Mae lleihau Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: (ACE), atal camddefnyddio alcohol a sylweddau, a gwella cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn rhai ffyrdd allweddol o helpu i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc Cymru.

Mae adolygiad newydd, a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe, yn trafod marwolaethau’r holl blant a phobl ifanc yng Nghymru a fu farw drwy hunanladdiad rhwng 2013 a 2017. Nodwyd nifer o themâu a ddylai fod yn dargedau ar gyfer atal y trychinebau ofnadwy hyn yn y dyfodol.

Ceir tystiolaeth o bob rhan o’r DU o gynnydd yn nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad ymhlith pobl ifanc ers 2010. Gan gyfuno nifer o ffynonellau, ceisiodd yr adolygiad nodi’r ffactorau sy’n gysylltiedig â hunanladdiad ymhlith pobl ifanc 10-18 oed yng Nghymru. 

Mae’r adolygiad yn trafod 33 o achosion o blant a phobl ifanc a gymerodd eu bywydau eu hunain. Roedd rhai o’r materion a oedd yn gysylltiedig â’r hunanladdiadau hyn yn cynnwys camddefnyddio sylweddau; tlodi; cam-drin ac ymosod rhywiol; profedigaeth; cywilydd; anawsterau mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; a diffyg ymwybyddiaeth ynghylch hunan-niwed.

Mae’r adolygiad yn nodi mai anaml y ceir un rheswm pam y mae plentyn neu berson ifanc yn cymryd ei fywyd ei hun. Mae fel arfer oherwydd amrywiaeth o ffactorau risg, amgylchiadau a phrofiadau niweidiol. Er gwaethaf hyn, mae’n bosibl atal hunanladdiad. 

Mae’r adolygiad yn nodi chwe chyfle allweddol i atal hunanladdiad ymhlith plant a phobl ifanc. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  1.  Atal camddefnyddio alcohol a sylweddau.  Gan gynnwys camau gweithredu parhaus i gyfyngu ar fynediad plant a phobl ifanc i alcohol, ynghyd â gweithredu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) yn llawn i atal camddefnyddio sylweddau.
  2.  Lliniaru Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Gan gynnwys ymyriadau parhaus i blant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel cam-drin rhywiol, ymosodiadau rhywiol neu drais domestig. Dylai hyn hefyd gynnwys mwy o ymgysylltu â byrddau diogelu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd amddiffyn plant rhag effeithiau trais domestig a cham-drin rhywiol i atal hunanladdiad a hunan-niwed.
  3.  Rheoli hunan-niwed.  Gan gynnwys gweithredu canllawiau NICE ar gyfer rheoli hunan-niwed sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc yn llawn.
  4.  Codi oedran cymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Gan gynnwys ymchwilio i ddulliau cymorth i sicrhau bod plant a phobl ifanc rhwng 16 ac 18 oed yn cael eu cefnogi mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant; gan gynnwys hyfforddiant seiliedig ar waith.
  5.  Rhannu gwybodaeth yn well. Gan gynnwys ymchwilio i sut y gall gwybodaeth gael ei rhannu rhwng lleoliadau addysg nad ydynt yn rhai’r wladwriaeth, fel ysgolion preifat, a gwasanaethau’r wladwriaeth.
  6.  Gwell gwybodaeth am hunan-niwed a ffactorau risg eraill ar gyfer hunanladdiad ac ymwybyddiaeth o hyn. Gan gynnwys archwilio ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth o gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hunan-niwed a ffactorau risg eraill ar gyfer hunanladdiad, cynllunio diogelwch, cymorth i geisio gwasanaethau a chael mynediad iddynt, yn ogystal â mynd i’r afael â stigma.

Mwy o wybodaeth yma: https://icc.gig.cymru/newyddion/newyddion/osgoi-trasiedi-atal-hunanladdiad-ymhlith-plant-a-phobl-ifanc-cymru/