Mae Eurodesk UK wedi lansio Galwad i ymuno â nhw i hyrwyddo cyfleoedd rhyngwladol i bobl ifanc.

Maent am glywed gan unigolion sydd â phrofiad yn y sector ieuenctid, sy’n angerddol am weithio, astudio neu wirfoddoli dramor, i ymuno fel Llysgennad Eurodesk UK.

Mae rhwydwaith Eurodesk yn cynnwys 36 o wledydd a mwy na 1100 o bwyntiau gwybodaeth, felly mae’n ffordd wych o adeiladu cysylltiadau. Ymhlith y buddion eraill mae hyrwyddo ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol; gwahoddiad i seminarau a hyfforddiant; cefnogaeth ar-lein; a chyflenwadau o ddeunyddiau hyrwyddo.

I wneud cais, mae ffurflen fer i’w chwblhau, a’r dyddiad cau yw 6 Ebrill 2020.

Darganfyddwch fwy yma https://www.eurodesk.org.uk/ambassadors