Gweithdy’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd

Mae’n bleser gan Asiantaeth Genedlaethol y DU Erasmus+ eich gwahodd i’n Gweithdy Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd.

Mae’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd yn fenter newydd gan y Comisiwn Ewropeaidd sy’n ceisio helpu pobl ifanc i wirfoddoli neu weithio ar brosiectau sydd o fudd i gymunedau lleol ledled Ewrop. Mae gan y rhaglen gyllideb gyffredinol o €375.6 miliwn a fydd ar gael o 2018-2020 ac rydym yn awyddus iawn i weld y sector ieuenctid a phobl ifanc yng Nghymru yn elwa ar y fenter newydd gyffrous hon.

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i:
• Ddarganfod rhaglen y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd a’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael ar gyfer Awdurdodau Lleol a sefydliadau sector gwirfoddol o dan eu helfen Prosiectau Gwirfoddoli;
• Ystyried sut mae’r gwaith y byddwch chi’n ei wneud yn gyson â gwerthoedd rhaglen y Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd ac y gellid eu trosi yn Brosiect Gwirfoddoli o ansawdd da;
• Dysgu mwy am sut i gofrestru gyda’r Corfflu Cydsefyll Ewropeaidd a gwneud cais am gyllid, gyda chanllawiau cam wrth gam gan yr Asiantaeth Genedlaethol a chymorth i gwblhau a chyflwyno’r cais;
• Gwybodaeth am enghreifftiau o arferion gorau o Brosiectau Gwirfoddoli presennol a buddiolwyr Erasmus+.

Cynhelir y gweithdy ar 29 Tachwedd 2018 yn Prifysgol Glyndwr, Glyndwr rhwng 10:00am a 3:30pm.
Dim ond 30 lle sydd ar gael yn y gweithdy, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl i gadw’ch lle. Mae Asiantaeth Genedlaethol y DU hefyd yn gallu talu costau teithio a llety sy’n ofynnol i fynychu’r digwyddiad, hyd at uchafswm o £200 y cynrychiolydd.

I gofrestru, e-bostiwch ni yn erasmusplus@ecorys.com erbyn 16 Tachwedd 2018 fan bellaf.

esc-logo-en