Mae’n Wythnos Ymddiriedolwyr! Bob blwyddyn rhwng y 7fed a’r 11eg o Dachwedd mae Wythnos Ymddiriedolwyr yn digwydd. Mae’n amser i sefydliadau fyfyrio ar bwysigrwydd eu Hymddiriedolwyr, dathlu eu hymroddiad a diolch iddynt am eu holl waith caled a’u cefnogaeth.

Thema’r wythnos eleni yw “gwneud gwahaniaeth mewn amser o newid”.

I’r rhai ohonom yn y Sector Ieuenctid Gwirfoddol rydym wedi profi llawer o newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Un peth sy’n parhau’n gyson yw’r rhan hanfodol y mae Ymddiriedolwyr yn ei chwarae wrth gadw’r sector i fynd, a’r Wythnos Ymddiriedolwyr hon hoffai CWVYS ddiolch yn fawr iawn i’n Hymddiriedolwyr gwych, ac i’r holl Ymddiriedolwyr sy’n gweithio’n galed ar draws y sector.

Diolch yn fawr iawn i chi gyd!