Mae pobl sydd am wneud gwahaniaeth yn eich bywyd eisiau clywed gennych chi ynglyn â sut mae bywyd wedi bod i chi dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’r Comisiynydd Plant, y Senedd Ieuenctid, a Phlant yng Nghymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gwneud yn siwr eu bod nhw’n gwrando ac yn clywed beth sydd gyda chi i’w ddweud. Mae’r pobl yma eisiau gwneud yn siwr eu bod nhw’n gwneud eu gorau ar gyfer holl blant a phobl ifanc yng Nghymru. Maen nhw eisiau sicrhau eu bod nhw’n rhoi’r wybodaeth a’r cefnogaeth sydd angen arnoch chi i deimlo mor hapus a phosib yn ystod a thu hwnt y cyfnod yma.

Dylai’r arolwg gymryd tua 15 munud.

Mae’n cau ar 27 Mai.

Rhannwch eich barn gan ddilyn y ddolen ymahttps://www.complantcymru.org.uk/coronafeirwsafi/