Mae CWVYS yn cynnal arolwg ar effaith Coronafirws ar y Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol

Yn ymateb i geisiadau mewn cyfarfodydd Grŵp Rhanbarthol (ar-lein) diweddar, mae CWVYS yn ceisio’ch help i ddarganfod sut mae’r sefyllfa bresennol yn effeithio ar Aelodau. Rydym yn cynnal arolwg ar effaith y pandemig Coronafirws ar ein haelodau a’r Sector Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru.

Rydym yn gwneud hyn am dri rheswm:

  • i deall sut ydych chi, sut rydych chi’n ymdopi/ddim yn ymdopi, â’r effaith ar eich darpariaeth yn ystod y cyfnod argyfwng hwn
  • i tynnu sylw at anghenion y gall CWVYS deilwra ein cefnogaeth iddynt yn unol â hynny
  • i rannu’r canfyddiadau hyn fel ‘data agored’ ar gyfer Aelodau ac i hysbysu partneriaid strategol e.e. y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro; Llywodraeth Cymru ag ati am effaith digwyddiadau diweddar ar y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol

Byddwch i gyd yn derbyn copi o’r adroddiad terfynol pan fydd wedi’i gwblhau.

Bydd hyn yn bwysig wrth symud ymlaen i sicrhau ein bod yn cael ein hamddiffyn cymaint â phosibl fel sector a bod eich gwaith a’i gyfraniad i gymdeithas yn cael ei werthfawrogi.

Byddwn yn ddiolchgar os gallwch cwblhau a rhannu’r arolwg: *Arolwg CWVYS ar effaith Coronafeirws ar y Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol*

Os oes gennych unrhyw cwestiynnau, anfonwch i Helen@cwvys.org.uk