YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL STADIWM Y MILENIWM

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar agor i dderbyn ceisiadau gan Grwpiau LLEOL am gyllid.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm drwy gytundeb rhwng Stadiwm y Mileniwm a Chomisiwn y Mileniwm a chaiff ei hincwm ei gynhyrchu drwy ardoll ar bob tocyn gaiff ei brynu gan bobl sy’n mynychu digwyddiadau cyhoeddus yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i gyfoethogi ansawdd bywyd mewn cymunedau yng Nghymru trwy fuddsoddi mewn prosiectau ysbrydoledig chwaraeon, celfyddydol, amgylcheddol ac wedi’u seilio yn y gymuned a fydd yn cael effaith hirdymor ar y bobl sy’n buddio.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflawni hyn trwy ddosbarthu grantiau i sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ledled Cymru.

Y dyddiad cau i dderbyn Ceisiadau Lleol yw canol dydd ar y 10.01.2020.  Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cyfarfod yr wythnos yn cychwyn y 19.03.2020

Gall ymgeiswyr wneud cais am grant i fyny at £2,500.00 ble fydd cylch gorchwyl y prosiect yn gwasanaethu’u cymuned neu dref leol.

Ewch i’r wefan am fanylion ac i lawrlwytho ffurflen gais: http://www.millenniumstadiumtrust.co.uk

Am ymholiadau yn ymwneud â’r rownd hon cysylltwch â Sarah Fox yn FoxSE Consultancy trwy ffonio 029 20 022 143 neu e-bostio sarah@foxseconsultancy.co.uk neu msct@foxseconsultancy.co.uk

CYMWYS AR GYFER Y DYFODOL

Mae Cymwysterau Cymru wedi lansio Cymwys ar gyfer y Dyfodol, eu ymgynghoriad sy’n edrych ar y cymwysterau sydd eisiau am y cwricwlwm newydd.

Eu gweledigaeth yw bod pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn cymryd cymwysterau uchel eu parch sy’n eu hysbrydoli a’u paratoi ar gyfer bywyd, dysgu a gwaith – ac mae’nt yn awyddus i wybod beth yw eich barn chi.

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth wrth dilyn y ddolen isod:

https://www.qualificationswales.org/cymraeg/cymwys-ar-gyfer-y-dyfodol/

PLEIDLEISIAU YN 16

Ar ôl pasio’r ddeddfwriaeth Pleidleisiau yn 16 yr wythnos diwethaf fe ysgrifennon ni erthygl am y newyddion mawr ar Borth Ieuenctid Ewrop!

Mae’r Mesur Senedd ac Etholiadau yn cynnig:

  • gostwng yr oedran pleidleisio i 16 ar gyfer etholiadau’r Cynulliad;
  • newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd Cymru’
  • darparu ar gyfer Aelodau i gael eu galw’n ‘Aelodau’r Senedd ’;
  • ymestyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion tramor cymwys.

Pleidleisiodd 41 o’r 60 Aelod Cynulliad o blaid y Bil, sef y newid mwyaf i broses ddemocrataidd Cymru mewn 60 mlynedd, pan ostyngwyd yr oedran pleidleisio o 21 i 18, ym 1959.

Mae’r newid anhygoel hwn yn golygu y bydd 70,000 o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael y bleidlais o 2021 a hefyd yn rhoi hawliau pleidleisio i 33,000 o wladolion tramor! Mae hefyd yn golygu y bydd ein cynulliad yn cael ei ailenwi’n Senedd Cymru o’r 6ed o Fai 2020 fel rhan o’r newidiadau.

Cefnogodd Llafur, gweinidogion Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y mesur, ond roedd y Ceidwadwyr a’r Blaid Brexit yn ei wrthwynebu.

Wrth sôn am y penderfyniad pwysig, dywedodd y Llywydd Elin Jones:

“Pleidlais oedd hon i rymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd trwy ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed – cam sydd, i rai, yn hen bryd.

Bydd y Bil hwn, yn fy marn i, yn creu Senedd fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, a bydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Un a fydd yn rhoi enw i’n deddfwrfa sy’n adlewyrchiad cywir o’i statws cyfansoddiadol ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd. Ac un a fydd yn dod ag egni newydd i’n proses ddemocrataidd.

Rwy’n falch bod Cymru wedi cymryd y cam pwysig hwn i gryfhau sylfeini ein democratiaeth seneddol, cam y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch inni amdano. “

I ni fel sefydliad sy’n cynrychioli’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru rydym wrth ein bodd â’r penderfyniad i gynnig llais uniongyrchol i fwy o bobl ifanc yn eu dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am waith diwygio’r Cynulliad, ewch i: www.assembly.wales/AssemblyReform

DIGWYDDIAD YMWYBYDDIAETH AC YMGYSYLLTU (GOGLEDD CYMRU) AR GYFER Y CWRICWLWM NEWYDD

Digwyddiad ymwybyddiaeth ac ymgysylltu (Gogledd Cymru) ar gyfer sefydliadau a all helpu gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm newydd yng Nghymru

Fe’ch gwahoddir i fynychu gweithdy i’ch diweddaru am ddatblygiad cwricwlwm drafft newydd Cymru 2022 ac i ystyried sut y gall sefydliadau eraill gefnogi cyflwyno’r cwricwlwm newydd mewn ysgolion.

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i glywed am enghreifftiau o arferion da. Rhannwch y gwahoddiad gyda’ch rhwydwaith ehangach.

Cynhelir y gweithdy yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno, LL30 1AP ar 11 Rhagfyr 2019, bydd yn dechrau am 10:00am ac yn gorffen am 14:00pm.

Cofrestrwch yma https://www.eventbrite.co.uk/e/organisations-who-can-support-delivery-of-the-new-curriculum-in-wales-tickets-82010747353

CYNHADLEDD GENEDLAETHOL GWAITH IEUENCTID 2020 NODWCH Y DYDDIAD!

Rydym yn falch o gyhoeddi’r Gynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid:

Pryd: 4 MAWRTH 2020
Ble: STADIWM DINAS CAERDYDD
Pwy: YMARFERWYR GWAITH IEUENCTID

Sylwer: NODYN AR GYFER Y DYDDIADUR yw hwn.

Bydd manylion pellach am y digwyddiad, gan gynnwys yr amserlen a’r cynnwys (a sut i archebu’ch lle), yn cael eu rhyddhau yn y man.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

NATIONAL CO-ORDINATOR POST FOR SUICIDE AND SELF-HARM PREVENTION

Mae swydd y Cydlynydd Cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad ac hunan-niweidio bellach yn cael ei hysbysebu tan 11 Rhagfyr, 2019.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ddechrau mis Ionawr.

Mae hwn yn ymrwymiad allweddol gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi adroddiad Everybody’s Business a bydd yn cynorthwyo i yrru gweithrediad y cynlluniau gweithredu cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio o dan y strategaeth genedlaethol Talk to Me 2.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn penodi 3 arweinydd rhanbarthol yn y flwyddyn newydd i gefnogi’r fforymau rhanbarthol gyda’u gwaith.

* Yma gallwch ddod o hyd i’r Disgrifiad Swydd *

Dosbarthwch yn eang ac anogwch gydweithwyr i * wneud cais yma *

YMYRIAD ANSAWDD RHAGLEN IEUENCTID – CYD-DESTUN POLISI AC YMARFER

*Cliciwch yma* am ddogfennau a baratowyd gan bob gwlad yn y DU ar gyfer y Ganolfan Effaith Ieuenctid.
Mae CCGIG wedi datblygu cysylltiadau agos â’r CEI ac ar hyn o bryd mae ganddym 6 o’n aelodau yn ymgymryd â’r YPQI fel rhan o’r peilot cyntaf yng Nghymru. Bydd chwech arall yn ymgymryd â’r rhaglen yn 2020 a chwech arall yn 2021.
Ysgriffennodd CCGIG y papur ar gyfer Cymru, gallwch ddod o hyd i’r papur *yma*

DIWEDDARIAD GWELEDIGAETH, CENHADAETH AC WEDI YCHWANEGU 5 SWYDDOGAETH ALLWEDDOL CCGIG

Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol

CCGIG yw’r corff cynrychioli annibynnol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru

Gweledigaeth

  • Cymru lle mae pob person ifanc wedi’i rymuso gan wasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol arloesol, bywiog a chynaliadwy.

Genhadaeth

  • Cynrychioli, cefnogi a rhoi llais ar y cyd i’w aelodaeth o sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru. Mae CCGIG yn arwain ar gydweithredu a phartneriaethau ar ran y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.

Pum swyddogaeth allweddol CCGIG

  • Cynrychiolaeth genedlaethol ac arweinyddiaeth strategol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol

(gan gynnwys hwyluso, datblygu polisi, eiriolaeth, siapio a dylanwadu, cyfathrebu strategol, codi proffil gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru ac yn rhyngwladol; cefnogi’r sector i gynnwys pobl ifanc wrth gynllunio a darparu gwaith ieuenctid arfer gorau)

  • Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth

(gan gynnwys hwyluso partneriaethau, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru ac yn rhyngwladol)

  • Pencampwyr cyfnewid gwybodaeth

(gan gynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ar gyllid, gwybodaeth bolisi, adnoddau, cyfleoedd a digwyddiadau)

  • Dathlu, mesur a chydnabod effaith gymdeithasol, economaidd a diwylliannol y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru

(gan gynnwys hyrwyddo arfer gorau gwaith ieuenctid, sicrhau ansawdd, datblygu/hyfforddi/achrediad, casglu data, ymchwilio a gwerthuso)

  • Buddion, cyfleoedd a datblygiadau aelodaeth

(cefnogaeth i, ac ymrwymiad i ddatblugu aelodaeth o sefydliadau amrywiol, bywiog sy’n seiliedig ar werthoedd, ledled Cymru, gan gynnwys cynrychiolaeth ranbarthol).

ACADEMI ARWEINYDDIAETH CENEDLAETHAU’R DYFODOL

Mae UpRising Cymru yn recriwtio ledled Cymru ar gyfer rhaglen ddatblygu gyffrous.

Rhaglen beilot 10 mis yw hon o gynnwys ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb bob mis i adeiladu sgiliaugwybodaeth a sgiliau rhwydweithio, lle bydd cyfranogwyr yn cael y cyfle i ymgysylltu â, a dysgu ganarweinyddion presennol o ystod eang o sectorau.

Bydd digwyddiadau allweddol yn cynnwys:

  • Digwyddiad i lansio’r rhaglen
  • Mynychu Gweithdai ymarferol megis Tueddiadau’r Dyfodol a Dylanwadu ar Eraill
  • Mynychu Ysgol Haf ar Arweinyddiaeth
  • Profi cyfle interniaeth gyda chorff cyhoeddus yng Nghymru
  • Graddio – digwyddiad diwedd rhaglen lle gallwch ddathlu gyda chyfoedion

Drwy’r rhaglen, bydd gan gyfranogwyr lawer o gyfleoedd i ddatblygu eu hyder, gwybodaethsgiliau, sgiliau rhwydweithiomeddwl am gymdeithas llesiant, gan ennill cyfoeth o brofiad y gellir ei ddefnyddio o fewn bywyd person a bywyd proffesiynol. Ymwelwch â’r gwefan i wybod mwy.

Y Manylion:

Dyddiadau rhaglen Bydd yr Academi Arweinyddiaeth yn cael ei lansio ar 10 Rhagfyr 2019 gyda’r rhaglen yn rhedeg o Ionawr – Hydref 2020. Bydd sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal bob mis mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru. Bydd y cynnwys hwn yn cael ei gynorthwyo gan lwyfan dysgu ar-lein lle byddwch yn gweithio gyda’r garfan ledled Cymru. 

Pwy fedr ymgeisio? Rydyn ni’n croesawu ceisiadau oddi wrth unrhyw un rhwng 18-30 sy’n byw, gweithio neu’n astudio yng Nghymru.

Cost Bydd y rhaglen yn gwbl rad ac am ddim i gyfranogwyr.


Hygyrchedd? Mae gennym gronfa hygyrchedd a fedr gynorthwyo cyfranogwyr i fynychu sesiynau wyneb yn wyneb. Gellir cyrraedd pob lleoliad drwy drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae pob lleoliad yn hygyrch i rai mewn cadair olwyn.

Sut i Ymgyfrannu:

Rwy’n dymuno cyfeirio gweithiwr/cydweithiwr Cyfeiriwch nhw at gofrestru arlein neu am nifer o bobl ifanc get in touch i drefnu sgwrs gychwynnol neu wybodaeth benodol am ddim sy’n rhoi gwybod i’ch pobl ifanc am y cyfle cyffrous hwn.Rwy’n 18-30 ac yn dymuno cymryd rhan Cymerwch ddwy funud i gofrestru arlein – byddwn yn anfon ffurflen gais atoch.

I drafod unrhyw un o’r uchod, neu am fanylion pellach cysylltwch ag Reolwr Rhaglen Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol , Libbi Prestidge ar elizabeth.prestidge@uprising.org.uk neu 07342 994076.

MAE YOUTH CYMRU YN RECRIWTIO!

Shwmae…. Mae gan Youth Cymru gyfle cyffrous i wirfoddolwyr i ymuno a’i bwrdd ymddiriedolwyr!

Dyma beth mae’n nhw’n edrych amdano a beth allech chi cyfathrebu i sefydliad bywiog iawn!

Rydym yn edrych i adnewyddu, tyfu ein bwrdd ac arallgyfeirio ein sgiliau.

Rydym yn edrych am diddordeb a chymwysiadau gan bobl sy’n rhannu ein hangerdd dros gefnogi pobl ifanc ac sy’n cael eu cymell i ddarparu arweiniad strategol i sefydliad sydd â’i uchelgais a’i amcan yw galluogi pobl ifanc yng Nghymru i ffynnu, datblygu a chyrraedd eu potensial; gan eu galluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau a’u gwlad.

Ein nod yw adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddynt ac rydyn ni’n awyddus i glywed gan grwpiau sydd, ar hyn o bryd, heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein bwrdd gan gynnwys pobl â chefndir BAME, menywod, unigolion ag anabledd neu nam a LGBT.

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i’n gwefan.  https://youthcymru.org.uk/trustee-vacancies/