Canolfan Deuluol Ty Enfys – Swydd wag am Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol

Mae Tŷ Enfys yn elusen leol sy’n cynnig gwasanaeth am ddim i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw yn Llwynhendy neu o’i gwmpas.

Rydym yn gwahodd ceisiadau am Swydd Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol, gan bobl frwdfrydig, cymwys a phrofiadol i ymuno â’n tîm niwroamrywiol yn Llwynhendy, Llanelli. Mae angen iddynt fod wedi cael o leiaf 12 mis o brofiad o weithio gyda phobl ifanc agored i niwed a’u teuluoedd.

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol iawn.

Swydd ran-amser yw hon, am 18 awr yr wythnos, wedi’i hariannu gan Wobrau i Bawb y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Cymunedol Cymru – cronfa Principality a Sefydliad Moondance. Daw’r cyllid i ben ym mis Chwefror 2027 ond mae cyllid pellach yn cael ei archwilio. Mae’r gallu i fod yn hyblyg o amgylch dyddiau ac amseroedd cyflwyno gweithgareddau yn hanfodol. Bydd y salary £14.50 yr awr.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 26 Ebrill 2026 a’r bwriad yw cynnal cyfweliadau cam un yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 25 Mai 2026.

Am drafodaeth anffurfiol a Phecyn Cais cysylltwch â Sharan Condon, Cydlynydd y Prosiect, drwy Ebost: tyenfys@gmail.com

Neu gan ffôn ar: 01554 749396

Noder, oni bai bod cais penodol amdani, y bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon at ymgeiswyr drwy e-bost.

 

 

 

Sefydlu Cyngor Cymdeithas Sifil y DU

Mae cyngor cymdeithas sifil newydd wedi’i sefydlu i “roi partneriaeth wrth wraidd” llywodraeth y DU.

Mae lleisiau o bob rhan o’r sector gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol wedi’u penodi i’r Cyngor Cymdeithas Sifil newydd, gallwch ddysgu mwy yma; https://www.gov.uk/government/news/new-civil-society-council-established-to-put-partnership-at-the-heart-of-government#msdynmkt_trackingcontext=c3f2edaa-748d-47c1-b5c4-ad5474bc0100

 

Written Statement from Cabinet Secretary for Education / Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

A Written Statement from the Cabinet Secretary for Education was issued on 1 December – an update on the draft statutory framework and the national body delivery board:

Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar 1 Rhagfyr – diweddariad ar ddrafft y fframwaith statudol a’r bwrdd cyflawni corff cenedlaethol:

Written Statement

Datganiad Ysgrifenedig

Datganiad Ysgrifenedig: Cychwyn a Gweithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 | Written Statement: Commencement and Implementation of the Health and Social Care (Wales) Act 2025

Cyhoeddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS, Ddatganiad gan y Cabinet, yn nodi manylion y Gorchymyn Cychwyn cyntaf ar gyfer Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei gweithredu.

Mae’r Ddeddf, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth eleni, yn cyflwyno diwygiadau mawr i gryfhau iechyd a gofal cymdeithasol, gwella tryloywder a grymuso unigolion.

Tri amcan craidd y ddeddf yw:

  • Dileu elw o ofal cymdeithasol plant
  • Cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd (Gofal Iechyd Parhaus y GIG).
  • Gwneud gwelliannau technegol i’r ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol presennol.

Yn gryno, mae’r Gorchymyn yn dechrau darparu o fewn y Ddeddf, fel a ganlyn:

  • O 1 Ionawr 2026 ymlaen:
    • Daw pwerau gwneud rheoliadau i rym i alluogi gwneud is-ddeddfwriaeth berthnasol erbyn mis Ebrill 2026.
    • Darpariaethau i gefnogi ymgynghori ar gynlluniau digonolrwydd awdurdodau lleol.
    • Pwerau i Fyrddau Iechyd Lleol ddarparu pecynnau Gofal Iechyd Parhaus trwy daliadau uniongyrchol (gan ddechrau ym mis Ebrill 2026).
  • O 1 Ebrill 2026 ymlaen:
    • Cyfyngiadau ar elw mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol plant – cartrefi gofal i blant, llety diogel a gwasanaethau maethu.
    • Darpariaethau sy’n ymwneud â datganiadau blynyddol darparwyr gwasanaeth a chanslo cofrestru, ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol a thaliadau uniongyrchol.
  • O 1 Gorffennaf 2026 ymlaen:
    • Darpariaeth sy’n ymwneud â’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno a chyhoeddi cynlluniau digonolrwydd blynyddol (cyflwyno’r cynlluniau cyntaf i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2026).

Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth drosiannol: Bydd ceisiadau am ‘wasanaethau plant cyfyngedig’ newydd neu estynedig (cartrefi gofal i blant, llety diogel neu wasanaethau maethu) a gyflwynir i Arolygiaeth Gofal Cymru erbyn 31 Mawrth 2026 yn cael eu hasesu o dan y ddeddfwriaeth gyfredol. Ac felly ni fydd yn ddarostyngedig i’r gofynion nid-er-elw a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2026.

Mae rhagor o fanylion am weithredu pob un o’r agweddau hyn ar y Ddeddf yn ogystal â chanlyniadau ymgynghori, trefniadau cyllido a chynlluniau ymgysylltu wedi’u nodi yn y Datganiad Ysgrifenedig.

Darllenwch y datganiad yn ofalus a’i rannu â chydweithwyr perthnasol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch DeddfwriaethGofalCymdeithasol@llyw.cymru

The Minister for Children and Social Care, Dawn Bowden MS, issued a Cabinet Statement, setting out details of the first Commencement Order for the Health and Social Care (Wales) Act 2025 and providing updates on its implementation.

The Act, which received Royal Assent in March this year, introduces major reforms to strengthen health and social care, enhance transparency and empower individuals.

Its three core objectives are:

  • Removing profit from children’s social care.
  • Introducing direct payments for healthcare (Continuing NHS Healthcare).
  • Making technical amendments to existing social care legislation.

In summary, the Order commences provision within the Act, as follows:

  • From 1 January 2026:
  • Regulation-making powers come into force to enable the making of relevant subordinate legislation by April 2026.
  • Provisions to support consultation on local authority sufficiency plans.
  • Powers for Local Health Boards to provide CHC packages via direct payments (beginning in April 2026).
  • From 1 April 2026:
  • Restrictions on profit in children’s social care services – care homes for children, secure accommodation and fostering services.
  • Provisions relating to service provider annual returns and cancellation of registration, to the social care workforce and to direct payments.
  • From 1 July 2026:
  • Provision relating to the duty for local authorities to submit and publish annual sufficiency plans (first plans due to Welsh Ministers in December 2026).

It also contains transitional provision: Applications for new or expanded ‘restricted children’s services’ (care homes for children, secure accommodation or fostering services) submitted to CIW by 31 March 2026 will be assessed under current legislation. And therefore will not be subject to the not-for-profit requirements that will come into force on 1 April 2026.

Further details on implementation of each of these aspects of the Act as well as on consultation outcomes, funding arrangements and engagement plans, are set out in within the Written Statement.

Please review the statement carefully and share with relevant colleagues. If you have any questions, contact socialcarelegislation@gov.wales

Adroddiad Ofcom ar gyflwr diogelwch ar-lein / Ofcom’s report into the state of online safety

Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Diogelwch Ar-lein 2025 sy’n nodi’r newidiadau a welwyd gennym gan y diwydiant yn 2025 wrth i ddyletswyddau yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddechrau dod i rym. Rydym hefyd yn tynnu sylw at y meysydd yr ydym am i ddarparwyr gwasanaeth ganolbwyntio arnynt yn 2026, a’r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau cynnydd parhaus tuag at fywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU.

Mae’r rheolau newydd yn gosod safon uchel i ddarparwyr gadw defnyddwyr y DU yn ddiogel. Yn ystod y flwyddyn, bydd defnyddwyr wedi sylwi ar newidiadau mewn sawl maes tuag at fyd ar-lein mwy diogel. Ond mae llawer mwy i’w wneud, ac mae tueddiadau technoleg a chynnwys newydd yn peri risgiau ychwanegol.

Gweler hefyd ein map ffordd wedi’i ddiweddaru am ragor o wybodaeth am ein cerrig milltir reoleiddiol sydd ar ddod.

Mae’r adroddiad a’r cyhoeddiadau ategol yn manylu ar y newidiadau hyn yn llawn. Ochr yn ochr â’r adroddiad hwn, byddwn yn cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ar safonau a gwelliannau asesu risg.

· Gallwch ddod o hyd i gopi llawn o’n hadroddiad ar ein gwefan

—————-

We published the Online Safety in 2025 report which sets out the changes we have seen from industry in 2025 as duties in the Online Safety Act started to come into force. We also highlight the areas we want service providers to focus on in 2026, and the steps that we will take to ensure continued progress towards a safer life online for people in the UK.

The new rules set a high bar for providers to keep UK users safe. During the year, users will have noticed changes in several areas towards a safer online world. But there is a great deal more to be done, and new technology and content trends pose additional risks. Please also see our updated roadmap for further information on our upcoming regulatory milestones.

The report and supporting publications detail these changes in full. Alongside this report, we will be publishing our first report on risk assessment standards and improvements.

· You can find a copy of our report in full on our website

Ymgynghoriad ar y canllawiau drafft: Bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched – Ofcom

Ymgynghoriad ar y canllawiau drafft: Bywyd mwy diogel ar-lein i fenywod a merched – Ofcom

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau drafft sy’n nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.

Mae Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 yn gwneud llwyfannau – gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau gemau, apiau cwrdd â chariad, fforymau trafod a pheiriannau chwilio – yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelu pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon a chynnwys sy’n niweidiol i blant, gan gynnwys niwed sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.

Mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi codau a chanllawiau asesu risg terfynol ar sut maen’t yn disgwyl i lwyfannau fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon; byddyn nhw’n cyhoeddi ei codau a’n canllawiau terfynol ar amddiffyn plant maes o law. Ar ôl i’r dyletswyddau hyn ddod i rym, rôl Ofcom fydd dal cwmnïau technoleg i gyfrif, gan ddefnyddio grym llawn ei pwerau gorfodi lle bo angen.

Hefyd mae’n ofynnol bod Ofcom yn cynhyrchu canllawiau sy’n nodi sut y gall darparwyr gymryd camau yn erbyn y cynnwys a’r gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, er mwyn cydnabod y risgiau unigryw y maent yn eu hwynebu.

Mae ei canllawiau drafft yn nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.

https://www.ofcom.org.uk/cy/online-safety/illegal-and-harmful-content/a-safer-life-online-for-women-and-girls/?language=cy

Alun Michael OBE yn ymuno â CWVYS fel Llywydd

Mae’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael OBE YH OStJ PC FRSA wedi cytuno i gymryd rôl Llywydd CWVYS ar unwaith.

Mae gan Alun yrfa hir o wasanaeth cyhoeddus, bu’n Ddirprwy Ysgrifennydd Cartref ac yn 1997 cyflwynodd Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, Timau Troseddau Ieuenctid a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Bu’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1998 a 1999 ac yna fel Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru (a adwaenid yn ddiweddarach fel Prif Weinidog) ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 1999 a 2000.
Yn fwyaf diweddar bu’n gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru rhwng 2012 a 2024.

Drwy gydol ei yrfa mae wedi bod yn eiriolwr dros blant a phobl ifanc, ac mae wedi’i gofnodi fel cefnogwr ers tro dros bleidleisiau i bobl ifanc 16 oed, a hyd yn oed ar un adeg yn awgrymu y dylai pobl ifanc 14 oed bleidleisio a chael eu cyflwyno i’r system ddemocrataidd tra’n parhau i gael eu cefnogi mewn addysg.

Ers ymddeol o’i swydd gyhoeddus mae Alun wedi dod yn Llysgennad dros Gweithredu dros Blant ac mae’n gefnogwr brwd o’u gwaith i fynd i’r afael â chamfanteisio’n droseddol ar blant.

Rydym yn croesawu’r wybodaeth a’r ymroddiad y bydd Alun yn dod i’w rôl fel ein Llywydd newydd, croeso cynnes i ti Alun!

Adborth ar y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid

Wythnos ar ôl y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid a hoffem gael eich adborth!

Y rhai ohonoch a lwyddodd i fynychu Cynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid yng Nghaerdydd ddydd Iau diwethaf, er ei bod yn dal yn ffres yn eich meddyliau, a fyddai ots gennych gymryd ychydig funudau i rannu eich meddyliau a’ch argraffiadau?

Dilynwch y ddolen hon tinyurl.com/adbrth i arolwg byr i ddweud wrth y tîm beth weithiodd, beth sydd ddim wedi gweithio cymaint, a phopeth yn y canol!

Diolch am pawb a daeth!

Taith, gwnewch gais am gyllid Llwybr 1 gyda chymorth

Mae Taith yn rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl yng Nghymru ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.

Maen’t yn ymgorffori ymagwedd ryngwladol ym mhob lefel o’n system addysg. Mae Taith ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru, ac ym mhob math o leoliad addysg. Y sectorau sy’n gymwys ar gyfer cyllid yw:

  • Ysgolion
  • Ieuenctid
  • Addysg Oedolion
  • Addysg Bellach ac Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol
  • Addysg Uwch (yn cynnwys Addysg ac Ymchwil)

Mae aelodau CWVYS WCIA wedi cael arian o raglen Taith i gefnogi ymgeiswyr newydd, a’r rhai sydd wedi bod yn aflwyddiannus yn flaenorol, i wneud cais am gyllid Llwybr 1 Taith ar gyfer prosiect rhyngwladol. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Michi drwy michaelarohmann@wcia.org.uk

Gallwch ddarganfod mwy am Lwybr 1 yma; https://www.taith.cymru/tudalen-ariannu/llwybr-1/adnoddau-cymorth-a-gweminarau/

Mae Llwybr 1 yn agor ar gyfer ceisiadau tan Mawrth y 27fed 2025. 

 

Sesiwn gymorth Holi ac Ateb ar gyfer Llwybr 1 2025
Ar 5 Mawrth am 12.00 – 13.00 bydd Taith yn cynnal gweminar a fydd yn gyfle gwych i chi gyflwyno unrhyw gwestiynau sydd gennych i dîm Taith am brosiectau Llwybr 1.
Cofrestrwch i fynychu
*YMA*

 

Eleni mae Taith yn lansio cynllun grantiau bach sy’n addo proses symlach ac sydd wedi’i hanelu at y rhai nad ydynt wedi gwneud cais o’r blaen;https://www.taith.cymru/news/mae-taith-yn-lansio-cynllun-grantiau-bach/

Gall sefydliadau wneud cais am hyd at £60,000 o fewn y cynllun newydd hwn. I’r rhai sy’n dymuno gwneud cais am fwy na £60,000 (hyd at yr uchafswm sydd ar gael fesul sector) gallant wneud hynny drwy’r cynllun Grant Mawr.

Gall sefydliadau wneud cais am un opsiwn yn unig.

Mae gan y cynllun Grantiau Bach ffurflen gais fyrrach a symlach.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu ag ymholiadau@taith.cymru neu michaelarohmann@wcia.org.uk

Diwrnod Dim Smygu 2025 – Pecyn Cymorth i grwpiau ieuenctid

Mae ein haelodau ASH Cymru wedi creu nifer o adnoddau diddorol i’ch helpu i hyrwyddo Diwrnod Dim Smygu eleni, a gynhelir ar 12 Mawrth.

Y thema yw Mae Pob Munud yn Cyfri, sy’n cysylltu ag ymchwil sy’n awgrymu y gall ysmygu dim ond un sigarét gymryd 20 munud oddi ar fywyd. Gyda hyn mewn golwg, maent yn gobeithio annog cymaint o grwpiau â phosibl i gynnal sesiynau 20 munud gyda phobl ifanc ynghylch risgiau ysmygu.

Dyma ddolen uniongyrchol i’r pecyn cymorth y maent wedi’i greu ar gyfer Grwpiau Ieuenctid; Pecyn Cymorth Clwb Ieuenctid Diwrnod Dim Smygu 2025

Os bydd unrhyw un o’n haelodau’n cynnal sesiwn, byddai ASH Cymru wrth eu bodd yn gweld lluniau a chlywed sut mae’n mynd! Gallwch roi gwybod iddynt yn communications@ashwales.org.uk

Maent hefyd yn hapus i helpu i dynnu sylw at eich gweithgareddau trwy eu sianeli cyfryngau ac archwilio cyfleoedd ar gyfer sylw yn y wasg leol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar eu gwefan yma; Adnoddau Diwrnod Dim Smygu – Gweithredu ar Ysmygu ac Iechyd

Dyma gip arall ar rai o’r graffeg cyfryngau cymdeithasol maen nhw wedi’u gwneud, sydd ar gael i’w lawrlwytho o Wefan ASH;

Margaret a Richard Jarvis yn ymddeol

Hoffem rannu ychydig o newyddion gan ein haelodau Valleys Kids;

Ydy, mae’n wir. Y tro hwn mae Margaret a Richard wir wedi ymddeol.

Mae’n foment arwyddocaol i Plant y Cymoedd: mae Margaret a Richard wedi penderfynu ei bod hi’n bryd iddyn nhw ymddeol. Ar Ionawr 14eg, mae Margaret wedi bod yn gweithio am saith deg mlynedd; mae hi’n teimlo bod hon yn garreg filltir dda i nodi diwedd ei gyrfa ryfeddol. Mewn cyferbyniad, mae’n ymddangos bod Richard wedi gwneud ei benderfyniad yn ystod digwyddiad diweddar pan ddaeth pobl at ei gilydd i rannu atgofion o’u hamser gyda Plant y Cymoedd fel buddiolwyr a gwirfoddolwyr. Gwelodd fod y rhai yr oedd yn eu cofio orau fel plant a phobl ifanc bellach yn bensiynwyr ac yn fam-gu neu dad-cu! Ac felly, mae’r ddau bellach yn camu i ffwrdd o’r rolau terfynol iddyn nhw eu gwneud i ni, fel Llysgenhadon Plant y Cymoedd ac fel Cydlynwyr ein Rhaglen Lleisiau’r Cymoedd.

Dechreuodd eu taith yma gyda gweledigaeth a rennir ar gyfer y rôl y gellir ei chwarae mewn cymdeithas gan ddatblygiad cymunedol ar lawr gwlad. Gan ddechrau gyda Phrosiect Seler Pen-y-graig ym 1977, gyda’r nod o helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i drafferthion difrifol, maen nhw wedi adeiladu ein helusen o’r gwaelod i fyny. Am byth yn arloeswyr, fe wnaethon nhw ein llywio i mewn i ddarpariaeth gwasanaethau rhagorol mewn meysydd fel chwarae, gwaith ieuenctid, y celfyddydau, llesiant cymunedol, a dulliau therapiwtig – gan gyffwrdd â miloedd o fywydau.

Bu Margaret a Richard yn allweddol yn natblygiad ac ehangiad Plant y Cymoedd, gan helpu i lunio’r gwerthoedd a’r rhaglenni a fyddai’n ei wneud yn berthnasol ar draws amrywiaeth o ardaloedd. Gwnaethant ymroi eu gyrfaoedd a’u bywydau i feithrin dull unigryw o gefnogi a grymuso unigolion, teuluoedd, a chymunedau trwy ddeall ac ymateb i anghenion lleol. Roedd yn cynnwys darparu “cyfeillgarwch proffesiynol” i bawb a rhoi rôl ganolog i wirfoddolwyr. Gan weithio mewn partneriaeth yn lleol ac yn genedlaethol i ddarparu cyfleoedd o bob math, buont yn gymorth i greu cysylltiadau cryf a pharhaol â sefydliadau eraill megis y cyngor lleol, Llywodraeth Cymru, Canolfan y Mileniwm, y Tate, a’r Academi Frenhinol. Roedd unigolion yn amrywio o’r Arglwydd Hunt i’r Archesgob Desmond Tutu yn rhan o’r weledigaeth hon ac yn cefnogi Plant y Cymoedd.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Margaret a Richard am eu harweinyddiaeth, eu doethineb, a’r oriau di-ri y maent wedi’u neilltuo i wneud Plant y Cymoedd yr hyn ydyw heddiw. Gyda diolch a pharch, rydym i gyd yn cydnabod y cyfraniad unigryw y maent wedi’i wneud dros bron i bum degawd – cyfnod a nodweddir gan wasanaeth ymroddedig ac ymrwymiad diwyro i’n cenhadaeth. Mae eu hetifeddiaeth yn un o dosturi, gwydnwch, ac effaith ddofn wrth feithrin llesiant, creu cyfleoedd a dod â bywyd newydd i rai o adeiladau mwyaf eiconig y Rhondda.

Dywedodd Phil Evans, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Plant y Cymoedd: “Ymunwch â mi i fynegi ein diolch twymgalon i Richard a Margaret. Dymunwn bob llwyddiant a hapusrwydd iddynt yn eu hymddeoliad haeddiannol iawn. I ni, maent yn cynrychioli popeth sy’n eithriadol am y trydydd sector, yn enwedig ei wydnwch yn wyneb heriau ariannu a’r ffordd y mae’n uno pobl o bob cefndir y tu ôl i achosion mawr sydd o fudd i’r rhai sy’n wynebu trafferthion ac adfyd. Wrth i’n sefydliad barhau i addasu i fyd sy’n newid, un lle mae’r angen i ymgysylltu â chymunedau mor ddifrifol ag erioed, byddwn yn ymdrechu i sicrhau y bydd eu hetifeddiaeth a’u hesiampl yn parhau i fod wrth galon Plant y Cymoedd a’i waith.”

Rydym ni yn CWVYS yn dymuno’n dda i’r ddau yn y bennod nesaf hon, ac yn dweud diolch yn fawr iawn am bopeth y maent wedi’i roi i waith ieuenctid yng Nghymru yn ystod eu blynyddoedd ymroddedig niferus yn y sector.

Llwyddianwyr cynllun grant Sefydliad Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol Strategol (SVYWO)

Dyma restr o ymgeiswyr llwyddiannus i gynllun grant SVYWO;

Sefydliadau cenedlaethol:

Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
DofE
NYAS Cymru
ProMo Cymru
ScoutsCymru
St John Ambulance Cymru
Urdd Gobaith Cymru
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Youth Cymru

Sefydliadau arbenigol:

Canolfan Maerdy
YMCA Cardiff
Dr M’z
EYST Wales
STAND North Wales CIC
Swansea MAD
YMCA Swansea
West Rhyl Young People’s Project (Rhyl Youth gynt)

Sicrhewch eich bod wedi tanysgrifio i’r cylchlythyr gwaith ieuenctid er mwyn derbyn manylion am gyfleoedd ariannu tebyg i’r dyfodol.