Annwyl bawb,

Rwy’n gobeithio eich bod chi i gyd wedi gweld y cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn disgrifio pwy fydd yn eistedd ochr yn ochr â mi ar y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda grŵp mor ddynamig ac angerddol. Mae’r Bwrdd eisoes wedi cyfarfod ddwywaith, a hoffwn roi diweddariad i chi ar ein blaenoriaethau a’ch gwahodd i fod yn rhan o gam nesaf y gwaith hwn.

Mae’r argymhellion a wnaed gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro yn eang ac yn uchelgeisiol. Bellach, mae’r sylw ar droi’r argymhellion hyn yn gamau gweithredu er mwyn cyflwyno model o waith ieuenctid cynaliadwy sy’n cyfoethogi bywydau holl bobl ifanc Cymru.

Rydym ni yn y Bwrdd am ymgysylltu â chi a llywio’r uchelgeisiau hyn gyda’n gilydd. Ochr yn ochr â sicrhau bod llais pobl ifanc yn parhau i lywio ein gwaith, yr ydym wedi ymrwymo i barhau i weithio mewn modd cyfranogol gyda rhanddeiliaid ledled y sector.
Gan adeiladu ar y momentwm a grëwyd gan Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth a fu ar waith rhwng 2019 a 2022, bydd pum Grŵp Cyfranogiad Gweithredu (GCG) yn cael eu sefydlu. Caiff pob grŵp ei gadeirio gan aelod o’r Bwrdd a bydd yn canolbwyntio ar argymhellion penodol a wnaed gan y Bwrdd Dros Dro.

Manylion am y grwpiau yma; Sharon Lovell letter to the youth work sector Nov 2022 – Cym PDF

Fe sylwch fod rhywfaint o debygrwydd rhwng canolbwynt Grwpiau Cyfranogiad blaenorol y Strategaeth a’r Grwpiau Cyfranogiad: Gweithredu newydd – mae hyn yn adlewyrchu’r angen i barhau ag elfennau o’r gwaith hwn. Roedd y Bwrdd hefyd yn glir fod angen i ni fod yn ystwyth o ran ein dull gweithredu ac felly mae’n bosibl y sefydlir grwpiau pellach yn nes ymlaen, a gallai’r grwpiau uchod ddod i ben wrth i’r gwaith hwn symud ymlaen.

Bellach, mae’n bryd adnewyddu aelodaeth y grwpiau hyn a rhoi cyfle i bawb ledled y sector gyfranogi yn yr elfen bwysig hon o’r gwaith. Yn ogystal ag annog unrhyw un a fu’n aelod o un o Grwpiau Cyfranogiad blaenorol y Strategaeth i ystyried ymuno â’r grwpiau newydd hyn, fy ngobaith yw y gallwn ddenu wynebau newydd i ymuno hefyd.

Byddaf yn cadeirio cyfarfod byr trwy Teams o 1pm-2pm ar 12 Rhagfyr i esbonio mwy am y grwpiau hyn ac i ateb rhai o’ch cwestiynau. Bydd aelodau eraill o’r Bwrdd hefyd yn bresennol. Dylai fod holl aelodau Grwpiau Cyfranogiad y Strategaeth eisoes wedi cael gwahoddiad i’r sesiwn hon. Mae croeso hefyd i eraill ymuno â ni i glywed rhagor am y cam nesaf hwn. Os hoffech ymuno â’r sesiwn hon ond nid yw manylion y cyfarfod gennych, mae croeso i chi anfon neges e-bost i’r cyfeiriad bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru.

Os hoffech fynegi diddordeb mewn ymuno ag un o’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu, llenwch y ffurflen yma; Expression of interest in joining IPG group – bilingual a’i dychwelyd i bwrddgwaithieuenctid@llyw.cymru erbyn 16 Rhagfyr.

Bydd pob mynegiad o ddiddordeb yn y grwpiau yn cael ei ystyried gan yr aelod arweiniol o’r Bwrdd er mwyn sicrhau cydbwysedd a lefelau priodol o wybodaeth a sgiliau. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau cyn cyflwyno eich ffurflen mynegi diddordeb, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Disgwylir i holl aelodau’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu ymgysylltu’n weithredol â’r gwaith a dod i gyfarfodydd yn rheolaidd. Rydym yn deall na fydd pawb yn gallu ymrwymo i ddod i gyfarfodydd rheolaidd ac yn yr achosion hynny, gall fod adegau pan fydd modd i chi gynnig arbenigedd neu gyngor ar bynciau trafod penodol os bydd angen. Disgwylir hefyd i holl aelodau’r Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu rannu gwybodaeth am waith eu grŵp, lle bo hynny’n briodol, â phobl eraill ledled y sector a’r tu hwnt er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a chyd-ddealltwriaeth o’r camau a gymerir.

Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch am weithio gyda ni yn ystod y cam nesaf hwn. Tybiaf fod llawer o waith o’n blaenau; bydd yn heriol ar adegau, ond yn fuddiol gobeithio, wrth i ni geisio rhoi trefniadau ar waith i gynnig y gefnogaeth orau i bob person ifanc ledled Cymru. Rwy’n credu bod amser cyffrous iawn o’n blaenau ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y daith flaengar hon i gynnal gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Sharon Lovell
Cadeirydd – Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid