Yn Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru rydym yn gweithio’n galed i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc 11 i 30 oed, gan eu grymuso i ddatblygu sgiliau a hyder i fyw, dysgu ac ennill.

Mae llawer o’r bobl ifanc yr ydym yn eu helpu mewn gofal neu’n gadael gofal, sy’n wynebu heriau fel digartrefedd, problemau iechyd meddwl, yn cael trafferth yn yr ysgol neu wedi bod mewn trafferth gyda’r gyfraith.
Mae ein rhaglenni hyblyg yn rhoi’r cymorth ymarferol ac ariannol sydd ei angen ar bobl ifanc i sefydlogi eu bywydau. Rydym yn eu helpu i ddatblygu sgiliau allweddol, tra’n hybu eu hyder a’u cymhelliant, fel y gallant barhau i freuddwydio.

Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog Cymru wedi cefnogi dros 3,500 o bobl ifanc ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda 78% yn symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant neu wirfoddoli.
Pobl ifanc yw’r allwedd i ddyfodol cadarnhaol a ffyniannus i bob un ohonom. Dyna pam y dylai pob person ifanc yng Nghymru gael y cyfle i lwyddo.