Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, 18 Mai 2020 – Stopio’r Cloc ac Ailddechrau

Thema neges eleni yw dyhead pobl ifanc i weld y byd yn gwrando ac yn dysgu o argyfwng feirws Covid-19.

Mae’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn unigryw i Gymru, ac wedi ei danfon yn flynyddol ers 98 o flynyddoedd  – dyma’r unig neges o’i fath yn y byd.

Gofynnaf am eich cefnogaeth i helpu pobl ifanc Cymru ar y 18fed o Fai i wneud hon y neges fwyaf mewn hanes.

Bydd y neges yn cael ei chyhoeddi o gyfrifon cymdeithasol Urdd Gobaith Cymru ar ddydd Llun y 18fed o Fai ac rydym yn gofyn i chi wneud o leiaf 1 o’r 3 peth canlynol:

  1. Aildrydarwch / postio y neges ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar yr 18fed o Fai gyda

·         Emoji baner eich gwlad chi / Emoji y byd / Eich hoff Emoji ac #heddwch2020

  1. Paratowch ymateb i’n neges ni  – gall hyn fod yn lun/geiriad /gair o gefnogaeth /lluniau / fideo /can gan ddefnyddio #heddwch2020 neu ei ebostio at heddwch@urdd.org
  2. Anogwch eich ffrindiau a chysylltiadau ar draws y byd i ymateb

Helpwch yr Urdd

Helpwch Gymru

Helpwch ein Pobl ifanc ………………. i gyrraedd 15 miliwn o bobl mewn 50 o wledydd ar draws y byd yn 2020!

Eisiau mwy o fanylion e-bostiwch – heddwch@urdd.org