Mae gwefan Llywodraeth y DU wedi diweddaru eu tudalen sy’n cynnig gwybodaeth am Raglen Erasmus+, yn enwedig ar gyfer prosiectau ieuenctid; https://www.gov.uk/government/publications/the-erasmus-programme/erasmus-programme-guidance-for-youth-projects
Mae’r rhaglen E+ yn galluogi sefydliadau’r sector ieuenctid i gael mynediad at gyllid ar gyfer prosiectau cydweithio â sefydliadau mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae’r partneriaethau hyn yn meithrin dysgu ar y cyd ar heriau cyffredin, a gall gweithwyr ieuenctid ennill syniadau a dulliau newydd i’w rhoi ar waith gartref.
Yn ogystal â’r wybodaeth yn y dudalen honno, mae gan wefan Asiantaeth Genedlaethol Erasmus+ fanylion ehangach am raglen Erasmus+, gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais am gyllid; https://www.erasmusplus.org.uk/
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn rhaglen Erasmus+, clywed am sesiynau gwybodaeth ac wrth gwrs pan fydd y rhaglen yn agor ar gyfer ceisiadau ym mis Tachwedd 2026, cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr; https://www.erasmusplus.org.uk/newsletter/