Wythnos nesa’ yw Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru (23ain-30ain Mehefin). Mae’n gyfle i arddangos a dathlu effaith ac amrywiaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.
 

Nod yr Wythnos yw hyrwyddo dealltwriaeth a chefnogaeth ehangach i waith ieuenctid.
Gan nad ydym yn gallu cynnal digwyddiad arddangos corfforol y mis hwn, rydym yn annog pobl ifanc, sefydliadau gwaith ieuenctid, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid eraill i ymuno yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #GwaithIeuenctidCymru a #YouthWorkWales

Ddydd Mawrth 23ain Mehefin, bydd nifer o fideos yn cael eu rhannu trwy gydol y dydd ar gyfryngau cymdeithasol (@YWWales), yn gynnwys fideo a grëwyd gan ProMo-Cymru i hyrwyddo a dathlu gwaith ieuenctid.

Bydd sessiwn Holi ac Ateb gydag aelodau o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ar Trydar hefyd.

Dilynwch @YWWales ac ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio #GwaithIeuenctidCymru a #YouthWorkWales

Croeso i chi ein tagio (@CWVYS) yn eich negeseuon! 

😊