Y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru
Amcangyfrifir bod sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru yn ymglymu dros 250,000 o bobl ifanc ac o leiaf 30,000 o oedolion sy’n wirfoddolwyr.
Mae’r sector ieuenctid gwirfoddol yn chwarae rhan hynod bwysig mewn cefnogi datblygiad, lles, hunan-barch, sgiliau cyflogaeth a sgiliau bywyd pobl ifanc.
Gwybodaeth am CWVYS
Y CWVYS ydy’r corff cynrychiadol ar gyfer y sector ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru. Mae’n gorff elusennol annibynnol sydd yn hyrwyddo gwaith ieuenctid o ansawdd ac yn cynrychioli diddordebau ei aelodaeth a’r sector ehangach.
I gael gwybod am ein tarddiad a’n hanes, gweler y dudalen hon; https://www.cwvys.org.uk/about/hanes/?lang=cy
Gweledigaeth, Genhadaeth a Pum swyddogaeth allweddol CWVYS
Gweledigaeth
- Cymru lle mae pob person ifanc wedi’i rymuso gan wasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol arloesol, bywiog a chynaliadwy.
Genhadaeth
- Cynrychioli, cefnogi a rhoi llais ar y cyd i’w aelodaeth o sefydliadau gwaith ieuenctid gwirfoddol ledled Cymru. Mae CWVYS yn arwain ar gydweithredu a phartneriaethau ar ran y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru.
Pum swyddogaeth allweddol CWVYS
Cynrychiolaeth genedlaethol ac arweinyddiaeth strategol ar gyfer y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol
(gan gynnwys hwyluso, datblygu polisi, eiriolaeth, siapio a dylanwadu, cyfathrebu strategol, codi proffil gwasanaethau gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru ac yn rhyngwladol; cefnogi’r sector i gynnwys pobl ifanc wrth gynllunio a darparu gwaith ieuenctid arfer gorau)
Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth
(gan gynnwys hwyluso partneriaethau, hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru ac yn rhyngwladol)
Pencampwyr cyfnewid gwybodaeth
(gan gynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ar gyllid, gwybodaeth bolisi, adnoddau, cyfleoedd a digwyddiadau)
Dathlu, mesur a chydnabod effaith gymdeithasol, economaidd a diwylliannol y sector gwaith ieuenctid gwirfoddol yng Nghymru
(gan gynnwys hyrwyddo arfer gorau gwaith ieuenctid, sicrhau ansawdd, datblygu/hyfforddi/achrediad, casglu data, ymchwilio a gwerthuso)
Buddion, cyfleoedd a datblygiadau aelodaeth
(cefnogaeth i, ac ymrwymiad i ddatblu gelodaeth o sefydliadau amrywiol, bywiog sy’n seiliedig ar werthoedd, ledled Cymru, gan gynnwys cynrychiolaeth ranbarthol).
Aelodaeth
Mae gan y CWVYS nifer o fudiadau sy’n aelodau, o gyrff cenedlaethol gyda llawer o grwpiau ieuenctid cyfansoddol, i fudiadau sydd wedi’u sefydlu’n fwy lleol neu’n rhanbarthol.
Mae’r CWVYS yn ennill cryn gryfder ac adnoddau o’i aelodaeth. Mae’n gweithio i, a gyda’r sector ieuenctid gwirfoddol ar y cyfan, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae’r CWVYS yn gweithio’n gydweithredol gydag amrywiaeth eang o asiantaethau partner, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau ieuenctid Awdurdod Lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru a Grŵp Asiantaeth Hyfforddiant, Bwrdd Gwaith Ieuenctid a’r EWC.
Mae polisi a gweithdrefn gwyno CWVYS i’r cyhoedd i’w gweld yma: CWVYS Complaints policy and procedure (W)