Ymddiriedolwyr ar Bwrdd
Cynnig Newydd CWVYS i’w Aelodaeth 2026;
Bydd CWYVYS yn recriwtio, hyfforddi a gwirio gwirfoddolwyr o fusnesau ledled Cymru; gan gynnig cyfle o gydweithio unigryw i’ch sefydliad. Byddwn yn eich helpu i gael mynediad at y gwirfoddolwyr hyn i’ch helpu gyda’r gwaith rydych chi’n ei wneud.
Sut mae’n gweithio?
- Ar gyfer unrhyw aelod o CWVYS sy’n dymuno cymryd rhan, byddwn yn cynnal dadansoddiad sgiliau o’ch bwrdd.
- O’r fan honno, bydd Eifion o’n rhaglen ‘Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd’ yn gweithio gyda chi i sicrhau aelod bwrdd ychwanegol, gan ddod â sgiliau ychwanegol gyda nhw i helpu chi i gynnal a thyfu.
- Byddwn yn gweithio gyda chi drwy gydol y broses fel bod y sgiliau a gynigir yn briodol ac yn ddymunol.
- Byddwn yn darparu cefnogaeth barhaus, ar ôl y lleoliad, am hyd y rhaglen 18 mis.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch ag Eifion Williams, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cynghori Busnes CWVYS drwy 07597 590551 neu eifion@cwvys.org.uk
In This Section
Upcoming Events
Recent News
Cyfleoedd a diweddariadau’r Comisiwn Etholiadol
1st May 2026
Arolwg Lleisiau dros Effaith a Phanel Ymgynghorol Cymru
1st May 2026
Diweddariad Corff Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid yng Nghymru Ebrill 2026
30th April 2026