Taith Llwybr 1 ar agor heddiw!

Mae Taith Llwybr 1 ar agor eto ar gyfer ceisiadau! https://www.taith.cymru/newyddion/mae-llwybr-1-yn-yn-ol-ar-gyfer-2023/

 

I gefnogi ail-agor galwad ariannu Llwybr 1 mae tîm Taith yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein i gefnogi a hysbysu darpar ymgeiswyr. Gallwch ddod o hyd i ddyddiadau ac amseroedd isod a bydd clicio ar y dolenni yn mynd â chi i’r dudalen gofrestru.

 

Cyflwyniad i Lwybr 1:

 

Dydd Mawrth 24 Ionawr 2023 12:30-13:30 (Cymraeg)

Dydd Mercher 25 Ionawr 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

Dydd Iau 26 Ionawr 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

 

 

Cwblhau Ffurflen Gais Llwybr 1 2023:

 

Dydd Llun 6 Chwefror 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

Dydd Mawrth 07 Chwefror 2023 12:30-13:30 (Cymraeg)

Dydd Iau 09 Chwefror 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

 

 

Cwblhau Offeryn Cyfrifo Pathway 1 2023:

 

Dydd Mercher 15 Chwefror 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

Dydd Iau 16 Chwefror 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

Dydd Iau 16 Chwefror 2023 16:00-17:00 (Cymraeg)

 

Sesiwn Holi ac Ateb Llwybr 1:

 

Dydd Mawrth 07 Mawrth 2023 12:30-13:30 (Saesneg)

Dydd Iau 09 Mawrth 2023 16:00-17:00 (Saesneg)

 

Fel arfer, croesewir cwestiynau a sylwadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg ym mhob digwyddiad, dim ond disgrifio’r iaith y cynhelir digwyddiad ynddo y mae’r iaith mewn cromfachau.

 

Hyd y digwyddiadau

Tua 60 munud

 

Gallwch ddod o hyd i restr o adnoddau a gasglwyd mewn un lle ar ein gwefan a byddwn yn ei diweddaru wrth i’r rownd ariannu hon ddatblygu:

https://www.cwvys.org.uk/resources/?lang=cy

Bydd Llwybr 1 yn cau i geisiadau ar yr 16eg o Fawrth.

 

Os oes gennych unrhyw cwestiynnau yn y cyfamser, mae croeso i chi ofyn fi, Paul@cwvys.org.uk  neu kari@bgc.wales neu vickycourt@wcia.org.uk

 

Er eich diddordeb, dyma dolen i cyfweliad bach neis gan Nia o’r Urdd am y daith Seland Newydd (wedi’i ariannu gan Taith) ar raglen Aled Hughes, mae’r cyfweliad yn dechrau tua’r 15.00: https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m001h3ch

“Grant Ymgysylltu Democrataidd” y Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Is-adran Etholiadau Llywodraeth Cymru yn ddiweddar eu bod yn bwriadu sefydlu cynllun grant i gefnogi gweithgareddau sy’n ymwneud â gwella ymgysylltiad democrataidd ledled Cymru.

Yr wythnos hon roedd y tîm yn falch o ddatgelu bod ceisiadau bellach yn cael eu croesawu gan sefydliadau am arian o’r “Grant Ymgysylltu Democrataidd”.

Rhennir ceisiadau rhwng y rhai sy’n gwneud cais am gyllid o dan £1000 a’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid dros £1000.

Isod gallwch ddod o hyd i’r ddolen i’r wefan sy’n cynnwys yr holl wybodaeth ychwanegol. Sylwch fod y canllawiau ar gyfer y grant wedi’u cynnwys yn y ffurflenni cais.

Y grant ymgysylltu â democratiaeth | LLYW.CYMRU

Llinell amser a rhagor o wybodaeth

  • Ionawr 2023: y ffenestr i wneud cais am y grant yn agor.
  • Chwefror 2023: y ffenestr wreiddiol i wneud cais am y grant yn cau.
  • Chwefror 2023: llythyrau canlyniadau’n cael eu hanfon at gynigwyr.
  • Chwefror a Mawrth 2023: llythyrau dyfarnu’r grant yn cael eu hanfon.

Cyfle secondiad: Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Cyfle secondiad: Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid – Deddfwriaeth a Gweithio Rhanbarthol

Yma gallwch ddod o hyd i hysbyseb am gyfle secondiad i ymuno â Changen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru: 10. Senior Youth Work Strategy Manager – Legislation and Regional Working – Secondment – Cymraeg

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canolbwyntio ar waith sy’n ymwneud â chryfhau neu sefydlu sail ddeddfwriaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru a ffrydiau gwaith cysylltiedig.

Dylid anfon datganiadau o ddiddordeb at dyfan.evans@llyw.cymru erbyn canol dydd, dydd Mercher 25 Ionawr 2023.

Mae croeso i unigolion gysylltu â Dyfan os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y cyfle hwn.

Swydd Wag gyda CWVYS: SWYDDOG CYFATHREBU

SWYDDOG CYFATHREBU (DROS GYFNOD MAMOLAETH) (DWYIEITHOG: CYMRAEG/SAESNEG) 2023/24

 

Oriau gwaith:                                     24 yr wythnos

Hyd y cytundeb:                                1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024                                               

Cyflog:                                                £26,845 pro rata (£17,413 gwirioneddol)

Yn atebol i:                                        Prif Weithredwr CWVYS

Man Gweithio:                                   Gweithio gartref/hyblyg (mae’r swyddfa ym Mae Caerdydd)

 

Dymuna CWVYS recriwtio Swyddog Cyfathrebu rhan-amser, i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth deiliad presennol y swydd.

Rydym yn chwilio am berson cwbl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg), creadigol a medrus a fydd yn cefnogi anghenion cyfathrebu’r sector gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

 

Gwahoddir ymgeiswyr i nodi eu diddordeb yn y swydd hon trwy e-bostio paul@cwvys.org.uk

Wedi hyn, bydd copi o’r swydd ddisgrifiad/manyleb person a ffurflen gais yn cael eu hanfon atoch.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, bydd disgwyl i ymgeiswyr brofi sut mae eu profiadau a’u sgiliau’n cyd-fynd â gofynion y rôl fel y nodir yn y swydd ddisgrifiad a manyleb person.

 

Y dyddiad/amser cau i dderbyn ceisiadau yw 10.00am ar 20 Ionawr 2023.

Bydd yr ymgeiswyr hynny a hoffem eu cyfweld yn cael eu hysbysu o’r broses berthnasol maes o law.

Diolch o flaen llaw am eich diddordeb.

Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid.

Isod gallwch ddod o hyd i neges fer gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â gwahoddiad i Dendro.

Bydd cyfle i gydlynu a rheoli Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid.

ITQ – Young Persons Comittee – 2023 CYM

ITQ – Young Persons Committee – Standard Conditions of Service_CYM

Gweler y dolenni uchod am Wahoddiad i Dendro i gydlynu a rheoli Pwyllgor Pobl Ifanc Gwaith Ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan sefydliadau unigol neu gonsortia.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cyfeiriwch nhw at y blwch post gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 1pm ddydd Llun, 16 Ionawr 2023.

Datganiad ac Ymgynghoriad; cynigion i ychwanegu at gategorïau ar gyfer cofrestru gyda CGA

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ddatganiad heddiw ar yr ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth ddrafft ar gynigion i ychwanegu categorïau cofrestru ar gyfer y rhai y mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir cael mynediad i’r datganiad a’r dogfennau ymgynghori ar wefan Llywodraeth Cymru.

Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad blaenorol mewn perthynas â’r cynigion yn gysylltiedig â gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich mewnbwn parhaus i’r gwaith hwn a byddwn yn parhau i ymgysylltu ag ystod o randdeiliaid ar y newidiadau arfaethedig. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ar y newidiadau arfaethedig i gofrestru gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid at gwaithieuenctid@llyw.cymru

Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 17 Chwefror 2023.

Digwyddiadau Taith Llwybr 1

Mae Taith yn cynnal sesiynnau Rhagarweiniol i Lwybr 1 cyn i’r alwad ariannu nesaf agor ym mis Ionawr 2023.

Os hoffech ymuno i glywed mwy am y broses ymgeisio a gofyn unrhyw gwestiynau, bydd dwy sesiwn yr wythnos nesaf:

 

14eg Rhagfyr 4-5pm

16 Rhagfyr 12.30-1.30pm

 

I fynychu unrhyw un o’r rhain cofrestrwch trwy’r dolenni uchod. Os hoffech chi gael gwybod mwy am Taith Llwybr 1 edrychwch ar ein tudalen adnoddau; https://www.cwvys.org.uk/resources/?lang=cy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu â Taith trwy ymholiadau@taith.cymru

Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru rywfaint o wybodaeth am ei gweledigaeth ar gyfer Ysgolion Bro, pam eu bod yn bwysig a’r hyn y maent yn gobeithio y byddant yn ei gyflawni i bobl Cymru.

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth yn llawn yma; Ysgolion Bro

Dywedasant pam fod y syniad hwn yn bwysig;

Rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgolion Bro:

adeiladu partneriaeth gref gyda theuluoedd
ymateb i anghenion eu cymuned
cydweithio’n effeithiol â gwasanaethau eraill

Mae’r erthygl yn parhau;

Mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi cydnabod pwysigrwydd Ysgolion Bro. Mae eu hadroddiad, Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth galon bywyd ysgol’ yn darparu astudiaethau achos sy’n dangos agweddau ar bob elfen o’r dull gweithredu ysgolion bro. Maent hefyd yn nodi 8 nodwedd ddiffiniol Ysgol Fro:

  1. ffocws ar anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd pob dysgwr gan gynnwys mynediad at ystod gydlynol o wasanaethau a chynlluniau dysgu personol
  2. ymgysylltu â theuluoedd, yn aml yn cynnwys datblygu gwasanaeth cymorth i deuluoedd yn yr ysgol
  3. ymgysylltu â’r gymuned ehangach, gan ddarparu’r cyfle a’r mecanweithiau i feithrin gallu yn y gymuned leol
  4. darpariaeth integredig o addysg ysgol, addysg anffurfiol yn ogystal ag addysg ffurfiol, gwaith cymdeithasol ac addysg iechyd a gwasanaethau hybu
  5. rheolaeth integredig a gefnogir yn aml gan reolwr integreiddio
  6. gwasanaethau a ddarperir yn unol â set o amcanion integredig a chanlyniadau mesuradwy, nodwedd arwyddocaol mewn llawer o achosion yw cydleoli
  7. ymrwymiad ac arweinyddiaeth
  8. hyfforddiant amlddisgyblaethol a datblygiad staff

Yma gallwch ddod o hyd i ddiagram o fodel y Llywodraeth ar gyfer Ysgolion Bro:

Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid

Yfory mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn cael eu cynnal yn Abertawe yn neuadd Brangwyn.

Yma gallwch ddod o hyd i raglen y noson a gwybodaeth fanylach am bawb a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni;

GWOBRAU RHAGORIAETH GWAITH IEUENCTID 2022

 

Cadwch eich lygaid ar ein sianel trydar heddi a fory, bydd CWVYS yn rhannu dolen i’r ‘livestream’ o’r Wobrau fel y byddwch yn gallu dilyn y wobrau o gartre!

 

Yma gallwch ddod o hyd i restr lawn y rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau eleni;

Andrew Owen, Ieuenctid Gwynedd Youth  www.facebook.com/AndrewOwenGCI/

Carly Powell, Gwasanaethau Ieuenctid Caerffili Caerffili – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (caerphilly.gov.uk)

Cynhadledd #FelMerch, Urdd Gobaith Cymru #FelMerch | Urdd Gobaith Cymru

David Stallard, Mixtup www.facebook.com/mixtupswansea/

David Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen www.ewc.wales/site/index.php/cy/amdanom-ni/archif-blog/1679-david-williams-sut-mae-gwaith-ieuenctid-yn-edrych-yng-nghymru.html

GISDA  www.gisda.org

Gwyl Llesiant, Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Iechyd-a-gofal-cymdeithasol/Hwb-teuluoedd/Ieuenctid.aspx

Hannah Lewis, The Hwb, Torfaen www.connecttorfaen.org.uk/profile/TheHwb

Heulwen O’Callaghan, Prosiect Arweinyddiaeth Iau, Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin

Inspire, Gwaith Ieuenctid mewn Ysbyty Ysbrydoli (ewc.wales)

Karen and Jake Henry, Vibe Youth CIC About vibe youth – Vibe Youth

Kieran Saunders, CCYP www.facebook.com/cwmbrancentreforyoungpeople/

Lela Patterson, MAD Abertawe www.swanseamad.com/cy/hafan/

Linda Brackenbury, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru https://cy.bgc.wales/

Llwybr Gwlân, Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent www.taicalon.org/bedwellty-wellbeing-yarn-trail/

Mahieddine Dib, EYST www.eyst.org.uk

Mick Holt, Darpariaeth Ieuenctid Integredig Sir y Fflint www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Flintshire-Integrated-Youth-Provision/Home.aspx

Mindscape Project, Tanyard Youth www.tanyardyouthproject.co.uk

Mixtup www.facebook.com/mixtupswansea/

Nick Corrigan, Media Academy Cymru www.mediaacademycymru.wales

Prosiect ‘Nunlle i Fynd’ Gwasanaeth Ieuenctid Conwy www.conwyifanc.com/derw

Ruth Letten, CONNECT, Adoption UK www.adoptionuk.org/FAQs/ruth-letten

Sarah McCreadie, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd www.cardiffyouthservices.wales/index.php/cy/

STAND Gogledd Cymru STAND North Wales – Stronger Together for Additional Needs and Disabilities (standnw.org)

Stuart Parkinson, Hwb Byddar Cymru Cardiff Deaf Cool Youth Club | Cardiff Deaf Centre (deafhub.wales)

 

Pob lwc i bawb yfory!

Dysgu, Hyfforddiant a Chyflogaeth Llamau

Isod mae neges gan Llamau am eu cynnig Dysgu, Hyfforddiant a Chyflogaeth;

Yn y pdf yma  Llamau – Learning Training and Employment (Final) gallwch ddod o hyd i’r llyfryn Dysgu, Hyfforddiant a Chyflogaeth sy’n esbonio ein rhaglenni ‘Camu i mewn’. Rydym yn recriwtio’n allanol ar ein rhaglen Camu i mewn i Addysg, Camu i mewn i Les a Camu i mewn i Waith.

Anelwn roi darpariaeth sy’n diwallu eu hanghenion mewn modd anogol i bobl ifanc ond yn anelu at eu paratoi ar gyfer y cam nesaf er mwyn iddynt gynnal. Rydym yn gweld ein hunain fel pont rhwng cyn-16 ac ôl-16 gan ein bod yn gwybod nad yw llawer o bobl ifanc yn barod i symud ymlaen yn uniongyrchol i ôl-16 ar ddiwedd blwyddyn 11.

Gellir cael mynediad i ni unrhyw bryd ar gyfer unrhyw oedran hyd at 24 oed ond mae JGW+ hyd at 19eg pen-blwydd. Mae ein canolfan wedi’i lleoli yn yr ardaloedd canlynol; Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, y Fro, Caerffili, Pontypridd.

  • Mae gan ein staff addysgu cwbl gymwys fynediad at batrymau presenoldeb hyblyg i alluogi dysgwyr i weithio ar eu cyflymder.
  • Nod ein darpariaeth Camu at Les yw goresgyn rhwystrau cyn addysg ffurfiol yn y prynhawniau. Mae hyn hyd at 12 awr yr wythnos.
  • Nod ein darpariaeth Camu i mewn i Addysg yw darparu hyd at 30 awr o ddarpariaeth addysg yr wythnos.
  • Nod ein darpariaeth Camu at Waith yw darparu rhaglen gyflogadwyedd yn y dyfodol sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer byd gwaith. Rydym yn rhagweld na fydd unrhyw ddysgwyr yn cael mynediad uniongyrchol at hwn ond yn symud i mewn i hwn o naill ai Camu i Les neu Camu i mewn i Addysg. Gall hyn fod rhwng 3 a 30 awr yr wythnos yn dibynnu ar lefelau dysgu.
  • Yn ogystal â thaliadau lle bo’n berthnasol i ddysgwyr, rydym yn ad-dalu costau teithio a hefyd yn darparu pryd poeth i bob dysgwr
  • Mae ein Hyfforddwyr Dilyniant ar gael i gefnogi gyda chwrdd â phobl ifanc yn y gymuned cyn dechrau ar y rhaglen.
  • Rydym yn sefydliad cyfeillgar LGBTQ+ gydag arbenigedd mewn sicrhau cefnogaeth i grwpiau o fewn hyn. Gallwn gynnig ystod o gymorth ymglymiad ychwanegol i grwpiau i sicrhau eu bod yn gallu ymgysylltu’n gymdeithasol â chyfoedion hefyd yn ychwanegol at ein prif gontractau gwaith.

I gysylltu â’r tîm e-bostiwch L4Ladmin@llamau.org.uk

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan https://www.llamau.org.uk/Pages/Category/what-we-do-education-employment-and-training

Llythyr oddi wrth Sharon Lovell i’r sector gwaith ieuenctid

Annwyl bawb,

Rwy’n gobeithio eich bod chi i gyd wedi gweld y cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn disgrifio pwy fydd yn eistedd ochr yn ochr â mi ar y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda grŵp mor ddynamig ac angerddol. Mae’r Bwrdd eisoes wedi cyfarfod ddwywaith, a hoffwn roi diweddariad i chi ar ein blaenoriaethau a’ch gwahodd i fod yn rhan o gam nesaf y gwaith hwn.

Mae’r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn eang ac yn uchelgeisiol. Bellach, mae’r sylw ar droi’r argymhellion hyn yn gamau gweithredu er mwyn cyflwyno model o waith ieuenctid cynaliadwy sy’n cyfoethogi bywydau holl bobl ifanc Cymru.

Rydym ni yn y Bwrdd am ymgysylltu â chi a llywio’r uchelgeisiau hyn gyda’n gilydd. Ochr yn ochr â sicrhau bod llais pobl ifanc yn parhau i lywio ein gwaith, yr ydym wedi ymrwymo i barhau i weithio mewn modd cyfranogol gyda rhanddeiliaid ledled y sector.
Gan adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth a fu ar waith rhwng 2019 a 2022, bydd pum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu (GCG) yn cael eu sefydlu. Caiff pob grŵp ei gadeirio gan aelod o’r Bwrdd a bydd yn canolbwyntio ar argymhellion penodol a wnaed gan y Bwrdd Dros Dro.

Manylion am y grwpiau yma; Sharon Lovell letter to the youth work sector Nov 2022 – Cym PDF

Fe sylwch fod rhywfaint o debygrwydd rhwng canolbwynt Grwpiau Cyfranogiad blaenorol y Strategaeth a’r Grwpiau Cyfranogiad: Gweithredu newydd – mae hyn yn adlewyrchu’r angen i barhau ag elfennau o’r gwaith hwn. Roedd y Bwrdd hefyd yn glir fod angen i ni fod yn ystwyth o ran ein dull gweithredu ac felly mae’n bosibl y sefydlir grwpiau pellach yn nes ymlaen, a gallai’r grwpiau uchod ddod i ben wrth i’r gwaith hwn symud ymlaen.

Bellach, mae’n bryd adnewyddu aelodaeth y grwpiau hyn a rhoi cyfle i bawb ledled y sector gyfranogi yn yr elfen bwysig hon o’r gwaith. Yn ogystal ag annog unrhyw un a fu’n aelod o un o Grwpiau Cyfranogiad blaenorol y Strategaeth i ystyried ymuno â’r grwpiau newydd hyn, fy ngobaith yw y gallwn ddenu wynebau newydd i ymuno hefyd.

Byddaf yn cadeirio cyfarfod byr trwy Teams o 1pm-2pm ar 12 Rhagfyr i esbonio mwy am y grwpiau hyn ac i ateb rhai o’ch cwestiynau. Bydd aelodau eraill o’r Bwrdd hefyd yn bresennol. Dylai fod holl aelodau Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth eisoes wedi cael gwahoddiad i’r sesiwn hon. Mae croeso hefyd i eraill ymuno â ni i glywed rhagor am y cam nesaf hwn. Os hoffech ymuno â’r sesiwn hon ond nid yw manylion y cyfarfod gennych, mae croeso i chi anfon neges e-bost i’r cyfeiriad bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru.

Os hoffech fynegi diddordeb mewn ymuno ag un o’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu, llenwch y ffurflen yma; Expression of interest in joining IPG group – bilingual a’i dychwelyd i bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru erbyn 16 Rhagfyr.

Bydd pob mynegiad o ddiddordeb yn y grwpiau yn cael ei ystyried gan yr aelod arweiniol o’r Bwrdd er mwyn sicrhau cydbwysedd a lefelau priodol o wybodaeth a sgiliau. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau cyn cyflwyno eich ffurflen mynegi diddordeb, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Disgwylir i holl aelodau’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu ymgysylltu’n weithredol â’r gwaith a dod i gyfarfodydd yn rheolaidd. Rydym yn deall na fydd pawb yn gallu ymrwymo i ddod i gyfarfodydd rheolaidd ac yn yr achosion hynny, gall fod adegau pan fydd modd i chi gynnig arbenigedd neu gyngor ar bynciau trafod penodol os bydd angen. Disgwylir hefyd i holl aelodau’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu rannu gwybodaeth am waith eu grŵp, lle bo hynny’n briodol, â phobl eraill ledled y sector a’r tu hwnt er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a chyd-ddealltwriaeth o’r camau a gymerir.

Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch am weithio gyda ni yn ystod y cam nesaf hwn. Tybiaf fod llawer o waith o’n blaenau; bydd yn heriol ar adegau, ond yn fuddiol gobeithio, wrth i ni geisio rhoi trefniadau ar waith i gynnig y gefnogaeth orau i bob person ifanc ledled Cymru. Rwy’n credu bod amser cyffrous iawn o’n blaenau ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y daith flaengar hon i gynnal gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Sharon Lovell
Cadeirydd – Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid

Bwletin Gwaith Ieuenctid y Llywodraeth Cymru

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnwys ar gyfer y Bwletin Gwaith Ieuenctid a anfonir gan Lywodraeth Cymru yw 30 Tachwedd.

Y thema ar gyfer y rhifyn nesaf yw Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, felly maen nhw’n edrych i gynnwys unrhyw straeon, prosiectau neu eitemau newyddion sy’n ymwneud â’r pwnc.

Ar gyfer adran Llais y Person Ifanc yn y Bwletin, hoffent nodi person ifanc sy’n enghreifftio’r hyn yw bod yn ‘Hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth’.
Os oes gan unrhyw un ohonoch unrhyw syniadau am gynnwys ar gyfer y rhifyn nesaf hwn byddai croeso mawr iddynt gan ellie@cwvys.org.uk
Mae croeso i chi rannu gyda’ch rhwydweithiau ar draws y sectorau ieuenctid yng Nghymru.