Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu aelodau newydd i’w Fforwm Llysgenhadon Ieuenctid

Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn croesawu aelodau newydd i’w Fforwm Llysgenhadon Ieuenctid (dyfedpowys-pcc.org.uk)

Ddydd Mercher 31 Ionawr, croesawodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn bobl ifanc o bob rhan o ardal yr Heddlu i Bencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, sydd wedi’u penodi’n aelodau newydd o gynllun Llysgenhadon Ieuenctid Dyfed-Powys, ac a fydd yn gweithio gyda’r Comisiynydd i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Mae cyfanswm o naw o bobl ifanc (pum aelod newydd a phedwar aelod blaenorol) bellach yn aelodau o’r rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid, sy’n amrywio o ran oedran o 15 i 24 oed, ac fe’u gwahoddwyd i Bencadlys yr Heddlu ar 31 Ionawr, ar gyfer sesiwn gynefino a sesiwn hyfforddi i’w cefnogi a’u paratoi i gynrychioli pobl ifanc o Bowys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Darparwyd yr hyfforddiant mewn partneriaeth â darlithwyr Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol o Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Sefydlodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn Fforwm Ieuenctid am y tro cyntaf yn 2018 gyda llysgenhadon ieuenctid ac mae wedi parhau i adeiladu ar y gwaith hyd yma, fel bod gan Dyfed-Powys Fforwm o Lysgenhadon Ieuenctid sy’n barod i ‘ddylanwadu’ a ‘herio penderfyniadau’, sicrhau bod gan gymunedau Dyfed-Powys Heddlu sy’n diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hybu eu lles.

Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu

Llywodraeth Cymru i wahardd fêps tafladwy a chefnogi cynlluniau i godi oedran smygu | LLYW.CYMRU

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau i wahardd fêps tafladwy ac yn cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth y DU i godi’r oedran smygu a chyfyngu ar werthu fêps.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad pedair gwlad ‘Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc’ heddiw (dydd Llun 29 Ionawr).

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 6 Rhagfyr, a daeth 27,921 o ymatebion i law, 1,018 ohonynt o Gymru. Felly, bydd Llywodraeth y DU nawr yn cyflwyno Bil Tybaco a Fêps cyn gynted â phosibl a fydd yn cymryd camau i:

  • newid yr oedran gwerthu ar gyfer pob cynnyrch tybaco, papurau sigaréts a chynhyrchion smygu llysieuol fel na chaniateir gwerthu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon i unrhyw un sydd wedi’i eni ar 1 Ionawr 2009 neu wedi hynny (a’u gwahardd rhag prynu cynnyrch tybaco yn gyfreithlon yn yr Alban yn ogystal) ochr yn ochr â gwahardd gwerthiant procsi, a newid hysbysiadau rhybuddio
  • cyflwyno pwerau rheoleiddio i gyfyngu ar flasau, mannau gwerthu a phecynnu ar gyfer cynhyrchion fepio (nicotin a heb nicotin) yn ogystal â chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr
  • cyflwyno pwerau gorfodi newydd ar gyfer Cymru a Lloegr ar gyfer achosion o dorri deddfwriaeth oedran gwerthu ar gyfer tybaco a fêps (nicotin a heb nicotin) a chynhyrchion nicotin eraill i ddefnyddwyr

Plant a phobl ifanc sydd ar yr ymylon – Senedd Cymru

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc ar yr Ymylon, sy’n ymwneud yn gryno â phlant coll a’r rhai sy’n agored i gamfanteisio troseddol.

Mae’r ymchwiliad hwn yn dilyn adroddiad y Pwyllgor ar ddiwygio radical ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. O’r dystiolaeth a ddaeth i law, amcangyfrifir bod y plant hyn yn cyfrif am bron i 40% o blant sy’n mynd ar goll yng Nghymru. Hefyd, soniwyd bod grwpiau penodol y credir eu bod mewn perygl o gael eu ‘troseddoli’ yn cynnwys plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ceiswyr lloches sydd ar eu pen eu hunain, plant a phobl ifanc sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, a phlant a phobl ifanc du a lleiafrifol ethnig.

Bydd yr ymchwiliad hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y canlynol:

  • Plant sydd ar goll
  • Plant a phobl ifanc sy’n dioddef camfanteisio troseddol

Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar nodi grwpiau eraill o blant y nodwyd eu bod “ar yr ymylon,” fel ffocws posibl sesiynau craffu yn y dyfodol. Byddai’r rhain yn grwpiau o blant mewn amgylchiadau sy’n gofyn am ymateb penodol iawn gan wasanaethau plant neu ddarparwyr statudol eraill, ac yn blant y mae pryderon ynghylch yr ymateb presennol o ran polisi neu arferion.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad ac i weld y cylch gorchwyl llawn, ewch i dudalen yr ymchwiliad.

Sut i rannu eich barn
Mae’r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad, mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad. Y dyddiad cau yw dydd Iau 28 Mawrth.

SeneddPlant@senedd.cymru

@SeneddPlant

Cyfleoedd Hyfforddi Am Ddim i’r Sector Gwaith Ieuenctid

Mae ETS Cymru Wales yn gyffrous i lansio ei raglen hyfforddi ar gyfer 2023 / 2024 trwy gynnig dau gwrs cyffrous:

  • Goruchwyliaeth yn y Cyd-destun Gwaith Ieuenctid (Cyrsiau Achrededig Lefel 3)
  • Hyfforddiant Niwroamrywiaeth (cyfres o weithdai)
    Os hoffech wybodaeth neu i sicrhau lle, dilynwch y ddolen hon: http://tinyurl.com/tktcn35z
    Cofiwch gadw llygad ar Eventbrite ETS Cymru Wales gan y bydd mwy o hyfforddiant yn dilyn yn fuan.

Llywodraeth Cymru – Adolygiad Cyllid

Fel y gwyddoch efallai, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu tîm o ymchwilwyr o brifysgolion Cymru i gynnal Adolygiad Cyllid.

Mae hwn yn ddarn hanfodol o waith ac mae’n seiliedig ar un o’r 14 argymhelliad y mae’r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn gweithio arnynt.

Mae’n hanfodol bod llais y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yn cael ei glywed yn y broses hon, gan y bydd tystiolaeth a ddarperir nawr yn llywio sut a ble y gall cyllid gefnogi’r sector yn fwy effeithiol yn y dyfodol.

Cwblhewch yr arolwg erbyn y dyddiad cau sef 12 Ionawr 2024:

https://wgu.onlinesurveys.ac.uk/arolwg-cyfranogiad-sector-gwirfoddol-2

https://wgu.onlinesurveys.ac.uk/voluntary-sector-participant-survey

Datblygu Argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: Y camau nesaf

Heddiw mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi amlinellu’r camau nesa i ddatblygu argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro gyda’r nod o sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae modd darllen mwy yma.

Ymuna yn y sgwrs

Diolch i bawb sydd wedi bwydo mewn i’r gwaith hwn hyd yma. Bydd y dull cydweithredol a fabwysiadwyd i lywio datblygiad y gwaith hwn yn parhau i fod yn hanfodol yn ystod y cam nesaf hwn, o dan gyngor y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid a’i Grwpiau Cyfranogiad Gweithredu, yn ogystal â phartneriaid eraill.

Dechreuodd cyfres o sesiynau ‘galw heibio’ Yr Awr Fawr ar gyfer gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid ar 11 Rhagfyr. Mae’r rhain wedi ymdrin ag amrywiaeth o themâu, gan gynnwys dull gweithredu yn seiliedig ar hawliau, diffiniadau a swyddogaethau gwaith ieuenctid, ac arweinyddiaeth a phartneriaethau. Bydd yr ymgysylltu hwn yn parhau yn y flwyddyn newydd, gyda chyfleoedd i unigolion ledled y sector gwaith ieuenctid a thu hwnt i fod yn rhan o’r sgwrs. Bydd manylion pellach yn cael eu rhannu yn fuan.

Newyddion pwysig i gofrestrwyr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae’r Cod wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu categorïau cofrestru newydd.

Ynglŷn â’r Cod

Mae Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg (‘y Cod’) yn cyflwyno’r safonau disgwyliedig ar gyfer pobl sydd wedi cofrestru gyda ni a bwriedir iddo gefnogi a llywio’u hymddygiad a’u crebwyll fel gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn swyddi addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Daeth fersiwn ddiweddaraf y Cod i rym ar 1 Medi 2022 (diweddarwyed ym mis Tachwedd 2023 i ddangos ein bod wedi ychwanegu categorïau newydd).

Mae cofrestreion yn ymrwymo i gynnal pum egwyddor allweddol y Cod:

  • Cyfrifoldeb Personol a Phroffesiynol
  • Unplygrwydd Proffesiynol
  • Cydweithio
  • Gwybodaeth a Dealltwriaeth Broffesiynol
  • Dysgu Proffesiynol

Darllen y Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol.

Dogfennau ategol

Rydym wedi cynhyrchu posteri i’w harddangos yn eich lleoliad:

Poster i’w arddangos yn ystafell y staff
Poster i’w arddangos yn gyhoeddus

Heyfd, mae cyfres o ganllawiau arfer da, sy’n cynorthwyo cofrestreion i gydymffurfio â’r Cod. Maent yn rhoi mwy o gyngor i gofrestreion ar eu hymarfer o ddydd i ddydd.

Mae ein canllaw i rieni  yn darparu gwybodaeth a chyngor i rieni am ein gwasanaethau ac maent yn eu helpu i chwarae rhan fwy gweithgar yn addysg eu plant.

Gwahoddiad – Digwyddiadau Tegwch a Chynwysoldeb Cwricwlwm i Gymru

Dangoswch eich gwaith yn y ‘Farchnadfa’ mewn cyfres o ddigwyddiadau Tegwch a Chynwysoldeb Cwricwlwm i Gymru a gynhelir ledled Cymru. Fe gynhelir y rhain rhwng Tachwedd 2023 a Chwefror 2024. 

Mae croeso i chi archebu lle mewn cymaint ag y dymunwch o ddigwyddiadau yn y gyfres, y cyfan a ofynnwn yw eich bod ond yn gwneud hynny os yw eich sefydliad yn gweithredu o fewn yr ardal ble cynhelir y digwyddiadau .

I archebu eich lle, cliciwch yma neu ar y ddolen yn y gwahoddiad sydd ynghlwm .

Dalier sylw os gwelwch yn dda mai ar gyfer y trydydd sector a sefydliadau nid-er-elw yn unig mae’r  ‘Farchnadfa’.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau peidiwch ag oedi rhag cysylltu.

Gweminarau Gwaith Ieuenctid efo CWVYS / Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol  

CWVYS a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi trefnu tair gweminar ar-lein i drafod pob agwedd ar arweinyddiaeth o fewn y Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru. 

 Mae tri dyddiad a thema allweddol, ac mae’r rhain fel a ganlyn: 

  •  Arwain ac Arwain yn y Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru – 25 Hydref 2023, 2-3pm 
  • Materion a Heriau Arweinyddiaeth yn y Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru – 27 Tachwedd, 2023, 2-3pm 
  • Llywio Tiriogaeth Anhysbys: Cefnogaeth a Chyfleoedd i Arweinwyr yn y Sector Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yng Nghymru – 12 Rhagfyr, 2023, 2-3pm. 

 Os hoffech gofrestru, neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch ag Emma Chivers yn Emma@ec-consultancy.co.uk neu Paul Glaze ar paul@cwvys.org.uk

Adolygiad cyllid gwaith Ieuenctid – adroddiad cyfnod un.

Annwyl pawb, mae’r adroddiad o gyfnod un yr Adolygiad Cyllid Gwaith Ieuenctid yn fyw nawr.

Gellir gweld yr adroddiad llawn ar wefan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yma, a’r crynodeb yma a thrwy Lywodraeth Cymru yma.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn at y gwaith hanfodol hwn. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddeall sut mae’r cyllid yn gweithio yng Nghymru, a bydd canlyniad yr ymchwil yn sail i lot o’r gwaith rydym yn ei ddatblygu wrth gweithio tuag at model cynaliadwy ar gyfer gwaith Ieuenctid.

Mae’n bwysig ein bod yn cael barn eang o’r sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid i helpu, felly os gofynnir i chi gymryd rhan, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gefnogi’r gwaith hwn.

Cynllun Cefnogi Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol – Rownd 2 (VYWOSS)

Mae ein Cynllun Cefnogi Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol nawr ar gau. Mae hwn yn gyfle gwych i sefydliadau grwpiau ieuenctid lleol gael mynediad at arian hanfodol a fydd yn eu galluogi i gefnogi pobl ifanc ledled Cymru.

Sicrhewch eich bod wedi darllen y ffurflen ganllaw cyn llenwi ffurflen gais gan fod hyn yn cynnwys y dyddiadau allweddol ar gyfer gwneud cais yn Rownd 2, gwybodaeth am y gofynion ar gyfer cymhwysedd a gwybodaeth gyffredinol am y cynllun.

Os ydych yn gymwys, cysylltwch â Amanda@cwvys.org.uk yn y lle cyntaf, gan ddefnyddio’r ffurflenni cais a ddarperir.

Mae hon yn gronfa ‘argyfwng’ i gefnogi mudiadau gwaith ieuenctid gwirfoddol rhag mynd o dan a/neu allu talu’r biliau a chadw’r drysau ar agor gyda’r ddarpariaeth a’r gwasanaethau presennol.

Os ydych wedi bod yn llwyddiannus yn eich cais ac wedi derbyn unrhyw beth yn Rownd 1, ni fyddwch yn gallu ailymgeisio.

I’r ymgeiswyr eraill hynny na allem eu cefnogi oherwydd yn syml nid oedd gennym ddigon i fynd o gwmpas a / neu roeddent yn aflwyddiannus oherwydd nad oeddent yn mynegi’r sefyllfa dyngedfennol a wynebwyd a’r angen am yr arian, yn gallu ailymgeisio.

Bydd angen i sefydliadau roi dadansoddiad (amcangyfrif) i ni o faint sydd ei angen arnynt dros y 6 mis nesaf ac ar gyfer pa ‘filiau’ yn hytrach na gofyn heb unrhyw arwydd clir o ble y byddant yn clustnodi’r arian.

Cronfa VYWOSS Nid yw ar gyfer prosiectau/gweithgareddau newydd yr hoffai sefydliadau eu cyflawni.

Wirfoddoli ar Bwrdd Cynghori Ieuenctid y Warant i Bobl Ifanc

Yn dilyn ein hymgyrch recriwtio cychwynnol ym mis Ebrill , rydym yn gwahodd pobl ifanc i gofrestru pellach fel Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ar gyfer Bwrdd Cynghori Ieuenctid Gwarant Pobl Ifanc.
Bydd aelodau y Bwrdd yn cael cyfle i: gwrdd â ffrindiau newydd a chael hwyl.

• Cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth Cymru

• Datblygu ystod o sgiliau a hyfforddi

• Cyfleoedd i fynychu digwyddiadau blynyddol a chenedlaethol

• Gwella eich CV a/neu gais UCAS.

• Cefnogaeth ariannol i fynychu cyfarfodydd a phreswyliadau.

Atodir manylion pellach ar gyfer y Bwrdd. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech rannu gydag unrhyw gydweithwyr neu bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw a allai fod â diddordeb mewn cofrestru.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu os oes unrhyw rwystrau eraill i gyfranogiad, cysylltwch â: volunteer@childreninwales.org.uk a byddwn yn hapus i archwilio sut y gallem gefnogi ymhellach.