Peidiwch â cholli’r cyfle gwych yma i gefnogi arweinydd hanfodol yn y sector gwirfoddol, gan eu galluogi i dyfu, datblygu a chynyddu eu heffaith.

Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arwain. Bob blwyddyn mae’r bwrsari yn rhoi grant o £2,500 i rywun mewn swydd arwain mewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru.

Ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru sy’n rheoli’r bwrsari ac mae ar agor i dderbyn ceisiadau tan 2 Hydref 2023.

BETH FYDDWN NI’N EI ARIANNU

Mae’r ffiniau o ran sut y gellir gwario’r bwrsari yn agored, ac anogir ymgeiswyr i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain fel arweinydd. Roedd Walter wrth ei fodd yn teithio ac yn dysgu, ac roedd CGGC am i’r bwrsari yma adlewyrchu hynny. Er enghraifft, byddai modd defnyddio’r arian:

  • ar gwrs astudio penodol
  • ar gyfer ymweliad, dramor o bosibl, i weld sut mae eraill yn mynd ati, neu
  • ar unrhyw beth mae’r buddiolwr yn teimlo y byddai’n ei symud nhw a’u mudiad yn ei flaen

Mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw!

DERBYNWYR GRANT BLAENOROL

Ers 2017, mae’r bwrsari wedi cyllido:

  • Ymweliad astudio â Copenhagen am wersi ar drafnidiaeth gynaliadwy
  • Prosiect cyfnewid dysgu am arddio cymunedol ym Montreal
  • Meithrin rhwydwaith a rhannu gwybodaeth yn sector y celfyddydau
  • Sawl cwrs datblygu arweinyddiaeth, er enghraifft y cwrs Arweinwyr Mentrus gydag Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru
  • Taith arloesol i Hollywood ar gyfer elusen ffilm gynhwysol, TAPE Community Music and Film

Darllenwch fwy am sut mae pobl wedi defnyddio ein bwrsari arweinyddiaeth.

DILYN YR ARWEINWYR

Mae enillwyr 2022, Steve Swindon a Louise Miles-Payne, wedi bod yn recordio cyfres o bodlediadau yn siarad ag enillwyr eraill y bwrsari am sut maen nhw wedi bod yn datblygu eu sgiliau arwain.

Yn y bennod ddiweddaraf siaradodd y ddau â’n Pennaeth Buddsoddi Cymdeithasol Cymru, Alun Jones cyn agor bwrsari 2023. (Saesneg yn unig)

https://soundcloud.com/tapemusicandfilm/following-the-leaders-episode-7-alun-jones?utm_source=clipboard&utm_campaign=wtshare&utm_medium=widget&utm_content=https%253A%252F%252Fsoundcloud.com%252Ftapemusicandfilm%252Ffollowing-the-leaders-episode-7-alun-jones

RHAGOR O WYBODAETH AC YMGEISIO

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n tudalen Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 2 Hydref 2023.