Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) —
Cyfnod 3

Cwblhawyd Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) ddydd Mercher 13 Tachwedd.

Cadarnhaodd yr Aelodau brif ddarpariaethau’r Bil, a fydd yn:

  • gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad i 16;
  • darparu y bydd y Cynulliad yn dod yn senedd i Gymru, a gaiff ei galw’n ‘Senedd Cymru’ neu’n ‘Welsh Parliament’;
  • darparu bod Aelodau’n cael eu galw’n ‘Aelodau o’r Senedd’ neu’n ‘Members of the Senedd’; 
  • caniatáu i ddinasyddion tramor cymwys bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad;
  • newid y gyfraith o ran anghymhwyso person rhag bod yn Aelod Cynulliad; a
  • gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad.

Yn ei sylwadau, dywedodd y Llywydd:

“Rwy’n falch bod y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi symud gam ymhellach tuag at ddiwedd ei daith ddeddfwriaethol.

“Mae’n galonogol gweld bod mwyafrif clir o Aelodau’r Cynulliad o blaid gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a hithau’n adeg sydd mor arwyddocaol yn wleidyddol.

“Mae’r Senedd Ieuenctid wedi gwneud argraff wirioneddol yn ei blwyddyn gyntaf ac mae’n dangos pa mor gadarnhaol yw’r canlyniadau wrth roi llais i bobl ifanc. Heb os, bydd gostwng yr oedran pleidleisio yn adeiladu ar y gwaith hwn.”

Disgwylir i’r ddadl ar gyfnod olaf y Bil, Cyfnod 4, gael ei chynnal ar 27 Tachwedd.

Bydd angen “uwch-fwyafrif” o aelodau i gefnogi’r Bil cyn y caiff ei basio: mae hyn yn ei wneud yn ofynnol bod o leiaf 40 aelod o’r 60 yn pleidleisio o’i blaid.

I gael rhagor o wybodaeth am waith diwygio’r Cynulliad, ewch i
www.cynulliad.cymru/diwygiorcynulliad