Mae Cynhadledd Ieuenctid STAND Gogledd Cymru CIC yn gynhadledd undydd a gynhelir ddydd Iau 21 Mai 2026, gan ganolbwyntio ar strategaethau ymarferol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i gefnogi pobl ifanc niwroamrywiol ar draws lleoliadau gwaith ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid.
Addas ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Rheolwyr, Ymarferwyr Cyfiawnder Ieuenctid, Gweithwyr Cymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl ifanc, ac unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n cefnogi pobl ifanc niwroamrywiol.
Dysgwch fwy yma; Poster – Cynhadledd Ieuenctid Cymraeg f1
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cynghorir archebu’n gynnar trwy e-bostio admin@standnw.org