Cenhadaeth Llamau yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a digartrefedd i fenywod yng Nghymru. Credwn na ddylai neb byth orfod profi digartrefedd a chredwn fod angen atebion penodol i ddod â digartrefedd i ben i bobl ifanc a menywod. Sefydlwyd Llamau dros 30 mlynedd yn ôl i roi lle diogel i bobl ifanc yn eu harddegau aros.

Ers hynny, rydym wedi cefnogi dros 82,000 o bobl sy’n wynebu digartrefedd. Rydym yn gweithio ledled Cymru i atal digartrefedd cyn iddo ddigwydd, darparu llety diogel a chefnogi pobl i adael digartrefedd ar ei hôl hi am byth. Y llynedd, buom yn gweithio gyda 8,914 o bobl ifanc, menywod a phlant.