Cynhaliodd CWVYS ei CCB yng nghanolfan Urdd Gobaith Cymru ym Mae Caerdydd ar 10 Gorffennaf.
Roeddem wrth ein bodd yn croesawu cymaint o ffrindiau a chydweithwyr o amrywiaeth o sefydliadau ac asiantaethau partner.

Diolch i Wayne David AS, ac rydym yn falch iawn o ddweud y bydd yn parhau fel Llywydd CWVYS; ac i Bwyllgor Gwaith CWVYS sydd newydd ei ethol gyda Claire Cunliffe (Cadeirydd), Sharon Lovell (Is-Gadeirydd) a Marco Gil Cervantes (Trysorydd) fel Swyddogion.

Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn ysgogol yn cynnwys yr holl fynychwyr mewn cyfres o drafodaethau bwrdd crwn dan arweiniad yr Ymddiriedolwyr yn seiliedig ar bum thema’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd i Gymru. Mae’r canfyddiadau hynny wedi’u hysgrifennu a’u trosglwyddo i’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro ac i Lywodraeth Cymru i’w hystyried ymhellach, gyda gwahoddiad agored i drafodaethau parhaus, yn y dyfodol.

Mae rhestr o Aelodau Grŵp Llywyddion CWVYS ynghyd ag Aelodau o Bwyllgor Gwaith CWVYS yma: Ymddiriedolwyr a Llywyddion

Dyma Adroddiad Blynyddol CWVYS 2018/19 yma