Mae pobl ifanc yng Nghymru ar fin elwa o gymorth cyflogaeth estynedig drwy 12 Canolfan Ieuenctid newydd arall wrth i’r Llywodraeth barhau i ddarparu cyfleoedd ledled y wlad.

  • Mae 12 lleoliad Canolfan Ieuenctid newydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru, fel rhan o 80 sy’n cael eu lansio ledled Prydain Fawr.
  • Mae llywodraeth y DU wedi nodi cynlluniau i ddatganoli cyllid cymorth cyflogaeth nad yw’n rhan o’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru.
  • Mae £20 miliwn cychwynnol eisoes wedi’i roi i Gymru i ariannu Arloeswyr Anweithgarwch Economaidd, gyda chynllun tymor hwy bellach wedi’i gytuno.

Mae Canolfannau Ieuenctid yn dwyn ynghyd y Ganolfan Byd Gwaith, gwasanaethau awdurdodau lleol, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant o dan un to i gefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed.

Fel rhan o’r ehangu hwn, bydd pob Canolfan Ieuenctid yn bodloni set o safonau gofynnol, gan sicrhau y gall pobl ifanc gael mynediad at gymorth canolfan waith ar y safle ochr yn ochr â chymorth iechyd meddwl a thai, cyfleoedd sgiliau a hyfforddiant, canllawiau gyrfaoedd a chysylltiadau uniongyrchol â chyflogwyr sydd â chyfleoedd swyddi a phrentisiaethau byw.

Mwy yma; Hwb mawr i bobl ifanc yng Nghymru gyda 12 Canolfan Ieuenctid newydd a chyllid cymorth cyflogaeth datganoledig wedi’i gyhoeddi – GOV.UK