Cynhadledd Gwaith Ieuenctid – Cydweithio a Phartneriaeth 2025 ! 

Digwyddiad arbennig na fyddwch am ei golli! Ymunwch â ni ddydd Iau, 20 Chwefror 2025, yn Stadiwm Dinas Caerdydd am ddiwrnod llawn dysgu, areithiau, dewis eang o weithdai i weithwyr ieuenctid, addysgwyr ac arweinwyr cymunedol. Bydd yn gyfle penigamp i ddod at ei gilydd i rannu profiadau, ehangu dealltwriaeth, ac adeiladu dyfodol ymgysylltu â phobl ifanc.

Dyddiad: Dydd Iau, 20 Chwefror 2025
Amser: 9:30 ayb – 4:30 yp
Cost: Am ddim (digwyddiad â thocyn)
Lleoliad: Stadiwm Dinas Caerdydd, Heol Lecwydd, Caerdydd, CF11 8AZ

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:

Gan mai hon yw ein Cynhadledd Gwaith Ieuenctid cyntaf mewn pum mlynedd, bydd yr amserlen yn llawn ac arbennig iawn.

Ymysg yr hyn sydd ar y gweill:

  • Sgyrsiau Panel Rhyngweithiol a sesiynau holi ac ateb gyda rhai o arbenigwyr Gwaith Ieuenctid mwyaf blaenllaw’r DU yn y sector.
  • Cyfleoedd rhwydweithio – dewch i gwrdd â wynebau newydd, dysgu am gyfleoedd cyffrous a darganfod cyfleoedd newydd.
  • Arlwyo– Gydag amserlen lawn, bydd angen i chi fod yn egnïol i fynd i’r afael â’r diwrnod. Bydd te a choffi ben bore, egwyl canol y bore, cinio llawn, ac egwyl yn y prynhawn pryd gweinir byrbrydau wedi eu cynhyrchu’n lleol.
  • Dewis o weithdai bore a phrynhawn– gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau.
  • Perfformiad byw gan grŵp ieuenctid i gloi’r dydd!

A bydd y cwbl AM DDIM unwaith y byddwch yn cofrestru!

🎟 Cofrestrwch nawr a hawliwch eich tocyn ‘Cyw cynnar’ lle cyn ei bod hi’n rhy hwyr

Ewch draw i https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/fech-gwahoddir-i-gynhadledd-gwaith-ieuenctid-cydweithio-a-phartneriaeth-2025/ er mwyn sicrhau eich tocyn a chael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch.

Gofynion dietegol: Os oes gennych unrhyw ofynion dietegol, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Mae’r holl fwyd yn dod o ffynonellau lleol ac mae opsiynau di-glwten, fegan a llysieuol ar gael ar gais.

Dilynwch @IeuenctidCymru ar X i gadw llygad ar fanylion pellach fydd yn cael eu rhyddhau yn nes at y Gynhadledd.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!

Os hoffech danysgrifio i’r gylchlythyr Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru cliciwch yma – Cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr gwaith ieuenctid | LLYW.CYMRU

Adroddiad Archwilio Sgiliau a Hyfforddiant ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Yn ddiweddar, cyhoeddodd ETS Cymru Adroddiad Archwilio Sgiliau a Hyfforddiant ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg ar y dirwedd hyfforddi bresennol, gan amlygu sgiliau allweddol, cymwysterau, a meysydd lle mae angen cymorth ychwanegol ar draws y sector.

Bydd canfyddiadau’r archwiliad hwn yn sail i’r Rhaglen Hyfforddi Genedlaethol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru.

Mae hwn yn gam tuag at sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei deilwra i anghenion gwirioneddol gweithwyr ieuenctid i ddiwallu anghenion pobl ifanc.

Rydym yn eich annog i gymryd eiliad i adolygu’r adroddiad, sydd ar gael drwy’r ddolen isod:

Gweld Adroddiad yr Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant

Mae eich mewnbwn a’ch ymgysylltiad wedi bod yn hanfodol i’r broses hon.

Bydd hyfforddiant yn cael ei ryddhau cyn bo hir, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant drwy glicio yma: https://linktr.ee/etswales

Datganiad Llywodraeth Cymru ar y grant SVYWO – agored i geisiadau

Gweler isod newyddion gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Grant Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (SVYWO)

Bydd cylch presennol y Grant Sefydliadau Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol yn dod i ben ym mis Mawrth 2025, ac rydym yn falch iawn o ddweud bod cyllid ar gyfer sefydliadau ieuenctid gwirfoddol yn debygol o barhau ar gyfer 2025 ymlaen.

Gweler y canllawiau a’r ffurflen cais amgaeedig i gael rhagor o wybodaeth.Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau yn ofalus cyn gwneud cais. Fel mewn cylchoedd grant blaenorol, ni wneir unrhyw benderfyniadau ar gyllid hyd nes y bydd penderfyniadau o ran y gyllideb yn hysbys yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Tachwedd 2024

Dyma wahoddiad i weithdy digidol byr er mwyn trafod y Cynllun Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol ar 17 Hydref am 10:00 am. Byddwn yn trafod y meini prawf ac amodau’r grant ac yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu i gofrestru eich diddordeb mewn derbyn dolen i fynychu’r sesiwn wybodaeth ar-lein, cysylltwch â ni ar gwaithieuenctid@llyw.cymru.

Cysylltiadau y We:

https://www.llyw.cymru/y-cynllun-grant-strategol-ar-gyfer-sefydliadau-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-svywo-gwybodaeth-i

https://www.llyw.cymru/y-cynllun-grant-strategol-ar-gyfer-sefydliadau-gwaith-ieuenctid-gwirfoddol-svywo-ffurflen-gais

Ymgynghoriad ar y fframwaith strategol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r Gweinidog Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar y fframwaith strategol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Mae’r cynigion hyn yn benllanw trafodaeth ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn dilyn ymlaen o waith ac argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar strategaeth newydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, yn ogystal â gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid  a’i wahanol Grwpiau Gweithredu Cyfranogiad (IPGs).

Ceisir barn yn awr gan ymarferwyr yn y Sector Ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys y Sector Ieuenctid Gwirfoddol yn ogystal â’r rhai sy’n eiriol dros y canlyniadau gorau i bobl ifanc.

Bydd gan bobl tan 10 Ionawr 2025 i gyflwyno eu hymatebion.

Llythyr Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i’r cabinet newydd

Mae CGGC wedi cyhoeddi llythyr Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i’r cabinet newydd yn ddiweddar; Llythyr agored i’r cabinet newydd TSPC

Mae croeso i chi eu helpu i ehangu ar y cyfryngau cymdeithasol:

Twitter/X

Saesneg: https://x.com/WCVACymru/status/1842177833356939574
Cymraeg: https://x.com/WCVACymru/status/1842177782471675969

LinkedIn
Saesneg: https://www.linkedin.com/feed/update/urn:li:activity:7247949834907709442
Cymraeg: https://www.linkedin.com/feed/update/urn:li:activity:7247949853534695426

Ystadegau Diweddaraf ar y Gweithlu Addysg yng Nghymru.

Ar Diwedd yr haf cyhoeddodd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) Ystadegau Blynyddol Gweithlu Addysg Cymru.

Ystadegau Blynyddol Gweithlu Addysg Cymru 2024 y rheolydd annibynnol, proffesiynol yw’r ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr o wybodaeth am y rhai sy’n gweithio mewn ysgolion, addysg bellach, gwaith ieuenctid, a dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Daw’r data o Gofrestr Ymarferwyr Addysg CGA.

Fel y gwyddoch efallai, ers rhai blynyddoedd bellach, bu’n ofynnol i weithwyr ieuenctid cymwysedig a staff cymorth gwaith ieuenctid gofrestru gyda CGA, ond am y tro cyntaf mae adroddiad eleni yn cynnwys gwybodaeth am athrawon a staff cymorth dysgu sy’n gweithio mewn ysgolion annibynnol a colegau. Yn dilyn gofyniad newydd gan y llywodraeth ym mis Mai 2023, gan ei gwneud yn hanfodol bod eu staff yn cofrestru gyda CGA, ac felly eu hymddygiad a’u hymarfer yn cael eu rheoleiddio.

Erys recriwtio effeithiol i’r proffesiynau addysg, a chadw’r ymarferwyr hyn wedi hynny, yn flaenoriaeth nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Mae niferoedd y gweithlu yng Nghymru wedi aros yn weddol sefydlog o gymharu â 2023, ond bu gostyngiad bach yn nifer y gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion.

Mae Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg Cymru 2024 ar gael i’w ddarllen ar wefan CGA.

Digwyddiadau yn yr Hydref gyda Aelodau CWVYS

Mae yna rai digwyddiadau gwych ar y gweill yr hydref hwn gydag aelodau CWVYS.

Wythnos nesaf mae Urdd Gobaith Cymru yn dathlu 10 mlynedd o’u rhaglen brentisiaethau. Gyda 2 ddigwyddiad brecwast yn y gogledd a’r de!
Cynhelir y digwyddiad brecwast cyntaf ar y 24ain o Fedi yn Llandudno, ac mae’r ail yn Abertawe ar y 27ain o Fedi, os ydych yn bwriadu mynychu, cadarnhewch trwy’r ddolen hon HEDDIW (Medi 16fed).

Ar dydd Mercher y 25ain o Fedi mae’r Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd yn cynnal eu digwyddiad Cyfiawnder Hinsawdd yn Abertawe, gallwch chi archebu eich lle yma; https://www.eventbrite.co.uk/e/climate-justice-forum-tickets-1013157319817

Ar yr 22ain o Hydref mae Cymorth i Ferched Cymru yn cynnal digwyddiad ar Weithio ar y Cyd i Ddiogelu Plant a Phobl Ifanc. Gallwch archebu lle i fynychu eu digwyddiad rhad ac am ddim yma; https://www.eventbrite.co.uk/e/working-collaboratively-to-safeguard-children-young-people-tickets-978161506397?aff=oddtdtcreator

Ar y 14eg o Dachwedd mae gan NYAS Cymru ddigwyddiad yn y Senedd ar Effaith Eiriolaeth Rhieni. Darganfyddwch fwy ac archebwch i fynychu yma; https://www.eventbrite.com/e/impact-of-parent-advocacy-tickets-957295194697?utm-campaign=social&utm-content=attendeeshare&utm-medium=discovery&utm-term=listing&utm-source=cp&aff=ebdsshcopyurl

Os oes gan unrhyw Aelod arall o CWVYS unrhyw beth tebyg yr hoffech ei rhannu neu ei gynnwys yn ein cylchlythyr nesaf, anfonwch y manylion at Helen@CWVYS.org.uk erbyn canol dydd, dydd Llun y 23ain o Fedi

Gallwch ddod o hyd i fanylion y digwyddiadau hyn ar Galendr y Sector Ieuenctid a gynhelir ar ein gwefan; https://www.cwvys.org.uk/events/?lang=cy

Mae’r calendr ar gyfer y sector cyfan, felly gall aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau yn y sector fel ei gilydd ychwanegu eu digwyddiadau ato drwy anfon manylion at Helen@cwvys.org.uk

 

Adroddiad Estyn ac Ymateb Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Estyn eu Hadolygiad o Weithwyr Arweiniol Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid ym mis Gorffennaf. Mae’r adolygiad yn cynnwys 5 argymhelliad, sy’n argymhellion ar y cyd, ar gyfer Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru, awdurdodau lleol a’r holl bartneriaid eraill sy’n ymwneud â chefnogi pobl ifanc drwy weithwyr arweiniol.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad yn awr wedi cael ei gyhoeddi. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i symud ymlaen efo’r argymhellion.

SEFYDLU CORFF CENEDLAETHOL AR GYFER GWAITH IEUENCTID – GALWAD AM SYLWADAU

Annwyl Aelodau CWVYS,

Yn ein cyfarfod Rhanbarthol ar y 25ain Gorffenaf, cyflwynodd Donna Robins – Llywodraeth Cymru, bapur ar sefydlu Corff Cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid.

Fel y nodwyd yn y papur yma Lywodraeth Cymru, mae’r trafodaethau yn eu camau cynnar a bydd ymgynghoriad llawn yn dilyn.

Yn y cyfarfod gwahoddwyd yr aelodau i rannu eu barn yn ôl i Llywodraeth Cymru drwy CWVYS.

Anfonwch eich sylwadau  at paul@cwvys.org.uk erbyn 30 Awst 2024

CCYP; Eisiau gwirfoddolwyr ar gyfer Prosiect Rhwng Cenedlaethau cyffrous

Mae aelodau CWVYS Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân (CCYP) yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer eu prosiect newydd cyffrous rhwng cenedlaethau, Cymuned yn Dod Ynghyd.

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth yn y poster isod, neu cysylltwch â; Leila.Long@CCYP.org.UK

Leila.Long@CCYP.org.UK

Mae’r prosiect hwn yn bosibl diolch i gyllid gan gronfa Cadernid Cymunedol Torfaen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Miliwn o Fentoriaid: Angen mentoriaid mewn ysgolion ym mis Medi / Hydref 2024

Miliwn o Fentoriaid: Angen mentoriaid mewn ysgolion ym mis Medi / Hydref 2024

Hoffech chi roi cyngor, cynyddu hyder a darparu nifer o gyfleoedd i berson ifanc?

A fyddech chi eisiau cefnogi nodau gyrfa a dyfodol person ifanc?

Dyma ein fideo Cyflwyniad 1MM

Ym mis Medi a mis Hydref eleni, mae Miliwn o Fentoriaid yn sefydlu eu hail flwyddyn o raglenni mentora gan wneud hynny mewn nifer o ysgolion uwchradd. Yr ysgolion hyn yw:

Caerdydd

Ysgol Uwchradd Mary Immaculate (hybrid)
4 Medi (11:20 – 12:10pm) –  (gwiriadau DBS)
16 Hydref (11:20 – 12:10am) – (cyfarfod cyntaf)
Ysgol Uwchradd Gorllewin Caerdydd – Hydref
Ysgol Uwchradd St Illtyds (hybrid) – Medi
Ysgol Uwchradd Cathays (yn bersonol) –  Medi
Ysgol Uwchradd Willows (hybrid) – Medi

Casnewydd

Ysgol Uwchradd St Joseph (yn bersonol) – Hydref
Ysgol Uwchradd Casnewydd (yn bersonol) – Hydref
Ysgol Uwchradd Basaleg (yn bersonol)
10 Hydref (1:30pm – 3pm) – (Gwiriadau DBS a Chyfarfod Cyntaf)
Ysgol Uwchradd Llanwern – Medi
Ysgol Uwchradd Caerllion – Medi

Beth yw 1MM?

Mae mentora 1MM yn grymuso pobl ifanc i ddod y fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain: meithrin perthnasoedd – heb ragdybiaeth a barn – lle maen nhw’n elwa o brofiad a phersbectif rhywun arall ac yn gallu meddwl yn fwy, dod o hyd i’w hatebion eu hunain a chymryd y cam ystyrlon nesaf i’w dyfodol.

Rydym yn recriwtio, hyfforddi a defnyddio mentoriaid gwirfoddol, gan eu paru â mentoreion a darparu cymorth o ansawdd uchel i’r ddau fel eu bod wedi’u paratoi’n dda ac yn gallu cael perthynas fentora effeithiol ac effeithiol. Mae ein mentora yn un i un, ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed, am 1 awr, unwaith y mis, am hyd at flwyddyn.

Yma gallwch ddod o hyd i’n poster a chod QR i gofrestru;

Y cyfan a ofynnwn gan ein gwirfoddolwyr yw cofrestru ar ein platfform yn www.1mm.org.uk cwblhau rhywfaint o hyfforddiant gorfodol ar-lein.

Gallwch ddod o hyd i fwy o’r hyn a wnawn yma: Un Miliwn o Fentoriaid

Sut mae cymryd rhan?

Mae digonedd o ffyrdd o helpu ond dyma ganllaw cam wrth gam ar sut!

  1. Cofrestrwch ar ein platfform ar www.1mm.org.uk. Cofrestrwch fel mentor.
  2. Cwblhewch eich Proffil Ar-lein a Hyfforddiant – Bydd hyn yn cymryd tua 1 awr
  3. Mynychu Gweithdy Sefydlu Mentor (dewisol). Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, anfonir gwahoddiad atoch ar gyfer un o’n Gweithdai Sefydlu Mentoriaid misol. Gallwch fynychu naill ai cyn neu ar ôl eich sesiwn gyntaf.
  4. Byddwn yn eich paru â Mentorai. Unwaith y bydd yr holl hyfforddiant wedi’i gwblhau a’ch bod wedi cofrestru ar gyfer gweithdy byddwn yn eich paru â mentorai.
  5. Byddwch mewn ysgol yn cefnogi Person Ifanc!

 

Cymdeithasol: Rydyn ni ar Instagram, Twitter/X a LinkedIn i ddarganfod y newyddion diweddaraf a straeon pwerus rydyn ni’n dod ar eu traws bob dydd yn 1MM.

Mae gennym hefyd ein podlediadau ein hunain i wrando arnynt! Yma rydym yn trafod y daith fentora gan fentoriaid a mentoreion o 1MM!

Rhaglenni ysgol wyneb yn wyneb: Byddai hyn yn golygu bod ymrwymiad i’r rhaglen yn bwysig er mwyn cwrdd â’ch mentorai. Gan mai rhaglen ysgol yw hon, bydd amserlen hefyd yn cael ei chreu i sicrhau bod eich sesiynau mentora ar safleoedd ysgolion lle mae athrawon ar gael i oruchwylio.

 

Gallwch gysylltu â ni am ragor o wybodaeth :-

Raman Purewal (Gweinyddwr Rhaglen Prifddinas-Ranbarth Caerdydd): raman.purewal@1mm.org.uk

 


t:   +447502107409
e:  raman.purewal@1mm.org.uk
w: www.onemillionmentors.org.uk

Rhannwch eich adborth ar Wythnos Gwaith Ieuenctid 2024

Neges gan y Tîm Marchnata a Chyfathrebu ar gyfer y Sector Ieuenctid yng Nghymru;

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid wedi bod yn daith anhygoel yn llawn profiadau anhygoel, a gobeithiwn eich bod wedi ei mwynhau cymaint â ni!

Dyma’ch cyfle i roi adborth!

Mae eich adborth yn amhrisiadwy i’n helpu i wella a gwneud digwyddiadau Wythnos Gwaith Ieuenctid yn y dyfodol yn well byth. P’un a wnaethoch ymgysylltu â #WythnosGwaithIeuenctid24 ar-lein, arwain digwyddiadau, neu ddilyn ymlaen, rydym eisiau gwybod eich barn.

Cymerwch ychydig funudau i lenwi ein ffurflen adborth. Bydd eich mewnwelediadau yn ein helpu i ddeall yr hyn a wnaethom yn dda a lle gallwn dyfu.

👉 https://forms.office.com/e/Vq1iPLizmX

Diolch am fod yn rhan o Wythnos Gwaith Ieuenctid ac am rannu eich barn gyda ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech gysylltu, cysylltwch â manon@cwvys.org.uk neu branwen@cwvys.org.uk

#WythnosGwaithIeuenctid24