Efallai y bydd rhai ohonoch yn ddarllenwyr brwd yn cofio bod CWVYS yn bartneriaid i EurodeskUK, sydd wedi’i leoli yn Ecorys yn Birmingham. Mae Ecorys yn ffurfio hanner o Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer y rhaglen Erasmus + (y Cyngor Prydeinig yw’r hanner arall!), Mae Ecorys yn cynnal astudiaeth ar ran y Comisiwn Ewropeaidd.

Nod yr astudiaeth yw casglu tystiolaeth ar gyfranogiad ieuenctid mewn bywyd democrataidd yn yr UE, i lywio elfen ‘Ymgysylltu’ o’r Strategaeth Ieuenctid Ewropeaidd (2019-27).

Y cam cyntaf yw arolwg o gyrff anllywodraethol a rhwydweithiau ieuenctid yn Ewrop. Mae’r arolwg bellach yn fyw a bydd yn aros ar agor am fis (tan 16 Awst). Mae ein cydweithwyr sy’n goruchwylio’r astudiaeth yn gobeithio cyrraedd cynifer o gyrff anllywodraethol ieuenctid ag sy’n bosibl ar draws yr UE, p’un a ydynt yn gweithredu ar lefel yr UE, yn genedlaethol neu’n lleol.

Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gefnogi’r gwaith pwysig hwn trwy godi ymwybyddiaeth o’r arolwg gyda chyrff anllywodraethol ieuenctid yn eich ardal leol yn ogystal â’ch sefydliadau partner ar draws yr UE. Gallwch wneud hyn drwy rannu’r ddolen ganlynol drwy eich rhestrau postio (e-bost a / neu gyfryngau cymdeithasol):

Arolwg Cyfranogiad Ieuenctid