar newidiadau arfaethedig i’r categorïau o bobl mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg. Gellir darllen y datganiad a chrynodeb o’r ymatebion ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad mewn perthynas â’r cynigion yn gysylltiedig â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar y newidiadau arfaethedig. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ar y newidiadau arfaethedig i gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid at gwaithieuenctid@llyw.cymru

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Teilyngwyr wedi cyhoeddi

Mae’r teilyngwyr y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2022 wedi’u cyhoeddi heddiw!

Rydym yn falch iawn o weld nifer o’n Haelodau ar y rhestr, mae’n wych gweld ehangder y gwaith gwych yn cael ei gydnabod ar draws y sectorau ieuenctid gwirfoddol a statudol yng Nghymru.

Cynhelir y gwobrau yn Neuadd Brangwyn Abertawe ar y 1af o Ragfyr.

Os ydych ar y rhestr fer a mae gennych chi ymholiadau am ddyrannu tocynnau, hygyrchedd y lleoliad neu unrhyw beth arall, cysylltwch â Youthworkexcellence.awards@llyw.cymru

Yma gallwch ddod o hyd i restr llawn y teilyngwyr y Wobrau eleni

  • Andrew Owen, Ieuenctid Gwynedd Youth
  • Carly Powell, Gwasanaethau Ieuenctid Caerffili
  • Cynhadledd #FelMerch, Urdd Gobaith Cymru
  • David Stallard, Mixtup
  • David Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen
  • GISDA
  • Gwyl Llesiant, Gwasanaeth Ieuecntid Gwynedd
  • Hannah Lewis, The Hwb, Torfaen
  • Heulwen O’Callaghan, Prosiect Arweinyddiaeth Iau, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gar
  • Inspire, Gwaith Ieuenctid mewn Ysbyty
  • Karen and Jake Henry, Vibe Youth CIC
  • Kieran Saunders, CCYP
  • Lela Patterson, MAD Abertawe
  • Linda Brackenbury, Clwb Merched a Bechgyn
  • Llwybr Gwlân, Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent
  • Mahieddine Dib, EYST
  • Mick Holt, Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint
  • Mindscape Project, Tanyard Youth
  • Mixtup
  • Nick Corrigan, Media Academy Cymru
  • Prosiect ‘Nunlle i Fynd’ Gwasanaeth Ieuenctid Conwy
  • Ruth Letten, CONNECT, Adoption UK
  • Sarah McCreadie, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd
  • STAND Gogledd Cymru
  • Stuart Parkinson, Hwb Byddar Cymru

 

Llongyfarchiadau i chi gyd!