Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf o gyfarfodydd ZOOM, pan fynychodd 38 o aelodau CWVYS, mae dyddiadau’r  gyfres nesaf o ddyddiadau wedi eu rhyddhau.

Bydd y gyfres nesaf o gyfarfodydd rhanbarthol ZOOM CWVYS yn canolbwyntio ar ddiogelwch a hyfforddiant.

Cysylltwch gyda Catrin James catrin@cwvys.org.uk i dderbyn gwahoddiad i ymuno yn y cyfarfod yn eich rhanbarth chi:-

Canol De a De ddwyrain Cymru  – 30/4/20 –10yb to 11yb

Gogledd Cymru – 1/5/20 10yb to 11yb

De Orllewin a Chanolbarth Cymru –  1/5/20 1yp to 2yp

Bydd y cyfarfodydd yn darparu gofod cefnogol i’r sector:-

  • Cadw mewn cyswllt gyda’n gilydd
  • Canolbwyntio ar themâu penodol e.e. hyfforddiant, diogelwch, cyllido
  • Cefnogi a rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth
  • Cyfathrebu pryderon a materion o bwys y sector i eraill
  • A bach o hwyl