Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau i’w God Ymddygiad Proffesiynol ac Ymarfer ar gyfer cofrestreion.

Rhaid i unrhyw un sy’n gweithio fel athro neu mewn rôl cefnogi dysgu mewn ysgol a gynhelir neu goleg addysg bellach fod wedi cofrestru â CGA a chydymffurfio â’i God. Mae’r un peth hefyd yn berthnasol i ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a gweithwyr cymorth ieuenctid a ieuenctid cymwys.

Mae’r Cod yn nodi’r safonau a ddisgwylir gan y rhai sydd wedi’u cofrestru â CGA ac fe’i bwriedir i helpu ac arwain eu hymddygiad a’u dyfarniadau yn y gwaith o fewn a thu allan i’r gwaith. Fodd bynnag, mae hefyd yn darparu diogelu pwysig i ddysgwyr, rhieni a’r cyhoedd gan ei fod yn nodi’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan unrhyw un sy’n gweithio ym myd addysg yng Nghymru.

Maent yn awyddus i glywed gan nifer o bobl â phosibl, gan gynnwys cofrestreion, y cyhoedd a’r rhai sydd â diddordeb mewn sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael addysg o ansawdd uchel. Maent yn eich annog i roi eich barn ac i’w helpu i ddatblygu Cod sy’n gadarn, yn glir ac yn gryno.

Mae’r dogfennau ymgynghori i’w gweld yma.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 14 Rhagfyr 2018.