Mae ein Swyddog Prosiectau a Chymorth Busnes, Mandi, wedi bod yn arwain ar Lleisiau dros Effaith/Voices for Impact i ni.

Prosiect Voices for Impact – platfform ar-lein i gasglu barn a safbwyntiau pobl ifanc.
Mae ORINI (Optimum Research and Innovation NI) yn darparu hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r platfform. Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn y sectorau gwirfoddol a statudol, boed hynny mewn lleoliadau gwaith ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol neu addysg.

Os gwnaethoch chi golli’r hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r platfform Voices for Impact – peidiwch â phoeni! Gallwch chi barhau i ymuno a defnyddio Model Lundy ar gyfer Cyfranogiad Ieuenctid, cofnodi profiadau go iawn y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw yna defnyddio’r data hwn i lunio’ch gwasanaethau a’i gyflwyno fel tystiolaeth ar gyfer llu o ddefnyddiau a dylanwad.

Byddem wrth ein bodd pe gallech gofrestru presenoldeb isod a rhannu gyda chydweithwyr neu sefydliadau a allai fod â diddordeb;
Hyfforddiant ar-lein Hyfforddiant Lleisiau dros Effaith (Ar-lein) Tocynnau, Dydd Llun, Mehefin 15fed 2026 • 6 PM – 8 PM | Eventbrite

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu ag Amanda@cwvys.org.uk

I darganfod mwy am prosiectau arall Mandi edrychwch yma; https://www.cwvys.org.uk/gwaithieuenctidfyw/?lang=cy