Yn ddiweddar, mae’r Cyngor Prydeinig wedi cyhoeddi dyddiadau ar gyfer eu sesiynau gwybodaeth rhanbarthol sydd ar ddod ar Raglen Erasmus+ ar gyfer Ieuenctid.
Maent yn cynnal 16 sesiwn i gyd, gyda 3 wedi’u sefydlu’n benodol ar gyfer sefydliadau yng Nghymru;
- Mae’r sesiwn gyntaf yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf Wythnos Gwaith Ieuenctid, sef y 23ain o Fehefin rhwng 11am a 12pm.
- Mae’r ail sesiwn ar ddiwedd Wythnos Gwaith Ieuenctid ar y 30ain o Fehefin, hefyd rhwng 11am a 12pm.
- Mae’r sesiwn olaf ar gyfer sefydliadau yng Nghymru ar y 14eg o Orffennaf rhwng 12 ac 1pm.
Mae’r holl sesiynau ar-lein ar MS Teams ac yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg. Gallwch gofrestru a darganfod mwy trwy glicio ar y dolenni sydd wedi’u hymgorffori.