Elusen ieuenctid a sefydlwyd yn 1956 yw Gwobr Dug Caeredin (DofE). Bob blwyddyn, yng Nghymru mae’n cefnogi dros 11,000 o gyfranogwyr newydd rhwng 14 a 25 oed. Nod yr elusen yw ysbrydoli, arwain a chefnogi pobl ifanc yn eu hunanddatblygiad a chydnabod eu cyflawniadau.

Mae’r elusen yn gweithio’n galed i sicrhau bob pob unigolyn ifanc, waeth beth yw eu cefndir neu amgylchiadau, yn cael cyfle i gymryd rhan a llwyddo, gan eu helpu i oresgyn y rhwystrau y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu. Mae’r DofE yn cael effaith ryfeddol ar bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n wynebu’r anawsterau mwyaf. Trwy eu cyfranogiad, maent yn magu hyder, sgiliau gweithio mewn tîm a mwy o hunanwerth. I lawer, mae’r DofE yn brofiad sy’n newid bywyd.