Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

GWEMINAR: Sefydlu strwythur llywodraethu a gaiff ei arwain gan bobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

January 25 @ 10:00 am - 12:00 pm

Cyflwynir y gweminar yma gan y Grŵp Cyfranogiad Gweithredu Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu, un o bum grŵp sefydlwyd i gefnogi gwaith y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Un o brif argymhellion yr adroddiad Mae’n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru oedd i “Sefydlu strwythur llywodraethu dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru”. Rydym yn awyddus i ddarganfod mwy am y pethau da sydd yn digwydd ledled Cymru fel y gall hysbysu datblygiad yr argymhelliad yma, ac agweddau eraill o’n gwaith.

Byddem yn rhannu’r gwaith sydd yn digwydd ar lefel cenedlaethol yn y gweminar yma, llawer ohono yn newydd ac yn dod i’r amlwg. Byddem yn trafod yr egwyddorion hanfodol a’r camau nesaf, er mwyn sicrhau strwythur llywodraethu a gaiff ei arwain gan ieuenctid sydd yn caniatáu i bobl ifanc lunio gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Rydym eisiau i bobl ifanc chwarae rhan ystyrlon ymhob penderfyniad fydd yn cael effaith arnynt. Rhennir esiamplau o ymarfer gorau yn ystod y gweminar, ac rydym yn awyddus i gasglu tystiolaeth bellach i fwydo i’r gwaith yma i gryfhau’r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid. Bydd y wybodaeth sydd yn cael ei gasglu yn y sesiwn yma hefyd yn cael ei ymgorffori yn y gwaith cwmpasu ar gyfer y posibilrwydd o gorff cenedlaethol gwaith ieuenctid, ble rydym yn awyddus i sicrhau bod pobl ifanc nid yn unig yn cymryd rhan, ond bod ganddynt rannau penodol i’w chwarae.

Mae’r cyflwynwyr yn cynnwys:

– David Williams, Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen – Cadeirydd GCG Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu
– Sharon Lovell – Cadeirydd y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid.
– Dyfan Evans, Llywodraeth Cymru
– Panel Ymgynghorol Ieuenctid Merthyr: ‘Nadroedd ac Ysgolion’ – Y Pandemig Arall
– Rebekah Burns, Ambiwlans Sant Ioan
– Victoria Allen, Llywodraeth Cymru

Bydd ail ran y gweminar yn cynnwys gweithdai mewn grwpiau llai i drafod y canlynol:

– Sut mae Llywodraethu Ieuenctid da a drwg yn edrych yn eich barn chi?
– Beth allem ni ei ddysgu o ymarfer da blaenorol sydd efallai ddim yn digwydd ar hyn o bryd?
– Pa enghreifftiau o lywodraethu ieuenctid sydd gennym nawr?
– Pa brif egwyddorion arweiniol ydym ni eisiau ymgorffori, a sut?
– Beth yw rhai o’r rhwystrau posib?

Croesawir y bobl sydd yn ymwneud â gwaith ieuenctid yng Nghymru ac sydd â diddordeb mewn dysgu mwy a chyfrannu i’r drafodaeth yma.

Cofrestrwch heddiw ar y ddolen hon: https://lu.ma/90zduzu5

Details

Date:
January 25
Time:
10:00 am - 12:00 pm